Cyngor Gwynedd yn dweud wrth ddyn am beidio glanhau arwyddion
- Cyhoeddwyd
Mae Cyngor Gwynedd wedi dweud wrth ddyn am beidio â glanhau arwyddion ffordd, ar ôl iddo dderbyn clod ar-lein am wneud.
Dywedodd Dylan Edwards, 56 o Fethesda, iddo gael ei ysgogi i lanhau arwyddion ar ôl synnu ar ba mor "ddiawledig o fudr" oedden nhw wrth yrru heibio.
Mae wedi derbyn cryn dipyn o glod ar-lein wedi iddo rannu lluniau o'i waith ar yr arwyddion ger y gylchfan yn Nhreborth ar gyrion Bangor.
Mae'n dweud ei fod wedi cael ceisiadau i lanhau arwyddion budr eraill yn y sir, ond ychwanegodd ei fod yn poeni am ymateb y cyngor i'w waith gwirfoddol.
Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Gwynedd eu bod yn "gwerthfawrogi cyfraniad" Mr Edwards ond mai "swyddogion sydd wedi derbyn hyfforddiant priodol ddylai gario allan unrhyw waith o fewn ffiniau'r briffordd gyhoeddus".
Dywedodd Mr Edwards ei fod wedi dechrau glanhau arwyddion ffordd budr rhyw bedair blynedd yn ôl wedi iddo ddechrau ei fusnes glanhau ffenestri a chwteri.
"Nes i ddechrau llnau seins pan o'n i'n cael adegau distaw rhwng jobsys, ond nes i stopio ar ôl i rywun o'r cyngor mwy neu lai dd'eud i fi beidio," meddai.
"Oedd pobl wrth eu bodd yn cael seins glan - doedd dim ots genna i, o'n i m'ond yn 'neud o yn fy amser rhydd ond nes i roi'r gorau idda fo."
Ond ar ôl pedair blynedd o gadw draw oddi wrth arwyddion ffordd budr, dywedodd Mr Edwards iddo ymestyn am y jet washer unwaith eto ar ôl bod yn gyrru o amgylch ei ardal leol yn ddiweddar.
"Arglwydd mawr, oedd 'na olwg arnyn nhw," meddai.
"Ti'm yn gweld yr arwydd na dim byd - oedden nhw mor wyrdd.
"Nes i basio nhw tua dwsin o weithia dros ryw dri mis, a nes i feddwl 'fedra i ddim madda'.
"So pan es i heibio dydd Mawrth, es i nôl rownd y roundabout a stopio ar y pafin i neud nhw - 'naeth o m'ond gymryd ryw 10 munud."
Rhai arwyddion yn 'ddiawledig o fudr'
Mae pobl "wrth eu bodd" gyda'i waith, meddai Mr Edwards, gan ychwanegu bod nifer o bobl wedi ei holi am lanhau mwy o arwyddion yn y dyfodol.
"Ar ôl i fi 'neud o, oedd lot o bobl yn commentio yn deud 'da iawn' a bob dim.
"Dwi'n hapus i 'neud nhw yn fy amser sbâr rhwng jobs, ond dwi'n poeni 'chydig bach am be' 'sa'r cyngor yn d'eud os 'swn i'n cario 'mlaen.
"Mae rhei o'r seins 'ma'n ddiawledig o fudr - i feddwl fod o m'ond yn cymryd rhyw 10 munud, chwarter awr i 'neud.
"Os ma'r cyngor isio rhywun i sortio nhw, geith nhw roi'r cynnig cynta' i fi!"
'Sefyllfa beryglus' i aelodau'r cyhoedd
Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Gwynedd: "Rydym yn gwerthfawrogi cyfraniad aelodau o'r cyhoedd tuag at wella'r amgylchedd lleol ond mae diogelwch pawb sydd yn defnyddio'r priffyrdd yn flaenoriaeth i ni fel cyngor.
"Am y rheswm yma ni ddylasai aelodau'r cyhoedd roi eu hunain mewn sefyllfa beryglus ar unrhyw adeg a phwysleisir mai ond swyddogion sydd wedi derbyn hyfforddiant priodol ddylai gario allan unrhyw waith o fewn ffiniau'r briffordd gyhoeddus.
"Byddwn yn cynghori unrhyw un sydd yn dod ar draws problem fyddai yn cynnwys adrodd am arwyddion budr, i gysylltu gyda'r cyngor."