Ymgeiswyr isetholiad Caerffili yn mynd benben mewn dadl danllyd

- Cyhoeddwyd
Aeth chwech o'r pleidiau gwleidyddol sy'n sefyll yn isetholiad Senedd Caerffili benben â'i gilydd mewn dadl deledu - danllyd ar brydiau - ar BBC Cymru nos Fercher.
Bu Richard Tunnicliffe o Lafur, Gareth Potter o'r Ceidwadwyr, Lindsay Whittle o Blaid Cymru, Llŷr Powell o Reform, Steve Aicheler o'r Democratiaid Rhyddfrydol a Gareth Hughes o'r Blaid Werdd yn trafod ac yn ateb cwestiynau gan gynulleidfa o 80 o bobl yn Sefydliad a Neuadd y Gweithwyr Bedwas.
Gallwch weld proffiliau a pholisïau'r wyth ymgeisydd yma.
Y prif bynciau oedd gwasanaethau cyhoeddus, y gwasanaeth iechyd, mewnfudo, ac adfer ffydd y cyhoedd yn y system wleidyddol.
Mae'r isetholiad yn cael ei gynnal ar 23 Hydref yn dilyn marwolaeth sydyn yr aelod Llafur o Senedd Cymru, Hefin David, ym mis Awst.
Bydd yr enillydd yn cynrychioli Caerffili ym Mae Caerdydd am tua chwe mis, nes bod Cymru gyfan yn gallu pleidleisio yn etholiad y Senedd ym mis Mai nesaf.
- Cyhoeddwyd2 ddiwrnod yn ôl
- Cyhoeddwyd6 o ddyddiau yn ôl
Roedd pryder ynghylch gwasanaethau cyhoeddus yn amlwg yn y ddadl.
Dywedodd Lindsay Whittle o Blaid Cymru ein bod "wedi gweld ysbryd ac enaid ein cymunedau'n pylu'n araf gydag erydiad" gwasanaethau, wrth i gyfleusterau fel llyfrgelloedd a phyllau nofio gau neu wynebu cau.
Roedd angen mwy o fuddsoddiad, meddai, gan wario arian yn y "lleoedd cywir".
Dywedodd ymgeisydd y Blaid Werdd, Gareth Hughes, y dylid dod o hyd i arian trwy "drethu'r cyfoethog", gan gael y "bobl sydd â'r ysgwyddau ehangaf i gario'r baich".
Cyhuddodd Llŷr Powell o'r Blaid Reform y Senedd o wario "symiau enfawr o arian ar brosiectau nad ydynt yn blaenoriaethu gwasanaethau rheng flaen".
Byddai'n "blaenoriaethu gwasanaethau rheng flaen ar hyn o bryd," meddai.
Clywodd Richard Tunnicliffe, sy'n amddiffyn y sedd dros Lafur, gyhuddiadau o ragrith, y mae'n eu gwadu, gan aelodau eraill y panel am ymgyrchu i gadw llyfrgelloedd ar agor pan oedd y cyngor Llafur lleol wedi bod yn ceisio eu cau.
Dywedodd ei fod yn "angerddol" am lyfrgelloedd, ei fod yn "cyhoeddi llyfrau er mwyn ennill bywoliaeth" a'i fod am i Lywodraeth y DU helpu.
Cytunodd y Democrat Rhyddfrydol Steve Aicheler, un o'r rhai a gyhuddodd Mr Tunnicliffe o ragrith, fod "penderfyniadau anodd iawn" i'w gwneud ar gyllidebau.
"Ein blaenoriaeth yw gofal," meddai, gan hyrwyddo'r hyn a alwodd ei blaid yn "gynllun gofal plant mwyaf uchelgeisiol i Gymru".
Dywedodd y Ceidwadwr Gareth Potter mai ei blaid ef oedd yr unig un fyddai'n gwrthdroi ehangu'r Senedd y flwyddyn nesaf o 60 i 96 aelod.

Fe fydd etholwyr yng Nghaerffili yn pleidleisio ar 23 Hydref
Mewnfudo oedd y pwnc a daniodd y dadlau mwyaf ffyrnig.
Pan ofynnwyd a yw mewnfudo yn broblem yng Nghaerffili, fe wnaeth Llŷr Powell ateb gydag un gair, "ydy".
Fe wnaeth wadu ffigyrau'r Swyddfa Ystadegau gan ddweud bod mewnfudo wedi cynyddu ers hynny, ond pan ofynnwyd iddo a oes ganddo ei ffigyrau ei hun, dywedodd nad oes ganddo rai.
"Mae angen i ni fynd yn ôl at reoli mudo," meddai.
Dywedodd Richard Tunnicliffe fod mewnfudo yn cael ei ddefnyddio fel "arf", ei fod yn bwnc difrifol ond mae'n cyhuddo Reform o fod eisiau "rhannu" pobl.
"Mae'r wlad wedi elwa o fudo cyfreithiol rheoledig. Rydym yn cydnabod y pryderon gwirioneddol sydd allan yna."
Dywedodd Lindsay Whittle y byddai Plaid Cymru yn "falch" o gefnogi polisi cenedl noddfa Llywodraeth Cymru, ac yn dweud bod pobl o Wcráin yn byw mewn "ofn" o gael eu hanfon yn ôl.
Cyfeiriodd Mr Whittle hefyd at y cyfaddefiad o lwgrwobrwyo gan Nathan Gill, arweinydd blaenorol Reform UK yng Nghymru.
Mewn ymateb, dywedodd Llyr Powell iddo glywed am y llwgrwobrwyo gan y wasg. Dywedodd fod Gill wedi ymddwyn fel "bradwr" ac y dylai wynebu "grym llawn y gyfraith".
Dywedodd Steve Aicheler o'r Democratiaid Rhyddfrydol nad yw mewnfudo yn broblem yng Nghaerffili ond mae'r canfyddiad yn broblem meddai, gan ychwanegu bod gwestai lloches yn achosi rhaniadau.
Dywedodd Gareth Hughes o'r Blaid Werdd fod Reform yn "troi pobl sy'n dod i'r wlad hon yn ffoi rhag rhyfel i fod yn elynion".
Rhestr lawn yr ymgeiswyr
Ceidwadwyr - Gareth Potter
Democratiaid Rhyddfrydol Cymru - Steve Aicheler
Gwlad - Anthony Cook
Llafur - Richard Tunnicliffe
Plaid Cymru - Lindsay Whittle
Reform UK - Llŷr Powell
UKIP - Roger Quilliam
Y Blaid Werdd - Gareth Hughes