Gwaith £70m i leihau tyrrau niwclear Trawsfynydd i ddechrau

llun or gwaithFfynhonnell y llun, NRS
Disgrifiad o’r llun,

Mae tyrrau'r safle yn dirnod amlwg yn yr ardal

  • Cyhoeddwyd

Bydd gwaith i ostwng uchder adweithyddion niwclear Trawsfynydd yn dechrau'r flwyddyn nesaf fel rhan o gynllun gwerth £70m.

Wedi eu codi yn ystod y 1960au mi fydd y tyrrau concrit adnabyddus yn cael eu haneru mewn maint fel rhan o gynllun dadgomisynu'r safle.

Yn ôl cwmni Costain sydd wedi derbyn y cytundeb i gwblhau'r gwaith mi fydd yn arwain at 100 o swyddi gyda nifer o rheiny'n lleol.

Yn ôl NRS, y cwmni sy'n rheoli'r safle wrth ddadgomisynu, bydd yn sicrhau sgiliau fydd yn gallu cael eu defnyddio ar draws gogledd Cymru.

Nigel Wright
Disgrifiad o’r llun,

Dywed Nigel Wright fod y cynllun yn "gontract mawr pwysig"

Cafodd yr adweithyddion eu codi ar ddiwedd y 1950au gan ddechrau cynhyrchu ynni niwclear erbyn 1965.

Ar y pryd, dyma oedd yr unig safle niwclear mewndirol gan ddefnyddio dŵr o Lyn Trawsfynydd er mwyn oeri'r adweithyddion.

Ond wedi 25 mlynedd o gynhyrchu ynni dechreuodd y gwaith o ddadgomisynu yn 1991, gyda disgwyl i hynny gymryd degawdau.

Mae'r gwaith newydd i ostwng uchder yr adweithyddion yn rhan o'r dadgomisynu, yn bennaf er mwyn gwella'r olygfa ac effaith yr adweithyddion ar y tirlun.

"Mi fydd y to, wal a'r paneli concrit yn dod lawr oddeutu 25m", meddai Nigel Wright, Uwch Reolwr Prosiect NRS.

"Fydde nhw'n dod lawr tuag at y drysau melyn.

"Ma'n gontract mawr pwysig, allweddol... gwerth £70m a 'da ni'n disgwyl gweld two tower crane yn codi ac ia, dipyn o waith."

Tom Williams
Disgrifiad o’r llun,

Dywed Tom Williams mai mantais y gwaith i'r economi leol ydy "rhoi gwaith a sgiliau i bobl leol"

Yn ôl cyfarwyddwr y safle mi fydd hefyd yn gyfle i greu swyddi lleol.

"'Da ni'n gobeithio bydd 'na o gwmpas 100 o weithwyr ychwanegol ar y safle dros y pedair blynedd nesa' fydd yn cymryd y nifer i 350 yn gweithio yma", meddai Tom Williams, cyfarwyddwr safle Trawsfynydd.

"Y benefit mwyaf o hynny i'r economi leol ydy rhoi gwaith a sgiliau i bobl leol nid just i weithio yma ond hefyd i weithio mewn llefydd eraill ar draws yr ardal."

TrawsfynyddFfynhonnell y llun, Magnox

Er i'r safle gael ei grybwyll fel man posib i gartrefu adweithyddion niwclear bychain [SMR] rai blynyddoedd yn ôl, nid oes disgwyl i hynny ddigwydd bellach gyda Llywodraeth y DU yn canolbwyntio eu hymdrechion ar safleoedd Wylfa ar Ynys Môn ac Oldbury yn ne Lloegr.

Mae awgrym hefyd y gallai'r safle gael ei ddefnyddio i greu isotopau, ond does dim cadarnhad gan lywodraethau'r DU na Chymru o'r cynlluniau hynny.

Yn ôl y cynghorydd lleol, Elfed Roberts mi fydd y gwaith yn newid mawr i'r ardal.

"Mae 'na bach o legacy bod nhw yma," meddai.

Elfed Roberts
Disgrifiad o’r llun,

Dywed y Cynghorydd Elfed Roberts mai'r "teimlad yn lleol ydy bod angen dod â nhw lawr ac altro'r tirlun"

"Mae 'na rai, ac wrach bod nhw'n iawn, yn dweud dyle nhw gadw nhw.

"Ond yn gyffredinol y teimlad yn lleol ydy bod angen dod â nhw lawr ac altro'r tirlun."

Ychwanegodd bod yr addewid o swyddi yn sgil y cynllun yn cael ei groesawu.

"Maen nhw am gael dros 100 o weithwyr lleol, defnyddio cyflenwyr lleol... dros dro wrach, dros gyfnod o flynyddoedd ond mae gobeithio wrach geith nhw gadw 'mlaen ar y safle wedyn... felly mae o am fod yn hwb fach i'r ardal yn sicr."

Gyda'r cytundeb wedi dechrau, mae disgwyl i'r newid mwyaf ddechrau yn haf 2026 gan barhau am gyfnod o bedair blynedd.

Pynciau cysylltiedig

Straeon perthnasol