Colleen Ramsey: Rysáit ravioli Santes Dwynwen

  • Cyhoeddwyd

A hithau wedi lansio podlediad newydd eleni fel rhan o Lleisiau Cymru, rhannodd Colleen Ramsey un o'i hoff ryseitiau rhamantus gyda Cymru Fyw.

Disgrifiad,

Cynhwysion

3 ŵy - 1 llawn a 2 melynwy

100g o flawd 00

Pinsiad o halen

Olew olewydd 'extra virgin'

Llwy fwrdd gwastad powdr betys

Llwy fwrdd mascarpone

Cig Cranc 50g

Croen hanner lemon

Llwy fwrdd dil wedi'i dorri

50g menyn

6 dail saets

Colleen Ramsey yn y geginFfynhonnell y llun, S4C

Dull

  1. I wneud y pasta, rhowch yr ŵyau, blawd, olew, powdr betys, a halen mewn cymysgydd gydag atodiad bachyn toes.

  2. Cymysgwch nes ei fod wedi'i gyfuno, tua 2 funud.

  3. Gosodwch y toes ar fwrdd â blawd arno, a thylino'r toes â llaw nes ei fod yn teimlo'n llyfn ac yn bownsio'n ôl pan gaiff ei wasgu.

  4. Gorchuddiwch â cling film a gadewch iddo oeri yn yr oergell am o leiaf 4 awr.

  5. Cymysgwch y cig cranc, y mascarpone, y dil a'r croen lemwn gyda'i gilydd gyda halen a phupur du i'w flasu.

  6. Ffurfiwch eich toes pasta yn betryal ac yna yn raddol, gwasgwch ef drwy beiriant pasta wedi'i osod i'r mwyaf trwchus i greu dwy ddalen o basta.

  7. Pan mae'r trwch cywir, gosodwch y toes ar wyneb fflat, a gosod peli bach o'r llenwad cranc arno gan adael digon o le rhwng bob un.

  8. Rhowch un ddalen o basta ar ben y llall a gwasgwch o amgylch y llenwad i greu parsel bach, gan dynnu'r aer allan ohono.

  9. Defnyddiwch dorrwr siâp calon i greu'r ravioli. Rhowch y parseli siâp calon ar fwrdd â blawd arno yn yr oergell am 20 munud i orffwys.

  10. Toddwch y menyn gyda'r dail saets nes bod y menyn ychydig yn frown ac yn gneuog.

  11. Rhowch eich ravioli i mewn i ddŵr hallt berwedig am 2 funud ac yna draeniwch yn ofalus.

  12. Gweinwch y pasta gyda'r saws menyn saets.

Mwynhewch!

Gwrandewch ar Bwyd gyda Colleen Ramsey ar BBC Sounds yn unig.

Pynciau cysylltiedig