Cyn-actores Pobol y Cwm yn 100
- Cyhoeddwyd
"Bwyd yn ei bryd, siocled ac ambell i frandi."
Dyna'r gyfrinach i fyw nes eich bod yn 100 yn ôl Olive Tarr o Rydaman a ddathlodd ei phen-blwydd yn ganmlwydd oed ar 21 Ionawr.
Bu Olive yn chwarae rhan Dora Gwyther ar Pobol y Cwm am dros ddegawd.
Cyn hynny, chwaraeodd ran yn Teulu Tŷ Coch, yr opera sebon cyntaf yn y Gymraeg a ddarlledwyd ar y radio gan y BBC yn yr 1950au. Hefyd bu'n chwarae gwraig y gweinidog yn y ddrama radio Teulu'r Mans.
Fel un a wnaeth gyfraniad amhrisiadwy i ddramâu ar radio cynnar Cymraeg cyn mynd ymlaen i actio Mrs Gwyther ar Pobol y Cwm, dyma olwg ar yrfa ddisglair Olive.
Magwraeth yn Rhydaman
"Ges i 'nghodi yn Tŷ-croes a mynd i'r ysgol ramadeg yn Rhydaman.
"Ysgol Saesneg oedd hi bryd hynny wrth gwrs. Do'n i ddim yn gwybod fod yr athrawon yn medru siarad Cymraeg nes o'n i wedi gadael yr ysgol a dweud y gwir.
"Yr unig athro oedd yn siarad Cymraeg gyda ni bryd hynny oedd yr athro Cymraeg.
"Colier oedd fy nhad yn Pantyffynnon. O'n i'n deulu mawr, wyth o blant, oedd e'n gweithio yn galed i'n cadw ni, alla i weud wrthoch chi!
"Bydde fe'n mynd i'r gwaith am chwech y bore, dod adre tua pedwar a mynd i'r sinc mowr o flaen y tân. Doedd dim pithead baths bryd hynny ond fe ddethon nhw.
"Oedd fy Nhad yn mynd â fi i ryw steddfod bob dydd Sadwrn i adrodd, wedyn eisteddfodau'r Urdd, oedd rheiny yn bwysig iawn yn ein dyddiau ni a'r genedlaethol.
"Wedyn oedd 'na gwmni drama 'da ni yn yr ysgol ramadeg fan hyn – cwmni drama da iawn. Enillon ni'r cwpan dair blynedd yn olynol yn yr Urdd.
"Oedd dau frawd yn hynach na fi. Gafodd yr hynaf ei ladd adeg ryfel yn y llu awyr. Oedd e wedi dechrau gweithio gyda'r coalboard ac wrth gwrs daeth callup ag oedd rhaid mynd. Observer oedd e a gafodd e ei saethu i lawr.
"Daeth telegram 'nôl adre i'r teulu - reported missing - a wedyn telegram arall ar ôl hynny yn dweud mae'n rhaid fod e'n farw.
"Pan mae pethe fel'na yn digwydd 'dych chi ddim yn gwybod beth i wneud a'ch hunan.
Gwrandewch ar Olive yn sgwrsio ar Radio Cymru rai blynyddoedd yn ôl:
- Adran y stori
Dechrau ei gyrfa gyda'r BBC yn 1943
"Mi ddaeth Aneirin Talfan Davies [darlledwr i'r BBC] i fyw i Dŷ-croes.
"O'n nhw wedi cael eu bomio yn Abertawe [lle roedd stiwdios y BBC] ac oedd e'n gweud bod yna swyddi os o'ch chi'n Gymraes yn mynd yn y BBC a bo' nhw yn brin o bobl oedd yn siarad Cymraeg.
"Ges i gyfweliad a'r unig beth oedd raid i fi neud oedd cyfieithu darn o'r Gymraeg i'r Saesneg a dyna i gyd fuodd.
"Ond tipyn bach wedyn dyma nhw'n gofyn a licen i fynd i Lunden, swydd dros dro yn yr adran newyddion, a o'n i'n meddwl 'www, wel merch fach o'r wlad yn mynd i'r brifddinas am y tro cynta erioed'.
"A mi es a wnes i fwynhau'r gwaith. Ysgrifenyddes o'n i bryd hynny, doedd 'da fi ddim llawer o glem â gweud y gwir.
"O'n i'n mynd i Bedford College for Women yn y bore i ddysgu rwbeth am y gorfforaeth – rhaglenni tramor a phethau felly a hefyd ymarfer teipo.
"Ond yn y prynhawn – nol i BH os wedon nhw i gasglu'r newyddon a mynd i ystafell teleprinter i gasglu newyddion y rhyfel, cymryd newyddion o Fangor a Chaerdydd a 'neud tamed bach o gyfieithu.
"Hywel Davies ac Aneirin Talfan Davies a Delyth Lloyd, nhw oedd y tri oedd yn darllen y newyddion ond dim ond pum munud y dydd oedd e.
"Gorffon ni aros yn y BH am un noson o achos yr air raids. Fi'n cofio trio cysgu lawr yn y concert hall achos oedd hwnnw yn y basement bryd hynny, a'r lle mwya diogel o fewn yr adeilad.
"Ro'n i yn Llundain amser VE Day. Delyth Lloyd oedd yn neud y newyddion bryd hynny a mi aethon ni mas y noson hynny, o flaen Buckingham Palace a gweld y royal family ar y balconi – wel dyna yr unig dro i fi fod ag ofn yn fy mywyd.
"Roedd tyrfa fawr, ro'ch chi'n dynn at eich gilydd. O'ch chi'n cael eich codi ar eich traed bron, oedd e'n brofiad ofnadw'.
- Cyhoeddwyd12 Rhagfyr 2024
Dechrau actio ar y radio
"Er taw diwedd y ryfel oedd hi roedd yna raglen radio am hanes Cymru gyda disgybl ac athro.
"Yn cymryd rhan yr athro oedd Rhydwen Williams, a wir gofynnon nhw i fi neud y disgybl ac oedd isie iddo fe fod yn fachgen a fi oedd y bachgen... bachgen bach 8 mlwydd oed!
"Ar ôl hynny fe fues i'n 'neud llais bechgyn yn ddigon aml. Ar soap opera cynta' radio Cymraeg, Teulu Tŷ Coch, fi oedd y mab!
"Wedi hynny fe ddoth Teulu'r Mans ond rhaglen wythnosol oedd honna. Mab eto i ddechre ond mi wnes i adael y raglen am dipyn amser geni Ian, y mab ifanca, a phwy ddoth yn fy lle i oedd Huw Llywelyn Davies.
"O'n i'n nabod ei dad e yn eithaf da bryd hynny, ond wir pan es i 'nôl i Deulu'r Mans o'n i'n wraig y gweindiog felly o'n i'n fam i Huw Llywelyn am dipyn a dyna ei yrfa fe'n dechre.
"Oedd lot o raglenni radio yn dod o Abertawe ac oedd hynny'n gyfleus iawn.
"Mae'n debyg fod pawb yn neud yn siŵr bo' nhw'n mynd adre o'r capel ddydd Sul mewn pryd i wrando ar Teulu'r Mans!"
Pobol y Cwm
"Bues i'n chwarae Dora Gwyther ar Pobol y Cwm am 13 mlynedd o'r 80au ymlaen.
"O'n i'n mynd ar y trên o Gastell-nedd i recordio yng Nghaerdydd.
"Oedd Dora'n wraig i ŵr busnes sef Herbert Gwyther. Er cofiwch doedd dim lot o sôn am Mrs Gwyther ar y dechre o gwbl!
"Ond ar ôl i Mr Gwyther farw ges i wybod bod gydag e fab sef Derek. Fi'n credu mai hwnna oedd yr unig fath o sgandal oedd ar Pobol y Cwm ar y pryd, ond wrth gwrs erbyn heddi mae lot o bethe yn digwydd yn y pentre 'na yn does e!
"Rwy'n dal i wylio Pobol y Cwm bob nos. Mae'r rhan fwyaf o'r cymeriadau oedd yna pan o'n i arno fe wedi mynd nawr ond rwy'n dal i fwynhau.
"Roedd Mark yn dechrau ar y gyfres pan o'n i'n gorffen!"
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd22 Hydref 2024
- Cyhoeddwyd16 Hydref 2024