Caernarfon: Babi wedi'i daro gan eitem gafodd ei thaflu gan bobl ifanc
- Cyhoeddwyd
Mae'r heddlu'n ymchwilio ar ôl i fabi mewn coets gael ei daro gan eitem a gafodd ei thaflu gan griw o bobl ifanc yng Nghaernarfon.
Dywedodd Heddlu Gogledd Cymru ei bod yn ffodus na chafodd y babi ei anafu.
Ond mae rhai cerbydau wedi cael eu difrodi mewn digwyddiadau tebyg ger Caer Rufeinig Segontium ar yr A4085.
Yn ôl yr heddlu mae swyddogion wedi adnabod 14 o bobl ifanc rhwng naw a 15 oed maen nhw'n amau o fod yn gyfrifol am daflu eitemau.
Bydd swyddogion yn siarad â theuluoedd y rheiny, meddai'r llu.
Dywedodd PC Jordan Jones o'r Tîm Plismona Cymdogaethau: "Mae'r ymddygiad diweddar yng Nghaernarfon yn cael effaith ddifrifol ar drigolion ac yn rhoi pobl mewn peryg.
“Yn ffodus, ni chafodd y babi ei anafu ond mi allai'r stori fod wedi bod yn wahanol iawn."
Dywedodd y bydd yn siarad â rhieni'r bobl ifanc ac y byddai gwybodaeth yn cael ei rannu gydag asiantaethau eraill.
“Erlyn pobl ifanc yw'r dewis olaf ond os yw'r digwyddiadau yn parhau i waethygu, bydd yn rhaid gweithredu yn ffurfiol," meddai PC Jones.
"Hoffwn annog rhieni a gofalwyr i'n cefnogi ni drwy siarad â'u plant ynglŷn â ble maent yn mynd gyda'r nos a chanlyniadau ymddygiad gwrthgymdeithasol ar fywydau pobl o'u cwmpas.
"Hoffwn apelio ar unrhyw un sydd â gwybodaeth neu dystiolaeth ar gamera o ymddygiad gwrthgymdeithasol ar yr A4085 wrth ymyl Segontium yn benodol, i gysylltu â ni."
Ychwanegodd y Cynghorydd Gareth 'Coj' Parry: "Mae o'n beryg a 'di'r plant ddim yn sylwi faint o beryg 'di o.
"Maen nhw'n taflu wyau i gael hwyl, i gael sbort i weld reaction pobl - dydyn nhw ddim yn sylweddoli fedar hwn ladd rhywun.
"Fedar rhywun fod yn gyrru car, colli control a hitio plentyn. Mae 'di mynd o sbort i drasiedi."