Modryb a nith yn mynd draw i Batagonia i addysgu Cymraeg

Bydd Lleucu Haf yn addysgu yn Esquel yn yr Andes, ac Anna ap Robert yn addysgu pobl ifanc ac oedolion Y Gaiman
- Cyhoeddwyd
Mae dau aelod o'r un teulu ar eu ffordd draw i Batagonia i addysgu Cymraeg - a hynny heb i'r naill ddeall fod y llall wedi ymgeisio am y swydd.
Bydd Anna ap Robert a'i nith Lleucu Haf o Aberystwyth yn teithio draw i'r Ariannin wythnos nesaf am naw mis fel rhan o gynllun y British Council.
Mae'r cynllun yn anfon athrawon Cymraeg draw i'r Wladfa ers diwedd y 90au.
Dyma fydd tro cyntaf Anna draw ym Mhatagonia, ond mae Lleucu a'i merch saith oed, Eleanor, wedi hen arfer, ar ôl treulio cyfnod yn Y Gaiman yn 2023.
'Pawb yn hapus'
Wrth siarad ar raglen Dros Frecwast ar BBC Radio Cymru, dywedodd Anna: "Nes i fynd am y swydd, a wedyn o'n i'n siarad efo'n chwaer, sef mam Lleucu, a dyma hi'n deud 'wel ti'n gwybod bod Lleucu'n mynd am yr un swydd?!'
"Doedden ni ddim yn gwybod pa swyddi fydden ni'n gael achos o'dd 'na dair swydd yna, ac oedden ni jyst yn hapus i'r naill neu'r llall i gael y swydd, ond lwcus iawn bod y ddwy ohonon ni 'di cael swydd, felly mae pawb yn hapus!"
Roedd y cyfle i gael mynd draw i'r Wladfa yn un rhy dda i'w golli, meddai.
"Aeth fy chwaer i yna 20 mlynedd yn ôl, ac o'n i wastad wedi bod eisiau mynd yna.
"Mae gen i deulu allan yna, mae gen i gaifn (third cousin) yna, Billy Hughes, a fi 'di cwrdd â fe unwaith neu ddwywaith, a licen i fynd mas 'na i gael y profiad a fi byth wedi gallu fforddio mynd yn y gorffennol."

Mae Eleanor a Lleucu yn dychwelyd i Batagonia ar ôl cyfnod yno yn 2023
Wrth siarad am ei phrofiad yno ddwy flynedd yn ôl, dywedodd Lleucu: "O'n i'n gweithio fel athrawes ysgol gynradd, a'r rheswm penna' o'n i eisiau mynd allan oedd i ddysgu Sbaeneg, a bod Eleanor fy merch i hefyd yn gallu dysgu Sbaeneg.
"A hefyd dwi efo diddordeb mawr iawn mewn iaith, ac i ddysgu iaith dramor yn y sector cynradd - a dydy hwnna ddim yn swydd sydd yn bodoli yng Nghymru.
"O'dd y swydd yma yn Ysgol Gymraeg y Gaiman yn cynnig y cyfle i ddysgu plant blynyddoedd cynnar sef plant tair, pedair oed, a hefyd dysgu Cymraeg i blant Cyfnod Allweddol 2, so i fi oedd e jyst yn rhywbeth o'n i wir eisiau gwneud, ac yn gyfle gwych i 'neud hynny."
"Dwi rili jyst yn edrych ymlaen i gwrdd â phawb, ac i fod yn rhan o'r gymuned"
Anna ap Robert a Lleucu Haf yn trafod eu hantur i Batagonia i addysgu Cymraeg
A hithau wedi bod yn ôl yng Nghymru ers blwyddyn bellach, ac wrth ei bodd yn ei swydd yn Ysgol Penrhyncoch, penderfynodd ei bod â'i bryd ar ddychwelyd i'r Wladfa eto.
"O'dd e jyst yn amser da i fynd, mae Eleanor yn ddigon ifanc ac yn hapus i fynd, a 'da ni'n gallu jyst mwynhau'r profiad yma," meddai.
"Dwi wrth fy modd yn teithio, dwi'n hoffi cwrdd â phobl newydd, dysgu am lefydd newydd a mae e jyst yn gyfle gwych. A mae'n grêt bod Anna yn mynd hefyd!"
Mae dros 6,000 o siaradwyr Cymraeg yn y Wladfa, sydd yn estyn ar draws Dyffryn Chubut yn Yr Ariannin.
Tra bydd Lleucu yn addysgu draw ar ochr orllewinol y wlad y tro yma, mewn ysgol gynradd yn Esquel yn yr Andes, draw yn y dwyrain fydd Anna, yn addysgu pobl ifanc ac oedolion Y Gaiman.

Cafodd Anna ei hurddo i'r Orsedd yn Eisteddfod 2024 am gwaith yn y gymuned yn hybu'r Gymraeg. Yn y llun hefyd mae ei chwaer, Gwenith, a aeth i Batagonia i weithio fel athrawes Gymraeg yn 2007
Bydd yn sicr yn brofiad bythgofiadwy i'r dair cenhedlaeth, ac mae Anna yn gyffrous am yr hyn sy'n ei disgwyl; cymuned Gymraeg unigryw sydd 8,000 o filltiroedd o adref.
"Fi'n mynd yno efo meddwl agored," meddai.
"Dwi ddim wedi gwneud dim byd tebyg o'r blaen; dwi ddim yn berson sy'n teithio lot, a dyma'r pella' fydda i erioed wedi mynd.
"Cyfle arbennig, a dwi rili jyst yn edrych ymlaen i gwrdd â phawb, ac i fod yn rhan o'r gymuned, a jyst bod yn rhan o'r holl ddiwylliant a'r profiad newydd dwi'n mynd i'w gael mas 'na."
Pynciau cysylltiedig
Hefyd o ddiddordeb:
- Cyhoeddwyd3 Chwefror 2023
- Cyhoeddwyd15 Hydref 2023