Cau wardiau ysbyty eto i 'ail-arolygu' concrit diffygiol
- Cyhoeddwyd
Bydd wardiau ysbyty a gafodd eu cau oherwydd concrit diffygiol RAAC y llynedd yn gorfod cau eto er mwyn cwblhau gwaith "ail-arolygu".
Fis Ebrill eleni cafodd chwe ward yn Ysbyty Llwynhelyg, Hwlffordd - hanner wardiau’r ysbyty - eu hailagor yn dilyn cyfnod ar gau.
Mae'r bwrdd iechyd nawr yn dweud y bydd y wardiau yn gorfod cau eto ddiwedd y flwyddyn, a hynny dros dro er mwyn cwblhau'r gwaith.
Yn ôl Bwrdd Iechyd Hywel Dda, bydd yn rhaid rheoli ac arolygu’r RAAC yn Ysbyty Llwynhelyg yn barhaus am oes yr adeilad.
Dros flwyddyn yn ôl, cafodd "digwyddiad mawr mewnol" ei gyhoeddi yn Ysbyty Llwynhelyg yn Sir Benfro wedi i goncrit RAAC gael ei ddarganfod yno.
Cafodd rhai cleifion eu symud, wrth i chwe ward ar ail lawr yr ysbyty orfod cau.
Cafodd ardaloedd fel adeilad ‘A’ ar gyfer clinigau cleifion allanol, y gegin, yr ardal therapïau, y fferyllfa a’r ardal gofal brys yr un diwrnod hefyd eu heffeithio gan y RAAC.
Fis Ebrill eleni, cafodd wardiau a oedd wedi cau oherwydd RAAC eu hailagor.
Mae’r nyrs, Sarah Davies yn gweithio ar un o’r wardiau hynny.
“Ni mor falch i fod nôl. Ni wedi dod gartre’,” meddai.
“O’dd e’n eitha’ galed pan o’n i ar wardiau arall achos s’dim byd yn clicio.
"Ni 'di dod nôl a ma’ popeth jyst wedi mynd nôl fel o’dd e. Mae e’n neis i glywed sŵn 'ma o’r diwedd.”
Mae Lea Jones, sy’n gweithio fel arweinydd clinigol, hefyd yn falch o weld y wardiau yn ôl ar agor.
“Mae e yn gysur” meddai, “ond erbyn hyn, ni’n wynebu’r gaeaf hefyd, ni’n mynd i gael winter pressures hefyd so mae’n bwysig bod y wards ‘ma ar agor ar ein cyfer ni.
"Mae e’n lot well na beth oedd e, beth bynnag.”
Mae’r rhan fwyaf o glinigau cleifion allanol a gafodd eu symud i leoliadau arall ar y pryd, wedi dychwelyd i Ysbyty Llwynhelyg ers mis Gorffennaf.
Mae’r gegin, a oedd hefyd wedi gorfod cau, bellach ar agor.
Yn ôl y bwrdd iechyd, mae disgwyl i’r ardal therapïau agor ganol mis Tachwedd fel y disgwyl, ac fe ddylai’r ardal gofal brys yr un diwrnod fod yn weithredol erbyn yr un amser hefyd.
Mae disgwyl i'r gwaith ar y fferyllfa ddechrau ym mis Tachwedd, a chael ei gwblhau o fewn y mis.
Ond mae Bwrdd Iechyd Hywel Dda wedi rhybuddio y bydd yn rhaid i’r wardiau a gafodd eu heffeithio gau eto dros dro tra bydd gwaith ail-arolygu yn digwydd ar ddiwedd y flwyddyn hon ac i fewn i 2025.
Er ei bod yn falch dychwelyd i'r wardiau, dywedodd y nyrs Sarah Davies ei bod hi'n "teimlo’n iawn" am orfod eu cau eto.
“Y bobl sy’n bwysig i ni yw’r cleifion. Bydd hynny ddim yn effeithio ar y gofal fyddan nhw’n ei gael mewn ardal arall,” meddai.
Mae'r gwaith o adfer llawr gwaelod yr ysbyty yn parhau ers darganfod RAAC am y tro cyntaf yna dros flwyddyn yn ôl.
Gobaith y bwrdd iechyd yw gorffen y gwaith hwn fis Ebrill y flwyddyn nesaf.
Mi fydd ail-arolygon ar y llawr hwnnw yn cael eu cynnal yn ystod 2025 ac i mewn i 2026.
RAAC 'ddim yn mynd i ddiflannu'
Wrth gyfeirio at y gwaith ail-arolygu, dywedodd Malcolm Arnold, rheolwr ystadau Ysbyty Llwynhelyg: “Mae’n broses y mae angen i ni fynd drwyddi.
“Mae'n rhaid i ni archwilio'r paneli. Dim ond y paneli argyfyngus y gwnaethom ni drwsio.
"Ni chafodd pob panel eu trwsio, felly mae’n rhaid i ni fynd i mewn i edrych ar y paneli hynny a gwneud yn siŵr nad ydym wedi cael unrhyw ddiraddiad yn y cyfnod hwnnw o 12 mis.”
Wrth ei holi a fyddai’r ysbyty yn delio â choncrit diffygiol RAAC tu hwnt i 2026, dywedodd mai dyna'r achos.
"Mae’n rhywbeth sydd ddim yn mynd i ddiflannu, byth. Bydd yn rhaid i ni reoli ac arolygu’r RAAC yn barhaus am oes yr adeilad.”
Mae prif swyddog gweithredu Bwrdd Iechyd Hywel Dda, Andrew Carruthers yn pwysleisio, fodd bynnag, y bydd y gwaith ail-arolygu "ddim byd tebyg" i raddfa’r newidiadau a fu dros y flwyddyn ddiwethaf.
“Mi fyddwn ni’n gwneud hynny un ardal ar y tro, felly ardaloedd bach o’r cyfleuster fydd yn cael eu had-leoli, am gyfnod byr iawn o amser,” meddai.
“Ry’n ni’n bendant dros y gwaethaf nawr. Ry’n ni wedi dychwelyd y rhan fwyaf o wasanaethau yn ôl i’r safle.
"Gyda’r gwaith arolygu, mae wastad elfen o unknown.
"Am nawr, o safbwynt y bwrdd iechyd a’r ysbyty, ry’n ni’n mynd i orfod trin hyn fel mater ‘busnes fel yr arfer’, ac un y byddwn ni’n parhau i fonitro a gweithio gyda am y misoedd a’r blynyddoedd sydd i ddod.”
'Cynnydd ardderchog'
Mae Llywodraeth Cymru wedi cymeradwyo £12.8m i barhau i wneud gwaith arolygu a gwneud gwaith adfer mewn mannau y mae RAAC yn effeithio arnynt yn Ysbyty Llwynhelyg.
Dywedodd llefarydd bod “cynnydd ardderchog” wedi’i wneud ar y safle.
Hyd yma, mae RAAC helaeth wedi'i nodi mewn dau ysbyty yng Nghymru - Ysbyty Llwynhelyg ac ardaloedd lle nad oes cleifion yn Ysbyty Nevill Hall yn Y Fenni.
Mae gwaith lliniaru wedi'i gynnal yn Ysbyty Nevill Hall hefyd, yn ôl Llywodraeth Cymru.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd21 Medi 2023
- Cyhoeddwyd15 Awst 2023