'Stori person sy'n ysbrydoli fy llwyau caru'
- Cyhoeddwyd
"Mae'r traddodiad yn hollol hyfryd, bod rhywun yn creu rhywbeth allan o gariad efo'r deunyddiau sy' gyda nhw yn eu dwylo ac yn cymryd rhywbeth cyffredin fel coed tân a'n creu rhywbeth hyfryd allan ohono fo i'r person maen nhw'n caru."
Ȃ hithau'n Ddiwrnod Santes Dwynwen bu'r artist Ceini Spiller yn rhannu sut mae'r grefft a'r traddodiad o lwyau caru yn ysbrydoli ei gwaith hi.
Mae llwyau caru Ceini wedi eu cartrefu ar draws y byd erbyn hyn ond llwy garu personol iawn oedd y cyntaf i'r grefftwraig o Abertawe i gerfio yn 2007, fel mae'n esbonio wrth Cymru Fyw.
Ar y pryd roedd Ceini'n hyfforddi i fod yn fydwraig yn Abertawe ac yn awyddus i roi anrheg i'w mam i'w diolch am ei chefnogaeth: "O'n i'n gwybod bod fi isho neud rhywbeth sbeshal i Mam a 'nes i benderfynu neud llwy garu iddi hi achos o'n i'n gwybod fydde hi yn gwerthfawrogi fo.
"O'n i byth wedi cerfio o'r blaen, o'n i wedi neud gwaith coed fel Lefel A ond byth wedi defnyddio cyllell gerfio i wneud rhywbeth cywrain.
"'Nes i gael pren a ffeindio stanley knife a dechrau hacio'r pren a 'nes i rhywsut neud llwy garu. Mae'n edrych fel torch pan ti'n edrych arno rŵan ond ar y pryd oedd o'n rial bersonol i Mam, oedd hi wrth ei bodd ac oedd ei gwyneb hi yn bictiwr pan oedd hi wedi derbyn o.
"Oedd rhywbeth wedi cyffwrdd fi ac o'n i'n meddwl, dwi angen i bobl eraill deimlo hyn. Felly dyna sut wnaeth o ddechrau. Dwi heb gael fy nysgu na dim byd, jest dysgu fy hun wrth drio."
Erbyn hyn mae llwyau caru Ceini yn fwy cywrain ac mae'n gallu cymryd mwy na 200 awr i greu un comisiwn.
Mae Ceini hefyd yn gweithio mewn ysgol felly mae'r gwaith pren yn rhywbeth mae hi'n ei wneud pan mae ganddi amser, rhywbeth sy'n gallu bod yn her gan fod ganddi feibion ifanc: "Mae o'n jygl ond mae bron fel therapi ar ddiwedd y dydd achos dwi'n mwynhau o gymaint. Mae neud rhyw fath o gelf yn helpu lles.
Traddodiad
"Dwi hefyd wrth fy modd efo'r traddodiad – bod un person yn creu o i'r person maen nhw'n garu so mae o'n rhywbeth hollol bersonol, ond erbyn heddiw, wrth gwrs ddim pawb sy' â'r amser na'r gallu i neud.
"Dwi fel middle man ac fel arfer yn cael fy nghomisiynu i neud y llwyau caru mwyaf cywrain felly dwi'n dod i adnabod y pobl yn gyntaf ac wedyn mae'r llwy gan un person i'r person arall a bydd 'na fyth lwy tebyg iddo fo.
"Dod â'r traddodiad yna yn ôl dwi'n trio gwneud yn hytrach na neud rhywbeth mass produced. Maen nhw'n fwy unigryw a'n fwy personol."
Ysbrydoliaeth
Cyn cychwyn cerfio mae Ceini yn dod i adnabod y person sy'n derbyn y llwy garu a dyma sy'n ysbarduno'r dyluniad, meddai: "Weithiau mae gair maen nhw'n dweud yn ysbrydoli fi ac yn rhoi darlun yn fy mhen i o sut dwi'n gweld y llwy.
"Dyna sut dwi'n cael yr ysbrydoliaeth, clywed stori rhywun. Dyna yw llwy garu, mae'n cyfleu cerrig milltir, mae'n cyfleu stori rhywun, pethau maen nhw'n caru ac sy'n bwysig iddi nhw. Stori person sy'n ysbrydoli fi.
"Dwi isho i'r llwy i fod yn timeline bywyd rhywun."
Datblygu'r traddodiad
Mae Ceini yn dilyn y traddodiad o greu y llwyau efo un cyllell gerfio, fel mae'n dweud: "Mae'r ffordd dwi'n creu nhw yn draddodiadol – mae'r symbolau yn draddodiadol ond dwi hefyd yn defnyddio mwy o symbolau a'n adio pethau.
"Mae hynna'n ffordd fi o symud y traddodiad ymlaen ond hefyd yn parchu o."
Os oes camgymeriad, mae'n rhaid cychwyn eto ac mae'n waith cywrain iawn, fel mae Ceini'n esbonio: "Achos bod y llwyau mor fawr mae'r darn o bren dwi'n dechrau i ffwrdd efo mor fawr er mwyn cael y trwch yn gywir os dwi'n neud y clymau neu'r tsiaen neu'r peli yn y caetsh.
"Dwi'n defnyddio un gyllell i gael gwared o lot o'r pren gyntaf ac wedyn cerfio y siapiau – mae'n cymryd oriau. Os mae rhywbeth yn torri wedyn mae'n ofnadwy."
Straeon personol
Mae 'na stori i bob un o'r llwyau mwya' cywrain, meddai Ceini, gyda pob manylyn yn y llwyau wedi cael ei ysbrydoli gan rhywbeth. Mewn un mi wnaeth guddio ffon gerdded yn y llwy: "Mae pethau wedi cael eu cuddio mewn rhai o'r llwyau a dim ond y person sy' 'di derbyn o sy'n gweld o ac mae hynny'n neud o'n bersonol i'r person yna.
"Dwi'n trio gwthio ffiniau dylunio a sgil fi ond hefyd yn parchu y traddodiad a'r ffordd mae o 'di cael ei greu."
Yn draddodiadol crefft dynion oedd creu llwyau caru yng Nghymru: "Ar y cyfan dynion sy' wedi creu nhw yn y ganrif ddiwethaf. Dw i'n meddwl mai fi yw'r unig ddynes sy'n neud nhw'n broffesiynol yng Nghymru. Mae 'na un ddynes yn America sy'n gwneud nhw.
"Dwi'n gweithio mewn ysgol ac mae o'n ysbrydoli merched ifanc i wybod bod ni fel merched yn gallu creu pethau sy'n draddodiadol wedi cael eu creu gan ddynion."
Erbyn hyn mae llwyau Ceini wedi teithio ar draws y byd gyda chomisiynau o Seland Newydd, Hong Kong, America a Canada.
Fel mae'n dweud: "Maen nhw wedi teithio i bobman."
Pynciau cysylltiedig
Hefyd o ddiddordeb
- Cyhoeddwyd31 Rhagfyr 2024
- Cyhoeddwyd3 Rhagfyr 2024
- Cyhoeddwyd21 Tachwedd 2024