Holi barn cymunedau am gynllun is-orsaf trydan dadleuol yn Sir Gâr

Un o blith 12 o gaeau a allai gael eu defnyddio fel rhan o'r cynlluniau
- Cyhoeddwyd
Yn ystod y mis nesaf bydd cwmni National Grid Electricity Transmission (NGET) yn ymgynghori â'r cyhoedd am eu bwriad i godi is-orsaf trydan 400kV ger Llandyfaelog yn Sir Gâr.
Yn ôl y cwmni mae angen codi'r is-orsaf er mwyn cryfhau y rhwydwaith trydan yn ne Cymru.
Mae'r cynllun wedi ei gyflwyno yn sgil cais Green Gen Cymru a National Grid Electricity Distribution i gysylltu ynni glân yn yr ardal.
Ond mae'r cynlluniau i godi'r is-orsaf 400kV a dwy is-orsaf llai wedi ennyn beirniadaeth yn lleol wrth iddyn nhw ymestyn ar draws dros 30 erw sy'n 12 o gaeau amaethyddol.
Bydd cwmni National Grid yn cysylltu â chymunedau rhwng 17 Mehefin a 15 Gorffennaf.
Dywed NGET bod ganddynt ddyletswydd cyfreithiol i gysylltu cynlluniau ynni â'r rhwydwaith pan fydd cais yn cael ei wneud.
Gan fod yr is-orsafoedd presennol yn y rhanbarth eisoes yn gweithredu ar eu capasiti llawn mae angen cyfleuster arall, medd NGET, ar gyfer cysylltu prosiectau newydd.

Mae disgwyl i Green GEN Cymru ac NGED gyflwyno ceisiadau cynllunio ar wahân ar gyfer eu his-orsafoedd 132kV
Mae'r cynigion yn rhan o raglen uwchraddio ehangach NGET ledled Cymru, medd llefarydd, i gefnogi targedau sero net Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU i roi pŵer ynni gwyrdd i bob cartref a busnes erbyn 2035.
Mae disgwyl i Green GEN Cymru ac NGED gyflwyno ceisiadau cynllunio ar wahân ar gyfer eu his-orsafoedd 132kV.
Yn y gorffennol mae llefarydd ar ran Green Gen Cymru wedi dweud y bydd eu his-orsaf 132kv yn cysylltu prosiectau ynni adnewyddadwy yn Nant Mithil, Aberedw, Bryn Gilwern a Lan Fawr gyda'r rhwydwaith trydan.
Dywed y National Grid y bydd cyfle yn ystod y mis nesaf i drigolion gyfarfod â'r tîm sy'n gyfrifol am y prosiect er mwyn gofyn cwestiynau ac i helpu i lunio'r cais.
Cyn i NGET gyflwyno'r cais i Gyngor Sir Gâr yn 2026 bydd ail ran yr ymgynghoriad yn cael ei gynnal.
- Cyhoeddwyd8 Mai 2024
- Cyhoeddwyd22 Ebrill
Dywedodd Matthew Cumming, rheolwr cysylltiadau rhanbarthol NGET ar gyfer de Cymru: "Mae ein cynigion ar gyfer Llandyfaelog yn rhan hanfodol o'n buddsoddiad yn nyfodol ynni glân Cymru.
"Drwy ddatblygu'r prosiect hwn, rydym yn helpu i bweru cartrefi a busnesau ledled de Cymru a chefnogi twf rhanbarthol.
"Rydym yn deall pwysigrwydd gweithio'n agos gyda chymunedau lleol, ac rydym wedi ymrwymo i wrando ar eu barn ac ymateb.
"Mae'r digwyddiadau ymgynghori hyn yn gyfle gwych i bobl gymryd rhan a helpu i lunio ein cynlluniau wrth i ni eu datblygu."
Mae mwy o fanylion am yr is-orsaf yma, dolen allanol a gwybodaeth am sut i fynegi barn.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.