'Roedd dyn yn aros amdanaf ar ôl cael fy sbeicio'
- Cyhoeddwyd
Pan ddeffrodd Anna, nid ei henw iawn, yn crynu ac yn methu â chofio'r noson gynt mewn clwb nos yng Nghaerdydd, roedd hi'n gwybod fod rhywbeth yn bod.
Roedd ganddi decst ar ei ffôn gan rywun yn gofyn a oedd hi wedi cyrraedd adref yn ddiogel.
"Pan 'nes i ffonio'r rhif 'nôl, merch oedd yna, bach yn hŷn na fi, yn dweud bod hi 'di ffeindio fi yn y toilet," dywedodd Anna.
"O'n i'n really sâl. Pan 'nath hi helpu fi tu allan, o'dd 'na ddyn yn disgwyl i fi ac yn dweud mai fi oedd cariad o, ond do'n i ddim yn ei nabod."
Mae Anna, 19, yn un o nifer o fenywod sydd wedi rhannu eu profiadau gyda BBC Cymru o sbeicio, stelcian neu sylwadau a chyffwrdd anweddus ar nosweithiau allan.
Rhybudd: Mae'r stori hon yn cynnwys manylion am drais
- Cyhoeddwyd25 Medi
- Cyhoeddwyd2 Rhagfyr 2023
- Cyhoeddwyd18 Awst 2022
Yn ystod y misoedd diwethaf, mae ymgyrchwyr wedi bod yn gorymdeithio drwy strydoedd Caerdydd, yn galw am roi diwedd ar bob math o drais yn erbyn menywod.
Mae arbenigwr wedi rhybuddio y gallai achosion o drais yn erbyn menywod ar y strydoedd arwain at droseddau difrifol yn y dyfodol.
Dywedodd Heddlu'r De fod mynd i'r afael â thrais yn erbyn merched wastad wedi bod yn flaenoriaeth iddyn nhw.
Mae trais yn erbyn menywod a merched "yn annerbyniol ac yn llawer rhy gyffredin ar hyn o bryd", meddai Llywodraeth Cymru, a ychwanegodd fod eu strategaeth ar y mater yn mynd i'r afael â'r broblem "ble bynnag mae'n digwydd".
Mae Anna wedi dewis rhannu ei stori yn ddienw. Mae'n dal i ddod i dermau gyda'r hyn ddigwyddodd iddi, a chafodd neb mo'u harestio na chyhuddo yn dilyn y digwyddiad.
"Dwi'n cofio 'nes i ddim yfed lot y noson honno. Ma'n really anodd i drio ffeindio'r gair i ddisgrifio'r teimlad," meddai.
"O'n i'n teimlo mor sâl o'r eiliad 'nes i ddeffro. Taflu i fyny, teimlo'n benysgafn. Cur pen, a chrynu llawer."
Ar ôl i Anna fynd at yr heddlu gyda'i chwyn, fe agorodd y llu achos stelcian, gan fod y dyn wedi dangos llun ohoni, neu rywun tebyg, i'r fenyw a'i helpodd ar y noson.
"O'dd yr heddlu yn meddwl o'r CCTV mai llun clir ohonof fi o'dd hwn," dywedodd Anna.
"O'n nhw'n gorfod ystyried efallai mai rhywun oedd wedi targedu fi ers sawl wythnos o'dd hwn, sy'n dychryn ti gymaint.
"Pan ti'n ystyried bod pobl ar nosweithiau allan yn dewis rhywun ac yn meddwl 'iawn, dwi'n mynd i 'neud hyn', ma' 'na gymaint o bethau 'sa 'di medru digwydd os 'na fysa'r ferch wedi helpu."
'Eisiau bod yn llais i oroeswyr'
Dywedodd un o aelodau grŵp ymgyrchu Time To Act yng Nghaerdydd bod angen gorymdeithiau stryd er mwyn tynnu sylw at ymddygiad gwael a rhannu neges gyhoeddus.
"Ry'n ni eisiau bod allan yna. Ry'n ni eisiau pobl i'n clywed ni," meddai Rowan Dominique, 20 oed.
"Mae cymaint o oroeswyr yn teimlo embaras. Mae gymaint ohonom yn teimlo bod yn rhaid i ni siarad ar eu rhan," meddai.
'Cyffwrdd mewn ffordd anweddus'
Yn Abertawe, mae Casi Jones, 20, yn dweud ei bod yn gyffredinol yn teimlo'n ddiogel ar noson allan oherwydd presenoldeb amlwg yr heddlu.
"Ond dydy hynna ddim yn esgusodi'r ffaith bod pethe' drwg yn digwydd," meddai.
Mae Bethany Emerson, 21, yn dweud ei bod hithau, fel y mwyafrif, yn wyliadwrus wrth gerdded ar ei phen ei hun.
"Ar y ffordd adref, mae 'di digwydd i fi o'r blaen, dwi'n recordio fy hunan, just yn gwneud yn siŵr os oes unrhyw beth yn digwydd, mae 'da fi'r record."
Yn wreiddiol o'r Bala, dywedodd Meleri Foster Evans, 21, bod trefi fel Caernarfon weithiau'n teimlo'n llai diogel na dinasoedd fel Abertawe.
"Ar noson allan ar Wind Street Abertawe ma' 'na gymaint o heddlu o gwmpas, mae'n drist i weld, ond mae lot mwy saff."
Mae bugeiliaid y stryd hefyd yn gwirfoddoli ar nosweithiau Gwener a Sadwrn yn Abertawe i helpu pobl sy'n fregus, gan gydweithio gyda'r heddlu ac asiantaethau eraill.
"Ma' nhw wastad wedi'n dysgu ni i edrych mas am fenywod sydd ar eu pennau eu hunain, sydd yn fregus a falle wedi gor-yfed," eglurodd Dr Dai Lloyd.
"'Dan ni'n cerdded lan a lawr, a dyna'r rhai cyntaf 'dan ni'n gweld. Ond 'dan ni hefyd yn edrych mas am y dynion yna, falle dynion hŷn, sydd ar ddiwedd y noson."
Mae'r Athro Emily Underwood-Lee, cyd-gadeirydd Rhwydwaith Ymchwil Trais yn Erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol Cymru, yn rhybuddio y gallai enghreifftiau llai difrifol o drais yn erbyn merched arwain at achosion mwy eithafol.
"Dydw i ddim yn dweud y bydd pawb sy'n gwneud sylw anweddus ar y stryd yn mynd ymlaen i gyflawni rhyw fath o ddynladdiad neu ymosodiad rhyw difrifol," dywedodd.
"Ond trwy alluogi'r pethau hyn i ddigwydd, heb eu herio, rydyn ni'n caniatáu mwy o ddiwylliant a allai arwain at rai o'r pethau mwyaf erchyll ry'n ni'n eu clywed.
"Rwy'n gweld pethau'n digwydd, rwy'n gweld pobl yn gwthio ymlaen, ond dy'n ni ddim yn gwybod pa mor hir y bydd hyn yn ei gymryd i ddod i rym, mewn gwirionedd."
'Realiti dyddiol i fenywod'
Dywedodd Prif Gwnstabl Cynorthwyol Heddlu De Cymru, Joanna Maal, fod mynd i'r afael â thrais a cham-drin yn erbyn menywod a merched yn "flaenoriaeth" i'r llu.
"Rydym yn cydnabod bod pryder ynghylch diogelwch personol a thrais mor ddifrifol ag erioed," ychwanegodd.
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Mae trais yn erbyn menywod a merched yn annerbyniol ac yn llawer rhy gyffredin ar hyn o bryd.
"Mae aflonyddu, cam-drin a thrais yn realiti dyddiol i fenywod ac wedi siapio eu bywydau am lawer rhy hir, ac mae ganddynt bryderon am eu diogelwch, yn enwedig yn y nos.
"Rydym wedi ymrwymo i roi terfyn ar drais a chreu cymdeithas lle gall pawb fyw heb ofn."