Elfyn Evans yn gorffen yn yr ail safle yn rali Monte Carlo
- Cyhoeddwyd
Mae Elfyn Evans wedi gorffen yn yr ail safle yn rownd agoriadol Pencampwriaeth Rali'r Byd ym Monte Carlo.
Fe orffennodd y Cymro a'i gyd-yrrwr Scott Martin 18.5 eiliad y tu ôl i'w gyd-aelod o dîm Toyota, Sebstian Ogier - sydd bellach wedi ennill y rali yma ar ddeg achlysur.
Adrien Fourmaux o dîm Hyundai orffennodd yn y trydydd safle, gyda Kalle Rovanpera - hefyd o dîm Toyota - yn bedwerydd.
Mae'n ddechrau da i'r tymor i'r gyrrwr o Ddinas Mawddwy, sydd wedi gorffen yn yr ail safle yn y bencampwriaeth bedair gwaith yn y pum tymor diwethaf.
Fe fydd ail rownd y bencampwriaeth yn cael ei gynnal yn Sweden rhwng 13-16 Chwefror.
Canlyniad Rali Monte Carlo:
1. Sebastien Ogier (Toyota)
2. Elfyn Evans (Toyota)
3. Adrien Fourmaux (Hyundai)
4. Kalle Rovanpera (Toyota)
5. Ott Tanak (Hyundai)
6. Thierry Neuville (Hyundai)
7. Josh McErlean (M-Sport Ford)
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd5 o ddyddiau yn ôl