'Swydd gydag yswiriant iechyd preifat wedi fy helpu i ddod yn fam'

Eliza Wide
Disgrifiad o’r llun,

Mae Eliza Wide wedi bod yn dioddef gyda'i symptomau ers iddi fod yn 13 oed

  • Cyhoeddwyd

Mae mam ifanc wedi dweud na fyddai wedi gallu beichiogi heb lawdriniaethau a gafodd eu talu gan yswiriant meddygol preifat.

Mae Eliza Wide, 31, wedi profi symptomau poenus ers yn 13 oed - ond fe gymrodd ddegawd a mwy iddi gael diagnosis pendant.

Oherwydd ei rhwystredigaeth a’r oedi o fewn y gwasanaeth iechyd, penderfynodd Eliza, o Bontypridd, chwilio am swydd oedd yn cynnig yswiriant meddygol preifat.

“Roedd fy symptomau wedi mynd mor ddrwg, do'n i ddim yn gallu cerdded heb bod mewn lot o boen," meddai.

“Es i’r GP sawl gwaith am 14 blynedd a doedden nhw ddim yn cymryd fy mhoen i o ddifri.”

Defnyddiodd yr yswiriant i weld arbenigwr a chafodd ddiagnosis bron yn syth yn 27 oed.

Cafodd wybod fod ganddi endometriosis, adenomyosis a PCOS - sy’n gyflyrau gynocolegol - a bu'n rhaid iddi gael dwy lawdriniaeth.

Dywedodd Eliza na fyddai hi wedi gallu fforddio talu am y llawdriniaethau - oedd gwerth £15,000 - heb yr yswiriant preifat.

Bellach yn fam, mae Eliza yn argyhoeddedig na fyddai wedi gallu beichiogi heb y driniaeth.

Ffynhonnell y llun, Eliza Wilde
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Eliza Wide lawdriniaeth gychwynnol yn 2020 a chlywodd bod endometriosis helaeth yn ei phelfis, coluddyn a’i diaffram

“Mae’n annheg bod menywod yn cael eu gadael mewn poen tra bod eu clefyd yn datblygu ac o bosib yn effeithio ar eu ffrwythlondeb oherwydd y rhestrau aros hir ar yr NHS,” ychwanegodd.

Mae Llywodraeth Cymru yn dweud eu bod yn cydnabod y problemau y mae menywod a merched yn eu hwynebu bob dydd ac wedi gwneud iechyd menywod yn brif flaenoriaeth.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Geeta Kumar yn aelod o Goleg Brenhinol yr Obstetryddion a’r Gynaecolegwyr

Mae Coleg Brenhinol yr Obstetryddion a’r Gynaecolegwyr yn galw am roi blaenoriaeth i iechyd menywod yn ogystal â buddsoddiad hirdymor.

Er bod rhestrau aros gynaecoleg wedi cynyddu 92% yng Nghymru dros y bedair blynedd diwethaf, mae’r corff yn poeni bod llai o frys i fynd i’r afael â rhain o gymharu â mathau eraill o lawdriniaethau.

Ar hyn o bryd mae dros 50,000 o fenywod yng Nghymru yn aros am wasanaethau gynaecolegol mewn ysbytai.

Mae bron i hanner yn aros yn hirach na’r targed o 26 wythnos a thros draean yn aros yn hirach na 36 wythnos.

Canslo yn y pandemig

Mae Geeta Kumar yn aelod o'r coleg ac yn arweinydd clinigol gwasanaethau menywod yng ngogledd Cymru.

Dywedodd bod sawl rheswm dros y cynnydd yn y rhestrau aros.

“Mae ymwybyddiaeth merched o gyflyrau wedi cynyddu – sy’n beth da - ond ry'n ni hefyd yn teimlo nad yw iechyd menywod wedi bod yn flaenoriaeth ers cyfnod hir.

“Ry'n ni’n gwybod, o’i gymharu â meysydd eraill, nad yw theatrau llawfyddygol a mannau clinigol yn gweithio i’w potensial llawn.

"Mae hynny i gyd yn cyfrannu at y rhestr aros, nid yn unig mewn clinigau ond hefyd ar gyfer llawdriniaethau.”

Ychwanegodd mai llawdriniaethau gynaecoleg oedd yn cael eu canslo gyflymaf yn ystod y pandemig.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Delyth Jewell AS am weld mwy yn cael ei wneud i fynd i'r afael â'r heriau

Mae Delyth Jewell, AS Plaid Cymru dros ranbarth Dwyrain De Cymru hefyd yn aelod o’r grŵp trawsbleidiol iechyd menywod.

Mae hi’n dweud bod angen newid y disgwyl bod menywod yn “rhoi lan gyda’r boen”.

“Pam dyle poen fod yn rhan ‘normal’ o fywyd ar gyfer cymaint o fenywod? Mae fe’n hollol annerbyniol,” meddai.

“'Da ni’n gwybod beth yw’r problemau ond dyw’r llywodraeth ddim wedi 'neud digon a 'da ni wedi aros blynyddoedd am gynllun i fynd i’r afael â’r heriau iechyd menywod.”

Ffynhonnell y llun, BBC
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r defnydd o iaith sy'n disgrifio cyflyrau'n bwysig, medd Liz Williams

Mae hefyd angen newid yr ieithwedd wrth sôn am gyflyrau, meddai Liz Williams, un o ymddiriedolwyr Triniaeth Deg i Ferched Cymru (FTWW).

“Rydyn ni’n defnyddio’r term benign i ddisgrifio problemau gynecolegol sy' ddim yn canser, ac er mai hwn yw’r term meddygol cywir dyw e ddim yn adlewyrchu’r ffaith bod cyflyrau gynecolegol yn newid bywydau pobl,” meddai.

Ychwanegodd bod y sefydliad hefyd yn credu bod yr iaith yn adlewyrchu’r ffaith bod pobl ddim yn cael y driniaeth “gywir ac amserol” yn y byrddau iechyd a’r ysbytai.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: “Rydyn wedi bod yn glir gyda’r gwasanaeth iechyd yng Nghymru beth sydd ei angen i wella mynediad a mynd i’r afael ag amseroedd aros.

“Mae Cynllun Iechyd Menywod 10-mlynedd yn cael ei ddatblygu i ysgogi’r gwelliant sydd ei angen i ddarparu gwasanaethau iechyd o ansawdd da i fenywod drwy gydol eu hoes.”

Mae disgwyl y bydd y cynllun yn cael ei gyhoeddi erbyn diwedd y flwyddyn.

Pynciau cysylltiedig