Merch leol 15 oed fu farw yn Afon Hafren - heddlu

Afon Hafren yn Y TrallwngFfynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i chwilio am berson yn Afon Hafren yn Y Trallwng

  • Cyhoeddwyd

Mae Heddlu Dyfed-Powys wedi cadarnhau mai merch yn ei harddegau oedd y person a fu farw mewn afon ym Mhowys ddiwedd wythnos diwethaf.

Roedd Holli Smallman yn 15 oed ac o'r Trallwng.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i'r dref ddydd Gwener er mwyn chwilio am berson yn Afon Hafren

Cafodd ei chorff ei dynnu o'r dŵr tua 20:00 nos Wener.

Dywedodd llefarydd ar ran y llu: "Mae swyddogion arbenigol yn cefnogi'r teulu ac mae ein meddyliau gyda nhw ar yr adeg anodd yma."

Pynciau cysylltiedig