Blythyn: 'Dim tystiolaeth cyn i mi gael fy niswyddo'
- Cyhoeddwyd
Mae gweinidog a gafodd ei diswyddo gan Vaughan Gething wedi ailddatgan na wnaeth hi ryddhau negeseuon i'r cyfryngau.
Cafodd Hannah Blythyn ei diswyddo ym mis Mai oherwydd honiadau mai hi oedd ffynhonnell stori am sgwrs grŵp ar-lein yn ystod cyfnod Covid.
Dywedodd AS Delyn na ddangoswyd unrhyw dystiolaeth iddi cyn ei diswyddo, ac ni ddywedwyd wrthi ei bod yn destun ymchwiliad.
Dywedodd Ms Blythyn, oedd yn bresennol yn y Senedd ddydd Mawrth am y tro cyntaf ers iddi gael ei diswyddo, fod y sefyllfa wedi ei gadael â phryder a straen difrifol.
Mae arweinydd Plaid Cymru Rhun ap Iorwerth wedi galw ar Vaughan Gething i wneud datganiad brys i'r Senedd yn dilyn honiadau Ms Blythyn.
Mae Llywodraeth Cymru wedi gwrthod gwneud sylw.
- Cyhoeddwyd11 Mehefin 2024
- Cyhoeddwyd20 Mai 2024
- Cyhoeddwyd16 Mai 2024
“Rwy’n gwybod y gallaf edrych ar fy holl gydweithwyr sy’n eistedd ar y meinciau [Llafur] hyn yn y llygad a dweud nad wyf erioed wedi rhyddhau gwybodaeth na briffio’r cyfryngau am unrhyw un ohonoch,” meddai.
Mewn datganiad dramatig, cymeradwyodd Aelodau o'r Senedd o bob rhan o’r siambr y cyn-weinidog pan eisteddodd i lawr.
Ym mis Mai, dywedodd Mr Gething “ar ôl adolygu’r dystiolaeth sydd ar gael i mi ynghylch y datgeliad diweddar o gyfathrebu i’r cyfryngau, yn anffodus rwyf wedi dod i’r casgliad nad oes gennyf ddewis arall ond gofyn i Hannah Blythyn adael y llywodraeth".
Ymhelaethodd: “Mae’n hollbwysig ein bod yn gallu cynnal hyder ymhlith cydweithwyr y llywodraeth fel ein bod yn gweithio fel un i ganolbwyntio ar wella bywydau pobl Cymru."
Roedd Ms Blythyn yn absennol o bleidlais o ddiffyg hyder a gollodd Mr Gething ym mis Mai - dywedodd cydweithwyr ei bod i ffwrdd o'r gwaith yn sâl.
Dechreuodd ei haraith ddydd Mawrth drwy ddweud y bu adegau pan oedd hi'n ansicr "a allwn sefyll neu siarad" yn siambr y Senedd eto.
“Er na fyddaf yn rhannu’r manylion, byddaf yn rhannu fy mod wedi codi pryderon yn ffurfiol am y broses a ddefnyddiwyd i gael fy niswyddo o’r llywodraeth, gan gynnwys peidio â chael unrhyw dystiolaeth honedig cyn cael fy niswyddo, peidio â chael fy hysbysu fy mod yn destun ymchwiliad erioed, ac ni ddangoswyd tystiolaeth i mi a oedd yn awgrymu y gallwn fod wedi torri cod y gweinidogion."
Dywedodd Ms Blythyn ei bod yn cydnabod ei bod "o fewn gallu unrhyw brif weinidog i benodi a diswyddo aelodau o'u llywodraeth".
Ond mewn cyfeiriad posib at yr amgylchiadau ynghylch marwolaeth Carl Sargeant, dywedodd yr AS fod ganddi "bryderon gwirioneddol nad yw gwersi wedi eu dysgu o'r gorffennol".
'Mwy o gwestiynau'
Wrth ymateb i’r datganiad, dywedodd Andrew RT Davies, arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig yn y Senedd: “Mae sylwadau Hannah Blythyn yn codi mwy o gwestiynau i’r prif weinidog.
“Bydd pobl nawr yn gywir yn gofyn a wnaeth y prif weinidog ddiswyddo Hannah yn gyhoeddus heb dystiolaeth ddigonol ei bod yn euog o ryddhau gwybodaeth.
“Roedd canlyniadau personol y diswyddo hwnnw i Hannah yn amlwg yn enfawr, ac mae angen i'r prif weinidog wneud ymddiheuriad llawn iddi.”
Mae arweinydd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth wedi ysgrifennu at Mr Gething yn ei annog i gyhoeddi'r dystiolaeth a ddefnyddiodd er mwyn diswyddo Ms Blythyn.
Galwodd ar y prif weinidog i wneud "datganiad brys yn y Senedd yfory yn nodi eich ymateb i'r pryderon a godwyd yn y datganiad personol gan yr aelod dros Delyn heddiw".