Cyhuddo dyn o lofruddiaeth yn Hafod, Abertawe
- Cyhoeddwyd
Mae dyn wedi bod ger bron llys wedi’i gyhuddo o lofruddio dyn 27 oed yn ardal Abertawe.
Ddydd Sadwrn cafodd Paul Rosser, 49 oed o Gendros, ei gadw yn y ddalfa wedi iddo fod ger bron Llys Ynadon y ddinas a bydd yn ymddangos ger bron Llys y Goron Abertawe ddydd Llun.
Bu farw Joshua Norman wedi iddo gael anafiadau difrifol ar Heol y Cwm, yn ardal Hafod, tua 12:00 ddydd Mercher, 11 Medi.
Mewn teyrnged iddo dywedodd ei deulu: “Roedd Joshua yn fab, tad, brawd ac ewythr cariadus a oedd yn poeni’n fawr am ei deulu i gyd.
“Roedd yn berson hardd. Byddai ei wên a'i synnwyr digrifwch yn goleuo unrhyw ystafell ac unrhyw galon.
“Byddwn yn gweld ei eisiau’n ofnadwy ac ry'n yn gofyn am breifatrwydd ar yr adeg hon i alaru am golli ein mab annwyl.”
Mae dyn 31 oed gafodd ei arestio mewn cysylltiad â’r digwyddiad wedi cael ei ryddhau ar fechnïaeth.
Mae dau ddyn arall yn eu tridegau, a gafodd eu harestio hefyd, wedi cael eu rhyddhau tra bod yr ymchwiliad yn parhau.