'Gwarchod, nid sensora' oedd bwriad canslo'r Fedal Ddrama
- Cyhoeddwyd
Mae beirniaid un o brif wobrau'r Eisteddfod Genedlaethol a gafodd ei chanslo wedi dweud mai "nid sensora oedd eu bwriad ond gwarchod pawb a oedd ynghlwm â’r gystadleuaeth a’r gymuned roedd y dramodydd yn honni ei chynrychioli".
Fe gafodd y Fedal Ddrama ei chanslo yn ddirybudd yn Eisteddfod Rhondda Cynon Taf yr wythnos ddiwethaf.
Ar y pryd dywedodd yr Eisteddfod bod hynny wedi digwydd ar ôl y broses o feirniadu'r gystadleuaeth, gan addo adolygiad maes o law.
Nos Fawrth, cyhoeddodd beirniaid y wobr - Geinor Styles, Mared Swain a Richard Lynch - yn ogystal â Llywydd Llys yr Eisteddfod a Chadeirydd Bwrdd yr Ymddiriedolwyr, ddatganiad ar y cyd.
Mae'n dweud mai penderfyniad Bwrdd yr Eisteddfod oedd atal y gystadleuaeth, ond bod "rhaid pwysleisio fod y beirniaid yn cytuno" â'r penderfyniad.
Mae Ashok Ahir, Llywydd Llys a Chadeirydd Bwrdd Ymddiriedolwyr yr Eisteddfod Genedlaethol, hefyd yn dweud bod "angen sgwrs am yr hyn sydd wedi codi eleni", yn sgil y "sylwadau a’r dyfaliadau diddiwedd".
"Rydyn ni’n fodlon iawn i arwain y drafodaeth ar y cyd gyda’r sector yn yr hydref", ychwanegodd.
Dywedodd Cefin Roberts, cyn-enillydd y Fedal Ddrama a chyn-gyfarwyddwr y Theatr Genedlaethol, ei bod yn "sefyllfa anffodus iawn ac mae ‘na nifer o gwestiynau yn dal i hongian yn yr awyr".
Yn siarad ar raglen Dros Frecwast fore Mercher, dywedodd: "Symud yn ein blaenau 'da ni angen 'neud rŵan, a gobeithio byddwn ni’n gallu gwneud hynny mewn ffordd aeddfed sy’n helpu bob awdur – gan gynnwys yr awdur sydd allan yno’n rhywle yn teimlo rhyw gywilydd heddiw, a ddylia fo neu hi ddim gwneud hynny.
"Mae fy nghalon i’n gwaedu dros y dramodydd erbyn hyn, mae arna’i ofn, achos dy’n nhw ddim wedi cael llais o gwbl."
Ychwanegodd: "Mae’r cystadleuwyr eraill, y gynulleidfa, y beirniaid, yr Eisteddfod, wedi cael amddiffyn ei hunain.
"Mae 'na un llais bach allan yn fanna sydd ddim wedi cael llawer o gefnogaeth hyd yma.
"Dydyn nhw ddim wedi tramgwyddo, ‘di sgwennu drama maen nhw, ac yn eu naïfrwydd creadigol, maen nhw wedi gwneud camgymeriad bach heb sylweddoli hynny.
"Maen nhw angen ein cydymdeimlad ni heddiw.”
Ychwanegodd: “Dwi yn meddwl bod isio trafodaeth llawer iawn ehangach na’r sefyllfa arbennig yma.
"Dwi 'di teimlo ers sbel bod ni angen cytuno ar y ffordd ymlaen. Mae’r byd yn newid. Mae’r ffordd 'da ni’n edrych ar bethau yn newid."
Cyn y datganiad, roedd Undeb yr Ysgrifenwyr wedi anfon llythyr at swyddogion y Steddfod yn gofyn am eglurhad am y penderfyniad ac yn galw am dryloywder.
Dywedodd cadeirydd Pwyllgor Cymru Undeb yr Ysgrifenwyr, yr awdur Manon Eames, fod angen croesawu'r ffaith bod nhw [yr Eisteddfod] wedi dweud eu bod nhw'n mynd i fod yn rhan o drafodaethau pellach o fewn y sector".
"Dwi’n gobeithio bydd yr Eisteddfod yn gwahodd pobl sy’n ymwneud â chyrff eraill, sy'n cynrychioli awduron ac yn cynrychioli’r ddrama yng Nghymru i fod yn rhan o’r trafodaethau hynny," meddai ar Dros Frecwast.
Ychwanegodd: “Mae pobl wedi pigo fyny ar y frawddeg ble maen nhw’n deud bod disgwyl i bob awdur wedi gwneud eu gwaith ymchwil yn drwyadl.
"Wedyn mae pobl yn gofyn, os nad oedd yr ymchwil iawn, pam bo' nhw wedi gwobrwyo yn lle cyntaf?”
Beth yw'r cefndir?
Y dasg ar gyfer y Fedal Ddrama oedd cyfansoddi drama lwyfan ac nid oedd unrhyw gyfyngiad o ran hyd.
Daeth cyhoeddiad o'r llwyfan bod yr Eisteddfod wedi canslo'r gystadleuaeth eleni, a hynny ychydig funudau cyn yr oedd disgwyl i'r seremoni - prif seremoni'r dydd - gychwyn.
Ni roddodd yr Eisteddfod unrhyw fanylion pellach am y rheswm dros ganslo'r fedal ar y pryd.
Ond fe wnaeth yr Eisteddfod gadarnhau bod y penderfyniad wedi ei wneud "ar ôl cwblhau’r broses o feirniadu", a bod "rhaid" atal y wobr.
Arweiniodd hynny at alwadau am rannu rhagor o fanylion, yn cynnwys gan gyn-enillwyr ac un oedd wedi cystadlu eleni.
Dywedodd yr Eisteddfod bod rhaid "parchu'r broses a hefyd parchu cyfrinachedd".
Y datganiad yn llawn
Datganiad gan y beirniaid a Llywydd Llys yr Eisteddfod a Chadeirydd Bwrdd yr Ymddiriedolwyr
Yn dilyn y trafodaethau a’r dyfalu ar y Maes ac yn arbennig yn y wasg a’r cyfryngau dros y dyddiau diwethaf, mae beirniaid cystadleuaeth y Fedal Ddrama wedi rhyddhau datganiad sy’n egluro’r broses a’r hyn a arweiniodd at benderfyniad Bwrdd Ymddiriedolwyr yr Eisteddfod i atal cystadleuaeth y Fedal Ddrama eleni.
“Fe ddaethon ni fel beirniaid i’r broses o ddarllen a dewis y ddrama fuddugol eleni yn hollol ddall. Dewiswyd drama roedden ni i gyd yn gytun oedd yn lais cyffrous ac yn safbwynt ffresh a newydd i theatr yng Nghymru. Roedden ni’n disgwyl i bob awdur fod wedi gwneud eu gwaith ymchwil yn drwyadl. Mae hyn yn hollbwysig i ddilysrwydd ac uniondeb y dramau.
“Wrth i’r broses fynd yn ei blaen, daeth yn amlwg i'r Eisteddfod nad oedd modd i’r gystadleuaeth barhau. Nid sensora oedd eu bwriad ond gwarchod pawb a oedd ynghlwm â’r gystadleuaeth a’r gymuned roedd y dramodydd yn honni ei chynrychioli. Penderfyniad Bwrdd yr Eisteddfod oedd hi i atal y gystadleuaeth ar y pwynt yma.
“O fod yn rhan o’r broses feirniadu eleni, rydyn ni’n ni’n hyderus bod llawer o dalent ysgrifennu sy’n werth ei ddathlu ac rydyn ni’n gwerthfawrogi’r gwaith caled a aeth mewn i bob un drama. Gobeithio y daw cyfle i ni weld rhai o’r dramau ddaeth i law ar ein llwyfannau yn y dyfodol.
“Diolch i’r Eisteddfod am ein gwahodd i feirniadu, ond mae ein gwaith ni o feirniadu’r dramau wedi ei wneud, a phob cystadleuydd wedi derbyn beirniadaeth yn unigol am eu gwaith. Ni fyddwn yn gwneud sylwadau pellach yn gyhoeddus ar benderfyniad yr Eisteddfod i atal y gystadleuaeth, gan nad ydym yn rhan o broses penderfynu Bwrdd Ymddiriedolwyr yr Eisteddfod.
“Byddwn ni’n hapus i fod yn ran o drafodaethau pellach o fewn y sector pan fydd canllawiau newydd yr Eisteddfod yn cael eu cyhoeddi yn hwyrach yn y flwyddyn, gan ei bod hi'n sgwrs bwysig i'w chael, gan obeithio y daw newidiadau positif i'r gystadleuaeth yn y dyfodol.”
Ychwanegodd Ashok Ahir, Llywydd Llys a Chadeirydd Bwrdd Ymddiriedolwyr yr Eisteddfod Genedlaethol, “Mae gan yr Eisteddfod gyfrifoldeb i warchod pawb sy’n ymwneud â’n cystadlaethau, gan gynnwys y rheini sydd wedi cystadlu a’r beirniaid. Dyna fu’r nod drwy gydol y broses hon.
“Mae’n rhaid pwysleisio fod y beirniaid yn cytuno â phenderfyniad Bwrdd yr Ymddiriedolwyr, a bod yr Eisteddfod wedi bod mewn cysylltiad rheolaidd â hwy drwy gydol y trafodaethau dros yr wythnosau diwethaf.
“Rydyn ni eisoes wedi dweud y byddwn yn edrych ar y prosesau sy’n ymwneud â’n cystadlaethau cyfansoddi dros y misoedd nesaf, gan sicrhau bod ein holl amodau a rheolau yn addas ar gyfer y dyfodol. Bydd hyn yn dechrau yng nghyfarfodydd ein panelau canolog ddiwedd Medi.
“Rydyn ni’n cytuno bod angen sgwrs am yr hyn sydd wedi codi eleni, fel rhan o’r gystadleuaeth ei hun, ynghyd â’r sylwadau a’r dyfaliadau diddiwedd sydd wedi’u gwyntyllu drwy’r wasg a’r cyfryngau dros y dyddiau diwethaf. Rydyn ni’n fodlon iawn i arwain y drafodaeth ar y cyd gyda’r sector yn yr hydref.
“Rydyn ni’n ymwybodol fod rhai’n teimlo’n gryf iawn am y mater hwn, ac rydyn yn falch fod pobl yn teimlo perchnogaeth am yr Eisteddfod a’n cystadlaethau. Mae hyn yn elfen hollbwysig o ethos ein prifwyl. Mae’r dyddiau diwethaf wedi bod yn rhai anodd i bawb, ac rwy’n gobeithio y bydd cyfle am drafodaeth adeiladol ac aeddfed am hyn oll yn yr hydref.”
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd9 Awst 2024
- Cyhoeddwyd8 Awst 2024