Rhybudd wedi i gi ddal ei drwyn ar fachyn pysgota yn y gogledd

Betty, ci CherylFfynhonnell y llun, Cheryl Wild
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Betty'r ci yn gwingo mewn poen ar ôl i fachyn pysgota fynd yn sownd yn ei thrwyn

  • Cyhoeddwyd

Mae dynes yn rhybuddio pobl â chŵn i fod yn ofalus wrth gerdded ar draeth yng Nghonwy ar ôl i'w chi gael ei anafu gan fachyn pysgota.

Mae Cheryl Wild yn mynd a'i dau gi am dro ar draeth Penmaenmawr yn aml, gan eu gadael i redeg yn rhydd a chwarae ar y tywod.

Ond pan aeth hi yno gyda ffrind ddydd Sul, fe glywodd hi un o'i chŵn yn cyfarth a gwingo mewn poen ger y môr.

Roedd bachyn pysgota trwm wedi rhwygo trwy drwyn ei chi, Betty - Daeargi Bedlington tair oed.

'Wedi gallu bod yn drychineb'

Dywedodd Cheryl, sy'n byw ym Mhenmaenmawr: "Gen i ben-glin drwg felly nes i eistedd i lawr i wylio'r cŵn yn chwarae.

"Y peth nesaf, clywais Betty yn cyfarth.

"Roedd hi'n ysgwyd ei phen - o'n i'n meddwl ei bod hi'n sownd i ddarn o wymon i ddechrau, ond pan es i'n nes, sylwais ar fachyn pysgota yn ei wyneb.

"Roedd o'n un eitha' trwm ac roedd y bachau wedi mynd trwy ei thrwyn.

"Roedd ei thrwyn yn gwaedu ac roedd hi'n ysgwyd a'n trio cael o i ffwrdd gyda'i phawen, ond o'n i'n poeni ei bod hi am frifo ei hun yn waeth."

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Traeth Penmaenmawr yn "le hapus" i Cheryl cyn y digwyddiad

Dywedodd Cheryl ei bod hi'n lwcus i gael ei ffrind yno i warchod ei chi arall wrth iddi nadu Betty rhag anafu ei hun yn waeth.

"'Sa fo wedi bod yn drychineb os fyswn i wedi bod ar ben fy hun," meddai.

"Fysa Betty wedi rhwygo ei thrwyn os fyswn i wedi rhoi hi yng nghefn y car.

"Roedd hi'n ddydd Sul hefyd, felly fyswn i wedi bod yn disgwyl dipyn am filfeddyg fwy na thebyg - a bosib fysa Betty wedi brifo ei hun yn waeth wrth i ni ddisgwyl.

"Yn ffodus daeth ffrind gyda gefail i snipio'r adfachau i ffwrdd o'r bachyn. Fe wnaeth y bachyn ddod i ffwrdd yn hawdd wedyn."

Ffynhonnell y llun, Cheryl Wild
Disgrifiad o’r llun,

Mae Betty'n "hapus a'n rhedeg o gwmpas" erbyn hyn, meddai Cheryl

Fe wnaeth Cheryl rybuddio'r bobl eraill ar y traeth ond roedden nhw wedi darganfod bachau tebyg o fewn munudau o gyrraedd eu hunain, meddai Cheryl.

Cafodd Cheryl brofiad tebyg ar yr un traeth ryw 10 mlynedd yn ôl gyda'i hen gi, meddai, a gafodd fachyn yn sownd yn ei geg

Mae'r traeth yn boblogaidd gyda physgotwyr ac fe gafodd cystadleuaeth pysgota ei chynnal yno am dridiau ddechrau mis Tachwedd.

Ym mis Gorffennaf, fe rybuddiodd Cyngor Conwy am bigau metel ar y traeth.

Dywedodd y cyngor ar y pryd fod pysgotwyr yn defnyddio'r pigau i angori eu rhwydi.

'Trawmatig'

Mae Betty'r ci yn "hapus a'n rhedeg o gwmpas" erbyn hyn, meddai Cheryl.

Ond dywedodd ei bod hi am osgoi'r traeth am gyfnod ar ôl y profiad "trawmatig".

"Os fyswn i'n mynd yna eto efo'r cŵn fyswn i'n llanast. Fyswn i'n poeni amdanyn nhw trwy'r amser.

"Mae'r traeth yna wedi bod yn le hapus i fi, lle fedra i ymlacio wrth gerdded hefo'r cŵn, ond dwi ddim eisiau mynd yno ddim mwy, mae'n rhy drawmatig.

"Fyswn i'n rhybuddio unrhyw un sy'n cerdded ar y traeth efo ci i fod yn ofalus. Mi fysa'r sefyllfa wedi gallu bod yn lawer gwaeth."

Pynciau cysylltiedig