Gething: Negeseuon 'yn amlwg' wedi dod o ffôn cyn-weinidog
- Cyhoeddwyd
Mae negeseuon a gafodd eu rhyddhau i'r cyfryngau - oedd yn dangos fod y Prif Weinidog wedi dweud wrth grŵp ar-lein yn ystod cyfnod Covid ei fod yn dileu negeseuon - yn amlwg wedi dod o ffôn gweinidog gafodd ei diswyddo, yn ôl Vaughan Gething.
Mae Mr Gething wedi amddiffyn ei benderfyniad i ddiswyddo Hannah Blythyn ar ôl iddi wadu'n gryf yr honiad ei bod wedi rhyddhau gwybodaeth i'r cyfryngau.
Dywedodd y Prif Weinidog wrth ASau nos Fercher fod y dystiolaeth yn "syml" a'i fod wedi rhoi "buddiannau'r wlad" o flaen rhai ei hun wrth wneud y penderfyniad.
Gwrandawodd Ms Blythyn yn astud ar Mr Gething wrth iddo wneud ei ddatganiad i'r Siambr oedd llawn tyndra, gan ysgwyd ei phen.
- Cyhoeddwyd9 Gorffennaf 2024
- Cyhoeddwyd11 Mehefin 2024
- Cyhoeddwyd20 Mai 2024
Gwrthododd y Prif Weinidog â chynnig unrhyw dystiolaeth bellach, gan fynnu na fyddai'n gwneud hynny oni bai fod pawb fyddai o bosibl yn cael eu henwi yn y negeseuon yn cytuno.
Dywedodd Mr Gething wrth y Senedd fod y llywodraeth wedi derbyn "llun o ddarn o sgwrs iMessage gan newyddiadurwr a gofynnwyd iddyn nhw wneud sylw ar ei gynnwys".
“Roedd o un sgwrs grŵp a sefydlwyd am un diwrnod ym mis Awst 2020 gydag 11 o weinidogion Llafur Cymru a dirprwy weinidogion yn aelodau," meddai.
Dywedodd Mr Gething fod y llun wedi cael ei gymharu "gyda set lawn o negeseuon, a daeth yn amlwg y gallai'r llun fod wedi bod yn ffôn un aelod yn unig."
Ychwanegodd ei fod wedi siarad â Ms Blythyn wyneb yn wyneb ar 16 Mai a gofyn iddi adael y llywodraeth.
Dywedodd fod cyfarfod arall er mwyn ystyried y dystiolaeth wedi'i drefnu ar gyfer 24 Mai.
"Yn anffodus, ac yn ddealladwy, nid oedd Hannah yn gallu bod yn bresennol," meddai.
Gofynnodd Andrew RT Davies, arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig yn y Senedd, i Mr Gething a fyddai'n cyhoeddi'r dystiolaeth yr oedd wedi seilio ei benderfyniad arni.
Dywedodd Mr Gething: "Dydw i ddim yn bwriadu cyhoeddi unrhyw wybodaeth bellach. Fel rydw i wedi ei wneud yn glir ar fwy nag un achlysur, mae angen meddwl am fuddiannau pobl eraill.
"Ni fyddaf yn cyhoeddi'r wybodaeth oni bai bod pob person yn ymwneud â'r mater. yn fodlon i hynny ddigwydd."
'Tanseilio ffydd'
Dywedodd Rhun ap Iorwerth, arweinydd Plaid Cymru, wrth y Prif Weinidog fod "methu â gweithredu gyda thryloywder llwyr ar hyn yn parhau i danseilio ffydd yn ei arweinyddiaeth".
Dywedodd Mr Gething ei fod wedi "rhoi’r llywodraeth a buddiannau’r wlad o flaen fy niddordebau personol fy hun".
“Byddai wedi bod yn llawer haws pe bawn i wedi gofyn i bobl eraill fwrw ati a gweithredu fel pe na bai’r her yn amlwg yno.
"Dydw i ddim yn meddwl y byddwn i wedi bod yn gwneud fy swydd pe na bawn wedi mynd i'r afael â'r mater a oedd yn wir yn bryder gweithredol iawn ymhlith gweinidogion a thu hwnt."
- Cyhoeddwyd16 Mai 2024
- Cyhoeddwyd9 Gorffennaf 2024
- Cyhoeddwyd7 Gorffennaf 2024
Daw datganiad y Prif Weinidog wedi i'r ysgrifennydd a gafodd ei diswyddo drafod y mater yn y Senedd am y tro cyntaf ddydd Mawrth.
Dywedodd Hannah Blythyn nad oedd hi wedi rhannu dim gyda'r cyfryngau, a'i bod wedi codi pryder ffurfiol ynghylch y ffordd y cafodd ei diswyddo.
Y llywydd Elin Jones roddodd amser i'r Ceidwadwyr holi Vaughan Gething am eu pryderon.
Fis Mai fe wnaeth y Prif Weinidog honni mai Ms Blythyn oedd y ffynhonnell mewn stori oedd yn awgrymu fod Mr Gething wedi dweud wrth ysgrifenyddion i ddileu negeseuon testun yn ystod y pandemig.
Dywed yr AS ar gyfer Delyn yn y Senedd ddydd Mawrth nad oedd hi wedi derbyn unrhyw dystiolaeth cyn iddi gael ei diswyddo a bod y sefyllfa wedi achosi gorbryder a straen iddi.
Wrth siarad yn y Senedd gyda Mr Gething yn gwylio, dywedodd fod angen pobl mwy "clên" a "gwell" er mwyn gwella gwleidyddiaeth.