Cwmni cynllun peilonau i fynd â thirfeddianwyr i'r llys

dim peilons
Disgrifiad o’r llun,

Mae cryn wrthwynebiad wedi bod i godi'r peilonau

  • Cyhoeddwyd

Mae cwmni sy'n cynllunio codi milltiroedd o beilonau drwy gefn gwlad Cymru wedi cadarnhau eu bod yn mynd â thirfeddianwyr i'r llys.

Dywedodd cwmni Green GEN Cymru wrth raglen Newyddion S4C fod 11 gwrandawiad llys wedi eu cadarnhau wedi i berchnogion tir wrthod caniatâd i'w swyddogion gael mynediad i'w tir.

Bydd y gwrandawiadau cyntaf ar 7 a 14 Ebrill.

Mewn datganiad, dywedodd Green GEN Cymru eu bod yn ceisio gweithio yn gadarnhaol gydag unigolion a chymunedau, a bod ganddyn nhw hawl gyfreithiol i gael mynediad at dir.

Adam Price
Disgrifiad o’r llun,

Mae Adam Price AS wedi rhybuddio'r cwmni rhag parhau gyda'r cynlluniau

Ond mae Aelod Senedd Plaid Cymru dros Ddwyrain Caerfyrddin a Dinefwr, Adam Price, wedi rhybuddio'r cwmni rhag parhau, gan ddweud ei fod yn ofni y gallai'r bygythiadau cyfreithiol arwain at wrthdaro.

"Pam bygwth cyfraith yn erbyn unigolion a chymunedau? Gadewch i ni gymryd cam yn ôl a chael deialog," meddai.

"Os yw'r cwmni yn parhau ar hyd y llwybr yma o gymryd camau bygythiol cyfreithiol, gan dargedu unigolion o fewn cymunedau, mae'r gymuned yn mynd i ymateb.

"Ry'n ni'n wynebu sefyllfa lle, os bydd y gymuned yn parhau â'r strategaeth yma, byddwn ni'n gweld gwrthdaro cymdeithasol ar raddfa fawr yn erbyn y cynlluniau yma."

'Mynd i newid y tirlun yn gyfan gwbl'

Mae Dyfan Walters yn byw ar gyrion Llanymddyfri yn Sir Gâr wrth ymyl un o'r llwybrau arfaethedig o beilonau.

Mae eisoes wedi gwrthod mynediad i'w dir i weithwyr Green GEN Cymru ac yn dweud nad yw'n ofni mynd i lys.

Dyfan Walters
Disgrifiad o’r llun,

Mae Dyfan Walters yn cyhuddo Green GEN Cymru o beidio gwrando ar gymunedau

"Mae'n mynd i newid tirlun yr ardal yn gyfan gwbl. O'r ymchwil ni 'di 'neud, mae ffordd well o 'neud e," meddai.

"Mae modd tanddaearu, a'r gost sy'n debyg iawn i beth mae Green GEN Cymru yn sôn am o ran pris codi'r peilonau.

"So sai'n gallu deall pam bydde rhywun eisiau symud 'mlaen gyda'r peilonau, pryd bydde'r gymuned yn fodlon gweithio gyda nhw er mwyn rhoi'r ceblau dan ddaear.

"Mae pobl yn poeni shwt gymaint am y cynlluniau 'ma. So nhw'n gwrando ar y cymunedau."

Dywedodd fod teimladau mor gryf yn lleol, y byddai pobl "yn sicr" yn fodlon mynd i'r llys i frwydro yn erbyn y cynlluniau.

Tir Dyfan Walters ar gyrion Llanymddyfri
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r cynlluniau'n nodi y byddai dau beilon ar dir Dyfan Walters ar gyrion Llanymddyfri

Dywed Green GEN Cymru eu bod yn "gweithio nawr i adeiladu rhwydwaith ynni gwyrdd i Gymru" fydd yn mynd i'r afael â'r "argyfwng ynni, argyfwng hinsawdd a'r argyfwng costau byw".

Mae tri chynllun arfaethedig gan y cwmni, gyda phob un yn golygu codi peilonau ar hyd milltiroedd o dir: Tywi-Teifi; Tywi-Wysg a Fyrnwy-Frankton.

Y bwriad yw cysylltu parciau ynni gwyrdd newydd gyda'r Grid Cenedlaethol.

Er i lefarydd ar ran y cwmni gytuno'n wreiddiol i gyfweliad gyda Newyddion S4C, fe dynnon nhw yn ôl ychydig oriau cyn i'r ffilmio ddigwydd.

Fe ddywedon nhw fod hynny o ganlyniad i feirniadaeth wleidyddol a'u dymuniad i fod yn gyson o ran eu datganiadau cyhoeddus.

Mewn datganiad fe ddywedodd y cwmni fod isadeiledd trydan o arwyddocâd cenedlaethol, a bod hawl felly ganddyn nhw i gael mynediad i dir.

Maen nhw'n dweud eu bod yn gweithio'n gadarnhaol gyda chymunedau ac yn cynnig talu am gyngor annibynnol proffesiynol i dirfeddianwyr yn ogystal â chynnig iawndal am unrhyw ddifrod i'r tir sydd yn digwydd yn ystod archwiliadau.

Dywed y cwmni y gallai anghenion trydan Cymru dreblu erbyn 2050, a bod angen seilwaith grid newydd ar frys i fynd i'r afael â hynny.