Mwy o fyfyrwyr coleg a chweched dosbarth i dderbyn lwfans
- Cyhoeddwyd
Roedd derbyn y Lwfans Cynhaliaeth Addysg yn golygu bod modd i Charlotte barhau i astudio pan yr oedd arian yn brin.
"Os o'n i ddim wedi cael yr arian bydde fi ddim wedi gallu dod," meddai'r myfyriwr 19 19 oed yng Ngholeg y Cymoedd, Rhondda Cynon Taf.
Dydy'r trothwy incwm ar gyfer derbyn y grant o £40 yr wythnos ddim wedi newid ers 15 mlynedd ac felly mae'r nifer sydd yn gymwys wedi bod yn gostwng.
Ond o Fedi 2025, bydd y trothwy'n codi rhywfaint gan olygu bod 3,500 o fyfyrwyr ychwanegol yn gallu derbyn y taliadau, yn ôl Llywodraeth Cymru.
'Roedd prynu bwyd yn anodd'
Dechreuodd Charlotte, o Bontypridd, dderbyn y lwfans y llynedd ar ôl iddi symud allan o'i chartref.
Aeth i fyw gyda'i chariad ond pan gollodd ef ei swydd daeth arian "yn broblem fawr".
"Roedd prynu bwyd yn anodd - roedd y coleg wedi helpu fi allan efo hynny," meddai.
Dywedodd fod y Lwfans Cynhaliaeth Addysg, neu'r EMA, wedi ei helpu gyda chostau teithio i'r coleg ac, yn y pendraw, ei chefnogi i allu cael cymwysterau a bywyd gwell.
- Cyhoeddwyd1 Tachwedd 2024
- Cyhoeddwyd17 Ebrill 2023
- Cyhoeddwyd11 Ionawr
Mae Nia, 17, yn byw yng Nghaerffili a dywedodd fod y grant yn talu am adnoddau fel llyfrau a deunydd ysgrifennu.
"Dwi hefyd yn gallu prynu bwyd - does dim unrhyw straen achos dwi'n gwybod bod yr arian yn gallu prynu hynny i mi," meddai.
Mae'r lwfans yn "bwysig iawn", meddai Roxy, 16, o'r Rhondda.
Mae hi'n byw gyda'i modryb, ei hewythr a'i gefell a dywedodd y byddai "baich ariannol" ar eu haelwyd pe na bai'r ddau ohonyn nhw'n derbyn yr arian.
Daw'r cynnydd i'r trothwy incwm blynyddol ar gyfer derbyn y lwfans ar ôl i adroddiad nodi bod nifer y myfyrwyr oedd yn hawlio'r budd-dal wedi bod yn gostwng dros nifer o flynyddoedd.
Erbyn hyn mae tua 16,000 o fyfyrwyr yn derbyn y Lwfans Cynhaliaeth Addysg.
Yn ôl yr adroddiad, roedd 41% o fyfyrwyr16-18 oed yn derbyn y grant yn 2015/16 ond roedd hynny wedi gostwng i 15% erbyn 2022/23.
O'r flwyddyn academaidd nesaf, bydd y trothwy ar gyfer teuluoedd gydag un plentyn dibynnol yn codi o £20,817 i £23,400 ac ar gyfer aelwydydd â mwy nag un plentyn dibynnol mae'n newid o £23,077 i £25,974.
'Mwy o waith i'w wneud'
Wrth groesawu'r cam, dywedodd Jonathan Morgan, pennaeth Coleg y Cymoedd, y byddai codi'r trothwy yn helpu mwy o fyfyrwyr i ddod i'r coleg o fis Medi.
"Mae gennym gyfran fawr o ddysgwyr sy'n dod o gefndiroedd economaidd is", meddai.
Ychwanegodd fod "mwy o waith eto i'w wneud" wrth fynd i'r afael â'r costau sy'n wynebu myfyrwyr coleg, fel teithio, ond bod hyn yn "gam i'r cyfeiriad cywir".
Sut mae hawlio'r Lwfans Cynhaliaeth Addysg?
Taliad o £80 bob pythefnos yw'r Lwfans Cynhaliaeth Addysg i bobl ifanc 16 i 18 oed sy'n aros mewn addysg wedi'r cyfnod gorfodol.
Mae'n ddibynnol ar incwm y cartref ac o fis Medi 2025 bydd myfyrwyr yn gymwys os yw'r enillion blynyddol yn £23,400 neu'n is os mai nhw yw'r unig blentyn yn yr aelwyd, neu £25,974 neu'n is os oes mwy o blant yn y cartref.
Gall myfyrwyr chweched dosbarth neu fyfyrwyr colegau addysg bellach hawlio'r lwfans os ydyn nhw'n astudio cwrs academaidd neu alwedigaethol fel TGAU, Safon Uwch, BTEC neu gyrsiau sgiliau sylfaenol.
Gall eich ysgol neu goleg helpu gyda'r broses ymgeisio.
Cynyddodd y lwfans o £30 i £40 yr wythnos yn Ebrill 2023.
Mae Sefydliad Bevan, sy'n ymgyrchu ar faterion yn ymwneud a thlodi, wedi croesawu'r cynnydd i'r trothwy.
"Dylai hwn fod y cam cyntaf gan ein bod yn credu y dylid adolygu grantiau a lwfansau datganoledig yn rheolaidd", meddai Victoria Winckler o'r sefydliad.
Dywedodd y Gweinidog Addysg Bellach ac Uwch, Vikki Howells, fod y newidiadau i'r lwfans yn "becyn hael iawn".
Ychwanegodd ei bod yn awyddus i'w weld yn cael ei adolygu'n flynyddol.