Hanes 'pwysig' y dref wnaeth groesawu 140 o blant oedd yn ffoi rhag y Natsïaid
- Cyhoeddwyd
"Dydy stori'r plant 'ma ddim wedi diflannu, a gobeithio bydd e byth yn diflannu".
Dyna obaith y cyn-brifathro Bryn Davies o Lanwrtyd wrth drafod sut wnaeth y dref groesawu tua 140 o ffoaduriaid ifanc o Tsiecoslofacia nol yn 1943.
Degawdau yn ddiweddarach ac mae'r atgofion o'r cyfnod a'r berthynas agos rhwng y ddwy gymuned yn dal yn fyw.
Bydd cyfres o ddigwyddiadau yn cael eu cynnal ar draws Cymru ddydd Llun i nodi erchyllterau'r Holocost, a'r ffaith ei bod hi'n 80 mlynedd ers i filwyr y cynghreiriaid gyrraedd Auschwitz-Birkenau, ble cafodd dros filiwn o bobl eu lladd.
Ym 1943 fe wnaeth Llywodraeth alltud Tsiecoslofacia sefydlu ysgol i ffoaduriaid yng Ngwesty Llyn Abernant, yn Llanwrtyd.
Un o'r disgyblion oedd y Fonesig Milena Grenfell-Baines. Mae hi'n dal i gofio cyrraedd y dref fach yng nghanolbarth Cymru a'r croeso cynnes a dderbyniodd hi.
"Prin oedd y dref wedi gweld unrhyw bobl o Lundain, heb sôn am dramorwyr o orllewin Ewrop, felly roedd yn rhaid i ni gyflwyno ein hunain," meddai.
"Wnaethon ni roi cyngerdd i'r bobl leol a chanu llawer o ganeuon Tsiecaidd ond fe orffennom ni drwy ganu Mae Hen Wlad Fy Nhadau yn Gymraeg.
"O'r diwrnod hwnnw cawsom ein mabwysiadu. Roedden ni gyd yn adnabod pawb ac roedd pawb yn ein hadnabod ni hefyd - roedd yn wych."
Dros y blynyddoedd mae Llanwrtyd wedi aros yn agos at galonnau'r plant ifanc ddaeth yma ac mae llawer wedi dychwelyd i'r dre ar sawl achlysur.
Mae Sarah Jones, sy'n gwirfoddoli yng Nghanolfan Dreftadaeth y dref, wrth ei bodd yn adrodd yr hanes i ymwelwyr.
"O'n nhw wedi gadael eu rhieni a'u cartrefi 'nôl yn Tsiecoslofacia a doedden nhw ddim wir yn gwybod i le oedden nhw'n dod," meddai.
"Ond roedd Llanwrtyd yn le diogel iddyn nhw ac roedden nhw'n gallu bod yn blant unwaith eto."
Llanwrtyd 'yn ein calonnau o hyd'
Ychwanegodd: "Dwi'n eu cofio yn dod 'nôl i'r dref yn yr 1980au.
"Mi oeddwn i yn yr ysgol gynradd... Cawson nhw aduniad ar ôl 40 mlynedd a daeth pawb yn ôl o wahanol lefydd o amgylch y byd i gwrdd 'ma."
Yng nghanol y dref mae plac wedi'i osod sy'n nodi: "Llanwrtyd, y dref leiaf yn y wlad, yw'r fwyaf yn ein calonnau o hyd".
Ym 1985, fe brynodd y cyn-ddisgyblion y linc aur gyntaf ar gyfer cadwyn y Maer, gan ei gyflwyno i Bryn Jones, y Maer ar y pryd. Wedi hynny, fe roddwyd Rhyddid y Dref i'r holl blant.
Yn ôl Maer presennol y dref, Martyn Pigott "mae'r cysylltiad rhwng Llanwrtyd a hanes y digwyddiad yn dal yn gryf iawn".
Ym 1993 fe wnaeth Llanwrtyd efeillio'n swyddogol gyda Český Krumlov yn Y Weriniaeth Tsiec, gan gadarnhau'r cysylltiadau amlwg rhwng y ddwy dref.
Mae Sarah Jones wedi ymweld a'r dref ddwywaith erbyn hyn, profiad y mae hi'n ei ddisgrifio fel un "bythgofiadwy".
Mae'r cyn-brifathro Bryn Davies, sydd nawr yn gadeirydd ar y Gymdeithas Efeillio, yn benderfynol o sicrhau nad yw'r hanes yn cael ei anghofio.
"Mae'n bwysig iawn i ni yn Llanwrtyd oherwydd roedd y plant 'ma wedi gadael eu cartrefi, ac fe wnaeth pobl Llanwrtyd roi cartref a chymryd y plant 'ma i'w calonnau.
"Mae'r holl beth yn anrhydedd, i ryw raddau, i Lanwrtyd a'r bobl oedd yn byw 'ma yn ystod y rhyfel.
Ychwanegodd: "Dydy beth ddigwyddodd yn ystod y rhyfel a stori'r plant 'ma ddim wedi diflannu, a gobeithio bydd e byth yn diflannu."
Erbyn heddiw mae hen ysgol y ffoaduriaid yn ganolfan gweithgareddau awyr agored.
Mae gwybodaeth am hanes y cyfnod, lluniau ac eitemau yn cael eu harddangos yn amlwg ym mynedfa'r ganolfan.
Dywedodd Rheolwr Canolfan Gwesty Abernant, Peter Griffiths, fod llawer o blant sy'n ymweld â'r adeilad yn dysgu mwy am yr Ail Ryfel Byd: "Da ni wedi ffeindio ceiniogau, hen bapur lapio sebon ac fe wnaethon ni ffeindio papur newydd Western Mail o 1943 dwi'n meddwl.
"Da ni wedi ffeindio gwaith papur gan y plant o Tsiecoslofacia a rhai o ysgol Bromsgrove yma hefyd," ychwanegodd.
- Cyhoeddwyd27 Ionawr 2020
- Cyhoeddwyd3 Tachwedd 2024
- Cyhoeddwyd24 Ionawr 2024
Dros y 15 mlynedd diwethaf mae'r Fonesig Grenfell-Baines wedi bod yn rhannu ei hatgofion a'i phrofiadau gydag eraill.
A hithau bellach yn 95 oed, mae'n credu bod yna wersi i'w dysgu o'r croeso cynnes a gafodd hi a'r plant eraill pan yr oedden nhw mewn angen.
"Mae hi mor bwysig bod pobl yn dysgu am yr hyn ddigwyddodd i ni fel plant.
"Am y ffordd y cawsom ni ein croesawu, nid fel ffoaduriaid neu rywun i fod yn wyliadwrus ohono, ond fel rhywun oedd angen gofal."