Caniatâd i osod 44 uned storio mewn clwb golff ar Ynys Môn

Clwb Golff Ynys MônFfynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Mae Clwb Golff Ynys Môn yn Rhosneigr wedi bodoli ers dros ganrif

  • Cyhoeddwyd

Mae cynllun i osod 44 uned storio mewn clwb golff ar Ynys Môn wedi cael ei gymeradwyo gan gynghorwyr am yr eilwaith - er gwaethaf gwrthwynebiad swyddogion cynllunio.

Roedd swyddogion y cyngor wedi rhybuddio y byddai’r unedau yn Rhosneigr yn ychwanegu “elfen ddiwydiannol” i ardal gefn gwlad agored sy’n denu twristiaid.

Fel arfer, pan fydd cyngor yn cymeradwyo cynllun heb gefnogaeth y pwyllgor cynllunio, rhaid trafod y cais eto o fewn mis.

Yn yr achos yma, cafodd y cynllun ei gymeradwyo unwaith eto mewn cyfarfod ddydd Mercher.

Yn y cais cynllunio gwreiddiol, dywedodd y clwb fod y caniatâd yn hanfodol i sicrhau dyfodol y clwb, sydd wedi bodoli ers dros ganrif.

“Mae’r clwb, yn dilyn effaith Covid-19, wedi gweld dirywiad enbyd mewn aelodaeth ac incwm," meddai'r cais.

"Mae'n rhesymol datgan os bydd y datblygiad, sy'n arwain at y ffynhonnell yma o incwm wrth rentu'r unedau storio, yn cael ei wrthod yna mae'n debygol iawn y bydd y clwb yn dod i ben. Mae'n hollbwysig i'w fodolaeth."

'Arallgyfeirio’n hanfodol'

Wrth siarad ar raglen Post Prynhawn ar Radio Cymru, croesawodd Berwyn Owen, cyn-gapten y clwb, y penderfyniad.

"Roedd y siaradwyr yn y pwyllgor yn siarad yn gall yn fy marn i, gan gydnabod nad yw’r safle yng nghefn gwlad, ond yn dir llwyd sy’n addas iawn ar gyfer y math yma o ddatblygiad," meddai.

Ychwanegodd Mr Owen y byddai’r unedau storio yn darparu incwm hanfodol i helpu’r clwb i oroesi’r argyfwng ariannol, gyda’r clwb yn wynebu risg o gau a cholli pum swydd.

"Mae arallgyfeirio’n hanfodol i glybiau golff ar draws y wlad. Mae costau ynni, staff, a chynnal a chadw peiriannau i gyd yn codi.

“Felly, os oes ffordd i wneud incwm ychwanegol heb niweidio neb, dylid cefnogi hynny."

Disgrifiad o’r llun,

Yn ôl Berwyn Owen, mae'r safle'n cael ei ddefnyddio eisoes i storio cynwysyddion eraill

Wedi'i leoli 150m i ffwrdd o ffin datblygu Rhosneigr, dywedodd y'r uwch swyddog cynllunio, Rhys Jones, fod rhaid i'r safle gael ei ystyried fel "cefn gwlad agored".

Ychwanegodd bod y safle mewn "gosodiad agored," yn agored i wyntoedd cryfion ac aer hallt, a byddai plannu yn cael ei "rwystro", gan olygu y byddai'r safle yn "weledol amharu am gyfnod hir”.

Er iddo gydymdeimlo â sefyllfa ariannol y clwb, a chydnabod ei fod yn "ased pwysig i'r gymuned" - nid oedd hyn yn goresgyn pryderon cynllunio.

Er hynny, cafodd y cynllun ei gymeradwyo, mewn pleidlais a gafodd saith o bleidleisiau o blaid a thri yn erbyn.

Dywedodd y Cynghorydd Neville Evans fod y clwb yn rhan bwysig o’r “cynnig twristiaeth ar Ynys Môn” ac ychwanegodd nad oedd carafanau “yn wahanol iawn i gynwysyddion.”

Ychwanegodd y Cynghorydd Jeff Evans: "Dylem fod yn edrych i helpu'r clwb, nid ei gau i lawr.

"Dwi ddim yn credu ei fod yn gefn gwlad agored, fel bryniau a dyffrynnoedd, ond da ni'n sôn am lle ger carafanau, gwersyll RAF, busnesau a thai, dim cefn gwlad agored."

Ond roedd y Cynghorydd Robert Llewelyn Jones o'r farn nad oedd y cynllun hwn yn “ffordd briodol” i helpu’r clwb.

Ymatebodd Mr Owen drwy nodi: "Mae'r safle'n cael ei ddefnyddio eisoes i storio cynwysyddion eraill. Rydym yn cynnig cynllun tirlunio a fyddai’n cuddio’r unedau newydd yn llwyr."

Pynciau cysylltiedig