Cyfraith newydd i Gymru ddegawd ar ôl trychineb Grenfell

Twr GrenfellFfynhonnell y llun, Ayshea Buksh/BBC
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r llywodraeth yn dweud eu bod nhw am wneud newidiadau "ystyrlon" yn sgil tân Grenfell

  • Cyhoeddwyd

Bydd cyfraith newydd i warchod pobl mewn fflatiau rhag tân yn dechrau dod i rym yng Nghymru yn 2027 - 10 mlynedd ar ôl trychineb Tŵr Grenfell.

Dywedodd Llywodraeth Cymru y bydd hi'n glir pwy sy'n gyfrifol am gadw adeiladau'n ddiogel a phwy sy'n atebol pan fo pethau'n mynd o le.

Bydd gan drigolion gyfrifoldebau newydd hefyd i leihau'r risg o danau diolch i'r Bil Diogelwch Adeiladau, a gyhoeddwyd ddydd Llun.

Dywedodd y gweinidog sy'n gyfrifol bod angen sicrhau bod "trigolion yn cael eu clywed".

Mae'r mesur yn rhan o ymateb Llywodraeth Cymru i'r tân yn Nhŵr Grenfell ym mis Mehefin 2017 lle bu farw 72 o bobl.

Cafodd ymgynghoriad ei gynnal ar y polisi yn 2021, cyn etholiad diwethaf y Senedd, ond does dim disgwyl i'r ddeddf ddod i rym tan 2027 os ydy hi'n cael ei chymeradwyo gan y Senedd.

Dywedodd yr Ysgrifennydd Tai, Jane Bryant, bod angen cymryd amser i sicrhau "newid ystyrlon" yn dilyn nifer o adolygiadau i drychineb Grenfell.

Bydd gan adeiladau sy'n cynnwys fflatiau, gan gynnwys tai wedi'u haddasu, "berson atebol" sy'n gyfrifol yn gyfreithiol am ddiogelwch.

Fe allan nhw fod yn berchennog yr adeilad neu'n gwmni.

Bydd yn rhaid iddyn nhw wneud asesiad risg tân, gan gynnwys edrych ar y risgiau sy'n gysylltiedig â chladin.

Tri chategori

Dywedodd swyddogion y byddai'r bil yn creu "atebolrwydd clir" fel bod tenantiaid a pherchnogion fflatiau yn gwybod pwy sy'n gyfrifol yn gyfreithiol am ddiogelwch eu hadeiladau.

Dangosodd ymholiadau i drychineb Grenfell "nad oedd pobl yn teimlo eu bod wedi cael eu clywed ac nad oeddent yn gwybod at bwy i droi", meddai Jane Bryant.

"Dyna pam ei bod hi mor bwysig ein bod ni'n cael hyn yn iawn a bod pobl yn gwybod pwy sy'n gyfrifol - at bwy y gallant droi."

Bydd adeiladau'n cael eu rhoi mewn tri chategori, yn dibynnu ar eu maint.

Bydd blociau tŵr o leiaf 18 metr o uchder yng nghategori un, a bydd ganddynt y gofynion diogelwch mwyaf llym.

Dywedodd Ms Bryant bod y drefn yn "gymesur", ond y bydd hi'n cynnwys mwy o adeiladau na'r system gyfatebol yn Lloegr.

Mae camau eraill yn cael eu cymryd i wneud adeiladau'n ddiogel o ganlyniad i dân Grenfell, gan gynnwys gwaharddiad ar gladin fflamadwy a ddaw i rym ym mis Rhagfyr.