Menyw wedi'i harestio ar amheuaeth o geisio llofruddio

Heddlu
Disgrifiad o’r llun,

Dywed yr heddlu fod dyn 58 oed wedi dioddef anafiadau a "all newid ei fywyd"

  • Cyhoeddwyd

Mae menyw wedi ei harestio ar amheuaeth o geisio llofruddio yn dilyn digwyddiad ym Mhontypridd.

Fe gafodd Heddlu De Cymru eu galw i'r ardal tua 09:00 fore dydd Mawrth yn dilyn adroddiadau o ymosodiad.

Cafodd dyn 58 oed ei gludo i'r ysbyty ar ôl iddo gael ei anafu ar y ffordd rhwng adeiladau y Gwasanaeth Prawf a Kwik Fit.

Mae'r heddlu wedi disgrifio ei anafaiadu fel rhai "a all newid ei fywyd".

Cafodd menyw 45 oed ei harestio ac mae'n parhau yn y ddalfa.

Dywedodd yr heddlu nad ydyn nhw'n edrych am unrhyw un arall cysylltiedig â'r achos.

Pynciau cysylltiedig