Cyfle i glwb rygbi ddathlu yn dilyn effaith 'torcalonnus' Storm Bert

Tim rygbi dynion Cross Keys ar ol iddyn nhw guro Merthyr i gyrraedd rownd derfynol Cwpan Uwch-Gynhrair CymruFfynhonnell y llun, Angie Prangell
Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth tîm dynion Cross Keys drechu Merthyr yn rownd gynderfynol Cwpan Uwch-Gynhrair Cymru

  • Cyhoeddwyd

Fe fydd tîm rygbi gafodd eu gorfodi i chwarae ar gaeau ysgol gynradd yn sgil effaith llifogydd diweddar, yn camu ar faes Stadiwm Principality dros y penwythnos.

Fe wnaeth Storm Bert achosi difrod sylweddol i gaeau Clwb Rygbi Cross Keys ger Caerffili nol ym mis Tachwedd 2024, gyda'r cae ac adeilad y clwb o dan chwe throedfedd o ddŵr.

Ond, diolch i ddyfalbarhad y gwirfoddolwyr, y chwaraewyr a'r tîm hyfforddi, mae'r clwb wedi mynd o ddelio gyda dinistr i freuddwydio am ennill tlws.

Ddydd Sadwrn fe fydd Clwb Rygbi Cross Keys yn wynebu Pontypridd yn rownd derfynol Cwpan yr Uwch-gynhrair yn y brifddinas.

Caeau rygbi Cross Keys o dan ddwr yn dilyn Storm Bert yn Nhachwedd 2024Ffynhonnell y llun, Huw Evans Picture Agency/WRU
Disgrifiad o’r llun,

Caeau rygbi Cross Keys o dan ddŵr yn dilyn Storm Bert yn Nhachwedd 2024

Mae'n nos Iau ar gaeau ymarfer Clwb Rygbi Cross Keys, a'r tîm yn gwneud eu paratoadau funud olaf cyn iddyn nhw wynebu Pontypridd.

Ond er bod un llygad ar y diwrnod mawr yn Stadiwm Principality - ychydig fisoedd yn ôl roedd sefyllfa'r clwb yn dra gwahanol.

Fe wnaeth storm Bert ym mis Tachwedd y llynedd achosi dinistr ar draws De Cymru - a doedd Cross Keys ddim yn eithriad.

Cafodd y caeau chwarae a phrif adeilad y clwb eu difrodi gan y dŵr.

Craig Palmer - un o wirfoddolwyr clwb rygbi Cross Keys
Disgrifiad o’r llun,

Mae 'na "deimlad ffantastig yn y clwb" erbyn hyn, yn ôl Craig Palmer

Mae Craig Palmer, un o wirfoddolwyr y clwb, sy'n rhedeg y llinell ac yn paratoi'r cit, yn dweud bod yr olygfa wedi'r llifogydd yn dorcalonnus.

"Roedd e'n mynd o'r posibilrwydd y bydde'r afon yn gorlifo, ac wedyn o fewn awr roedd dŵr ar draws y cae, ar draws y training paddock, popeth," meddai.

"Roedd 'na ddŵr yn y lounge, uwchben y cadeiriau, bron lan i'r bar. Roedd e fel pwll enfawr fan hyn, a dŵr nasty oedd e. Roedd e'n ddiawledig ac roedd 'na arogl yma ac roedd e ymhobman, absolute bobman.

"Nes i ddod lawr ar y dydd Sul pan roedd 'na ddŵr ymhobman ac roedd e just yn torri'ch calon chi. Ond roedden i yma wedyn ar y dydd Llun a just meddwl 'reit next job off a ni', glanhau popeth lan a nawr mae'n edrych fel bod dim byd yma o gwbl, bod 'na fyth dŵr (wedi bod) yma.

"Mae 'na deimlad ffantastig yn y clwb, rili rili good," ychwanegodd.

Cadeiriau wedi cwympo a mwd ar y llawr tu fewn i glwb rygbi Cross KeysFfynhonnell y llun, Angie Pragnell
Disgrifiad o’r llun,

Yr olygfa y tu mewn i glwb rygbi Cross Keys wedi'r llifogydd

Pobl yn clirio'r llanast yn y clwbFfynhonnell y llun, Huw Evans Picture Agency/WRU
Disgrifiad o’r llun,

Daeth y gymuned leol at ei gilydd i helpu gyda'r gwaith clirio

Roedd y difrod yn golygu nad oedd modd agor adeilad y clwb am dair wythnos, ac roedd hynny'n golygu nad oedd 'na incwm.

Er hynny roedd dal angen talu biliau, a chostau ychwanegol hefyd yn sgil yr holl waith adfer.

Dyma oedd yr eildro i'r clwb rygbi wynebu llifogydd difrifol yn dilyn Storm Dennis yn 2020.

Ond fe ddaeth y gymuned ynghyd i helpu'r clwb, a throi sefyllfa anobeithiol mewn i lwyddiant ar y cae.

Bachwr Cross Keys, Connah Hughes ar noson ymarfer y clwb
Disgrifiad o’r llun,

Mae rownd derfynol y cwpan yn gyfle i ddathlu yn ol bachwr Cross Keys, Connah Hughes

Mae'r rownd derfynol ddydd Sadwrn yn gyfle i'r clwb ennill tlws, ond mae hefyd yn gyfle i ddathlu'r holl ymdrech gan bawb sy'n gysylltiedig â'r clwb yn ystod y tymor.

"Mae'r bois wedi bod yn gweithio'n galed, ond hefyd y gymuned tu ôl i ni, y backroom staff, yr hyfforddwyr, maen nhw i gyd wedi bod yn gweithio mor galed trwy'r tymor," eglura Connah Hughes, bachwr Cross Keys.

"Mae'n amser i gael rhyw fath o wobr am ein gwaith caled ni.

"Bydd e'n neis cal y dydd mas yn y stadiwm, mae'n irrelevant beth yw'r result, mae'n gyfle i ni fynd mas a dangos pwy ydyn ni fel cymuned ac fel clwb rygbi."

Mae modd gwylio rownd derfynol Cwpan yr Uwch-Gynghrair ar S4C am 17:15 ar ddydd Sadwrn 5ed Ebrill.

Pynciau cysylltiedig