Mapio blodyn cenedlaethol Cymru wedi pryder colli rhywogaethau

- Cyhoeddwyd
O'r Sussex Bonfire i'r Rip van Winkle, mae 'na fwy na 26,000 o wahanol fathau o gennin Pedr.
Mae'r Gymdeithas Arddwriaeth Frenhinol (RHS) wedi cychwyn ymgyrch i fapio blodyn cenedlaethol Cymru eleni er mwyn darganfod ble mae'r amrywiaethau gwahanol yn tyfu a sut effaith mae newid hinsawdd yn ei gael arnynt.
Mae'r apêl yn gofyn i bobl gofnodi lle maen nhw, pa fath ydyn nhw a'u maint a'u lliw. Maen nhw hefyd yn gofyn i bobl gadw llygad am dri math sy' mewn peryg o ddarfod.
Bu'r arbenigwraig ar arddio, Carol Williams, yn siarad ar Dros Frecwast ar Radio Cymru am yr ymgyrch.

Carol Williams
Meddai am y blodyn melyn sy' wedi ymddangos yn gynnar mewn rhai llefydd eleni: "Mae gweld nhw ynghyd â'r eirlysiau – mae'r tywydd drwg tu ôl i ni ac mae'r gwanwyn ar ei ffordd.
"Mae hynny (yr ymddangosiad cynnar) yn bendant oherwydd newid hinsawdd. Dwi'n cofio llynedd mi oedd pobl yn cael trafferth mawr cael gafael ar gennin Pedr erbyn 1 Mawrth achos oeddan nhw wedi blodeuo ac wedi darfod erbyn y dyddiad.
"Ond maen nhw yn dod yn ôl bob blwyddyn a'r un fath eleni. Un blodyn ti'n cael o fylbyn y cennin Pedr – os ydy o wedi blodeuo 'neith o ddim rhoi blodyn arall i ti."
Arolwg
Mae'r arolwg yn awyddus i wybod beth mae pawb yn tyfu ac, yn ôl Carol: "Mae 'na dri maen nhw'n meddwl bod nhw wedi colli yn benodol.
"Mae beth 'da chi'n chwilio am ar wefan yr RHS – yr enwau ydy y Sussex Bonfire, sy'n un dwbl melyn.
"A Mrs William Copeland, sef un gwyn efo trwmped pinc neu lliw coral.

Mrs William Copeland
"Ac hefyd Mrs RO Bakehouse ydy'r un lliw pinc. Mae rhein i gyd yn gennin Pedr reit dal."

Mrs RO Bakehouse
Roedd cennin Pedr wedi'u datblygu yn wreiddiol gyda phwrpas meddygol ond erbyn yr 1800au roedd y blodyn yn boblogaidd ofnadwy yng ngerddi Prydain.
Mae Carol ei hun yn tyfu cennin Pedr bychan sy'n para'n hirach mewn tywydd drwg.
Meddai: "Bob blwyddyn mae 'na fwy a mwy o rai gwahanol yn dod ac mae'n beth personol ofnadwy, beth bynnag sy'n mynd â'ch bryd chi.
"Mae gynnoch chi'r February Gold gyda sgert felyn. Neu mae un fwy coch eto, y Jack Snipe. Mae'r Rip van Winkle yn un hen ofnadwy ond mae'n un dwbl a phen trwm ofnadwy. I mi mae'n ddel ond gewch chi law ar hwn ac mae'r pen yn gwyro i lawr.
"Mae'n dibynnu lle 'dach chi'n byw a beth sy'n mynd â'ch ffansi."
Pynciau cysylltiedig
Hefyd o ddiddordeb
- Cyhoeddwyd24 Mawrth 2024
- Cyhoeddwyd8 Mai 2023