Rhagor o rybuddion tywydd wrth i Storm Herminia daro Cymru

yr A5 ger Bethesda ar gau
Disgrifiad o’r llun,

Roedd yr A5 ger Bethesda, Gwynedd ar gau am gyfnod ddydd Sul ar ôl i goeden ddisgyn ar y ffordd

  • Cyhoeddwyd

Mae disgwyl rhagor o dywydd garw ddydd Llun wrth i Storm Herminia daro Cymru.

Mae'r Swyddfa Dywydd wedi cyhoeddi rhybudd melyn am law trwm fydd mewn grym tan 23:59 nos Lun, tra bod rhybudd arall am wyntoedd cryfion mewn grym tan 06:00 fore Mawrth.

Roedd cannoedd o aelwydydd heb drydan yn y de a'r gorllewin ddydd Sul wrth i'r tywydd garw effeithio ar gyflenwadau, tra bod adroddiadau o drafferthion ar y ffyrdd hefyd yn sgil coed oedd wedi disgyn.

Daw'r rhybuddion diweddaraf ar ôl i Storm Éowyn daro rhannau o'r wlad ddydd Gwener.

Daeth rhybudd Y Swyddfa Dywydd am law trwm i rym am 12:00 brynhawn Sul.

Yn ôl arbenigwyr, mae rhwng 20-40mm o law yn debygol o ddisgyn yn y mwyafrif o ardaloedd, tra bod rhwng 50-70mm yn bosib ar dir uchel.

Mae'r rhybudd am law yn berthnasol i siroedd Abertawe, Blaenau Gwent, Caerffili, Caerfyrddin, Castell-nedd Port Talbot, Ceredigion, Conwy, Dinbych, Gwynedd, Merthyr Tudful, Mynwy, Penfro, Pen-y-bont ar Ogwr, Powys, Rhondda Cynon Taf, Torfaen a Wrecsam.

Mae'r Swyddfa Dywydd yn rhybuddio fod rhywfaint o drafferthion i deithwyr yn bosib wrth i'r tywydd amharu ar wasanaethau trên a bws.

Am 08:30 roedd Cyfoeth Naturiol Cymru wedi cyhoeddi 17 rhybudd yn gofyn i bobl fod yn barod am lifogydd, dolen allanol.

car yn teithio mewn tywydd garwFfynhonnell y llun, mr universe / BBC Weather Watchers
Disgrifiad o’r llun,

Roedd y tonnau yn rhuo yng Nghonwy brynhawn Sul

Mae yna rybudd hefyd am wynt ar draws Cymru rhwng 06:00 ddydd Llun a 06:00 fore Mawrth ymhob un o siroedd Cymru heblaw am siroedd Dinbych, Fflint, Wrecsam ac Ynys Môn.

Yn ôl y Swyddfa Dywydd, mae hyrddiadau o hyd at 70mya yn bosib ar hyd yr arfordir, tra bod hyrddiadau hyd at 50mya yn debygol mewn mannau mewndirol.

Maen nhw'n rhybuddio y gallai'r gwyntoedd cryfion effeithio ar gyflenwadau trydan yn ogystal ag amharu ar wasanaethau trafnidiaeth gyhoeddus.

Dywedodd cwmni National Grid fod 773 o gwsmeriaid heb bŵer yn ne a gorllewin Cymru brynhawn Sul - gan gynnwys 189 ym Mhont Fadlen yn Sir Benfro.

Pynciau cysylltiedig