Peilonau Dyffryn Teifi: Tirfeddianwyr yn cytuno i roi mynediad

Protestwyr
Disgrifiad o’r llun,

Roedd tua 70 o bobl wedi ymgynnull y tu allan i'r llys i ddangos eu cefnogaeth i'r tirfeddianwyr

  • Cyhoeddwyd

Mae pob tirfeddiannwr oedd fod i ymddangos yn y llys, am wrthod yr hawl i gwmni sydd eisiau adeiladu llwybr o beilonau yn Nyffryn Teifi rhag cael mynediad i'w tir, bellach wedi cytuno i warantu mynediad.

Bwriad Green GEN Cymru yw datblygu cysylltiad trydan 132kV o Barc Ynni Lan Fawr i'r dwyrain o Landdewi Brefi, Ceredigion, i is-orsaf y Grid Cenedlaethol yn Llandyfaelog, Sir Gaerfyrddin - un o dri chynllun arfaethedig gan y cwmni ym Mhowys, Ceredigion a Sir Gaerfyrddin.

Fel nifer o dirfeddianwyr fferm yn Nyffryn Tywi, roedd nifer o dirfeddianwyr ffermydd yn ardaloedd Tywi-Teifi wedi gwrthod caniatáu i gynrychiolwyr y cwmni gael mynediad i'w tir.

Cafodd chwe o bobl eu cyhuddo o wrthod caniatáu i gynrychiolwyr y cwmni gael mynediad i'w tir yn Llys Ynadon Llanelli, ddydd Mawrth, gyda thua 70 o bobl yn ymgynnull y tu allan i'r llys i ddangos eu cefnogaeth i'r tirfeddianwyr.

Mewn ymateb dywedodd llefarydd i Green Gen Cymru eu bod yn "falch o fod wedi dod i gytundebau mynediad gwirfoddol gyda thirfeddianwyr oedd i gymryd rhan mewn gwrandawiadau hyd yn hyn, a hoffem ddiolch iddynt eto am weithio gyda ni."

Protestwyr

Yn eu plith roedd yr aelodau o'r Senedd Adam Price a Cefin Campbell.

Roedd disgwyl i gyfanswm o 10 person ymddangos yn y llys ddydd Mawrth, ond ar ddechrau'r gwrandawiad, clywodd y llys fod pedwar o bobl eisoes wedi dod i gytundeb gyda Green GEN Cymru, ac felly fe dynnodd y cwmni'r gwarantau hynny yn ôl "heb ganlyniad mewn costau".

Clywodd y llys mai dyma'r tro olaf fyddai'r cwmni yn fodlon gwaredu'r costau.

Yn ystod yr achos, Cymraeg ei iaith, gofynnwyd i'r barnwr, Gwyn Jones, ohirio'r achos.

Yn ôl tîm cyfreithiol y tirfeddianwyr, doedd dim digon o amser wedi cael ei roi i ystyried yr holl dystiolaeth, ac roedd yna ddadlau fod rhai materion oedd wedi cael eu rhoi ger bron y llys yn codi mwy o gwestiynau ynglŷn â hawliau'r unigolion sy'n berchen ar y tir, yn ogystal â hawliau unrhyw un o'r partïon eraill.

Penderfynodd y barnwr, Gwyn Jones, serch hynny, i fwrw ymlaen - gan wrthod y cais am ohirio.

Protestwyr

Yn dilyn y dyfarniad hynny gan y barnwr, clywodd y llys fod "peth symudiad" wedi'i wneud gan chwech tirfeddiannwr arall, ac y byddai'r chwech nawr yn arwyddo trwyddedau i ganiatáu mynediad.

Mae tri chynllun arfaethedig gan y cwmni, gyda phob un yn golygu codi peilonau ar hyd milltiroedd o dir - Tywi-Teifi; Tywi-Wysg a Fyrnwy-Frankton.

Y bwriad yw cysylltu parciau ynni gwyrdd newydd gyda'r Grid Cenedlaethol.

Mae protestwyr wedi dadlau y byddai tanddaearu yn amddiffyn prydferthwch yr ardal.

Cafodd gwarantau yn ymwneud â chynllun Tywi-Wysg, a gafodd eu gohirio ar y 7fed o Ebrill, hefyd eu hamserlennu ar gyfer gwrandawiadau yn Llys Ynadon Llanelli ddydd Mawrth.

Dywedodd cynrychiolwyr cyfreithiol Green GEN Cymru fod pawb oedd ynghlwm â'r achosion hynny bellach wedi dod i gytundeb y bydden nhw'n arwyddo trwyddedau i warantu mynediad.

Dyfan Walters
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Dyfan Walters ei fod yn "siomedig iawn bod cwmni mawr yn dod mewn i cefn gwlad Cymru yn bwlian pobl"

Bydd y peilonau yn mynd trwy dir Dyfan Walters o Lanymddyfri, yn ôl y cynlluniau, a dywedodd Mr Walters nad ydy achos y tirfeddianwyr wedi'i glywed.

"Ma Green Gen wedi troi rownd yn bygwth coste o dros £30,000 i bob ffarmwr os bydde ffarmwr yn colli ei achos.

"Mae'n swm sylweddol iawn o arian, digon i hala ffermydd teuluol i'r wal."

Janet Jones a Catrin Jones
Disgrifiad o’r llun,

Roedd dwy ddynes o Beniel hefyd yn siomedig gyda'r newyddion - Janet Jones [chwith] a Catrin Jones [dde]

Dangosa'r cynlluniau bod Catrin Jones o Beniel yn cael ei heffeithio hefyd, gyda'r llwybr o beilonau i fynd ar ei thir - mae hi'n cydymdeimlo gyda'r ffermwyr.

"Mae'n hynod o drist - trist drostyn nhw. Mae nhw'n ddewr ac wedi dala eu tir am fisoedd.

"Does dim unrhyw amheuaeth, bod pwysau dychrynllyd 'di bod ar eu hysgwydde nhw heddiw, tydyn nhw ddim di gwneud hyn o ddewis - dim un ohonyn nhw."

Ychwanegodd Janet Jones, sydd hefyd o Beniel, ei bod hi'n "siomedig".

"Mae dau o'n fois i'n ffermo, ma wyrion da fi – pam o pam na allwn nhw roi e' dan ddaear?

"A ma nhw'n ffili ateb, ma' nhw'n gweud celwydd, a does dim ateb gyda nhw," meddai.

Adam Price
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Adam Price fod "pawb" yn teimlo "cymaint o gydymdeimlad gyda'r tirfeddianwyr gyda cymaint o bwyse arnyn nhw"

Dywedodd Adam Price fod "pawb" yn teimlo "cymaint o gydymdeimlad gyda'r tirfeddianwyr gyda cymaint o bwyse arnyn nhw".

"Mae rhai ohonyn nhw, y tro diwetha' ac yn fan hyn heddiw, yn teimlo yn emosiynol a bron yn ddagreuol - yn cael eu gorfodi gan gwmni sydd fel petaent wedi anghofio yr angen i gael deialog gyda phobl.

"Dwi'n meddwl bod Green Gen fan hyn wedi dangos gwedd sydd yn mynd i dorri yr ymddiriedaeth oedd eisoes yn isel iawn o ran y gymuned.

'Diolch eto i'r tirfeddianwyr'

Mewn ymateb dywedodd llefarydd i Green Gen Cymru:

"Rydym yn falch o fod wedi dod i gytundebau mynediad gwirfoddol gyda thirfeddianwyr oedd i gymryd rhan mewn gwrandawiadau hyd yn hyn, a hoffem ddiolch iddynt eto am weithio gyda ni.

"Ers mwy na dwy flynedd rydym wedi ceisio dod i gytundebau mynediad gwirfoddol gyda thirfeddianwyr, fel y gall Green GEN Cymru gynnal arolygon amgylcheddol hanfodol.

"Nid yw gweithredu cyfreithiol erioed wedi bod yn llwybr a ddewiswyd gennym.

"Ym mhob trafodaeth gyda thirfeddianwyr, rydym wedi cynnig iawndal am unrhyw darfu posib a achosir gan arolygon ac i dalu am gyngor proffesiynol annibynnol.

"Byddwn yn parhau i wneud hynny wrth i ni weithio gyda thirfeddianwyr ar draws ein llwybrau.

"Mae'r arolygon amgylcheddol ac ecolegol sydd eu hangen i ni eu cynnal yn hanfodol i ddeall effeithiau posibl ein prosiectau.

"Mae hyn yn hanfodol i ni, yr arolygwyr cynllunio a'r cymunedau.

"Mae'r seilwaith hwn yn hanfodol i gyrraedd targedau sero net, adeiladu rhwydwaith ynni gwyrdd cadarn a dibynadwy, a rhoi cyfran i bawb yng Nghymru mewn dyfodol glanach."

Pynciau cysylltiedig