Ysgol Dyffryn Aman: Merch, 14, yn gwadu ceisio llofruddio
- Cyhoeddwyd
Mae merch 14 oed wedi pledio'n ddieuog i gyhuddiadau o geisio llofruddio tri pherson mewn ysgol yn Sir Gaerfyrddin.
Cafodd dwy athrawes, Fiona Elias a Liz Hopkin, a disgybl, eu hanafu yn Ysgol Dyffryn Aman yn Rhydaman ym mis Ebrill.
Fe wnaeth y ferch, na ellir ei henwi oherwydd ei hoedran, ymddangos yn Llys y Goron Abertawe ddydd Llun.
Plediodd yn euog i dri chyhuddiad o anafu bwriadol ac un o fod â llafn yn ei meddiant ar dir yr ysgol.
Ar 24 Ebrill fe gafodd disgyblion eu cadw yn adeilad yr ysgol am bedair awr wrth i'r heddlu ymchwilio.
Clywodd y gwrandawiad bod y digwyddiad wedi cael ei gofnodi ar CCTV.
Cafodd y tri gafodd eu hanafu eu cludo i'r ysbyty.
Dywedodd Fiona Elias, pennaeth cynorthwyol yr ysgol, ar y pryd na allai ddeall yr hyn yr oedd staff a disgyblion wedi bod drwyddo.
Siaradodd teulu Ms Hopkin â'r BBC gan ddweud pa mor "hapus" oedd hi i fod yn fyw.
Dywedodd y barnwr Paul Thomas yn y llys y byddai'r achos yn dechrau ar 30 Medi.
Fe fydd y ferch 14 oed yn cael ei chadw mewn uned i bobl ifanc yn y cyfamser.