Edwin Seward: Y dyn a adeiladodd Caerdydd
![edwin](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/540/cpsprodpb/51c6/live/4029fc20-1848-11ef-be2b-033e2595d1e2.jpg)
Ganwyd Edwin Seward yn Yeovil yn 1853
- Cyhoeddwyd
Mae 21 Mehefin yn nodi 100 mlynedd ers marwolaeth un o'r penseiri pwysicaf yn hanes Caerdydd, Edwin Seward.
Roedd yn gyfrifol am rai o'r adeiladau mwyaf trawiadol a phwysig yn y brifddinas, a gyda gwedd Caerdydd yn newid yn gyson mae strwythurau Seward yn parhau i sefyll ag awdurdod.
Ond beth oedd yn gwneud adeiladau Seward mor arbennig? A beth yw ei ddylanwad ar Gaerdydd erbyn heddiw?
'Sefydlu ei hun'
Mae Morgan Haigh yn ddarlithydd a hanesydd o Gaerdydd, ac yn ymddiddori yn hanes pensaernïol y ddinas.
“Daeth Seward i Gaerdydd astudio celf yn y coleg ac i gryfhau ei sgiliau pensaernïol. Roedd yn 16 - roedd hyn yn ifanc i wneud y ffasiwn beth hyd yn oed yr adeg hynny, i symud i ddinas wahanol mewn gwlad wahanol a trio gwneud enw i’w hun.
“Mae’n sefydlu ei hun yn eitha’ cyflym, ac erbyn iddo fod yn 20 oed mae’n gweithio ac yn cynghori ar brosiect Insole Court, fel rydyn ni’n ei 'nabod heddiw (Ely Court oedd e pryd hynny) yn Llandaf. Roedd yn prentis i bensaer o’r enw George Robson, ac fe weithiodd y ddau ar ddylunio Insole Court."
![insole court](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/488/cpsprodpb/3f77/live/4f2de480-2e4a-11ef-8037-1d36f173811f.jpg)
Insole Court, neu Ely Court fel yr oedd ar y pryd, ar ddechrau'r 20fed ganrif
Dywed Morgan bod Seward wedi creu argraff wrth ddylunio'r adeilad yn Llandaf.
“Mae’n debyg mai Seward oedd yn rheoli’r ochr greadigol o’r prosiect, er ei fod mor ifanc ar y pryd. Roedd y newidiadau unigryw gafodd eu gwneud ar yr adeilad yn nodweddiadol o steil Seward. 'Nathon nhw ychwanegu adain gyfan a thŵr i adeilad a fyddai’n blas swbwrbaidd digon confensiynol fel arall.
“Mae’r tŵr yn un gothig fel rhyw hen gastell, ond mae wedi cael ei newid ers dyddiau Seward. Mae’n debyg bod gwaith Seward ar Insole Court wedi ei ysbrydoli gan y gwaith yr oedd William Burgess yn ei wneud ar Gastell Caerdydd a Castell Coch.
“Cafodd gwaith Burgess ddylanwad ar bob agwedd o bensaernïaeth Caerdydd, dim ar waith Seward yn unig; Heol y Gadeirlan, adnewyddiad Cadeirlan Llandaf... roedd Caerdydd yn dod yn rhyw ganolbwynt i’r adfywiad gothig oherwydd dylanwad Marcwis Bute a William Burgess."
![insole court](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/974/cpsprodpb/376e/live/ca995d00-2e29-11ef-bdc5-41d7421c2adf.jpg)
Insole Court fel y mae heddiw
Roedd Caerdydd yn ddinas a oedd yn tyfu’n gyflym ac yn diwydiannu. Saethodd y boblogaeth i fyny wedi’r chwyldro diwydiannol, ac felly cafodd llawer o adeiladau’r ddinas eu hadeiladu yn ail hanner yr 19fed ganrif.
“Does ond rhaid edrych o gwmpas y ddinas heddiw i sylwi bod Caerdydd, yn ei hanfod, yn ddinas Oes Fictoria – does gan Caerdydd ddim y terasau Georgaidd fel sydd ym Mryste.
“Roedd Seward ond yn un o lu o benseiri ddaeth i Gaerdydd oherwydd bod hi’n ddinas a oedd yn tyfu ac lle roedd 'na o lot o waith ar gael.”
![pensaer](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/2560/cpsprodpb/d45e/live/66f5a350-2e45-11ef-82a7-932cebefd5de.jpg)
Yr hanesydd a darlithydd ar bensaernïaeth, Morgan Haigh
'Steil Seward'
Gyda adeiladau Seward i'w gweld ledled Caerdydd, oes modd dweud bod ffasiwn beth â 'steil Seward' o adeiladau?
“Ges i fy ngeni a magu yng Nghaerdydd ac wedi byw yma drwy gydol fy mywyd, felly daeth fy niddordeb i yn Seward am bod pobl yn ddim yn rhoi sylw iddo gan fod ei steil o adeiladau yn ‘steil Caerdydd’.
"Ond pan chi’n dechrau rhoi sylw i’r adeiladau penodol a wnaeth e, rydych chi’n gallu ei weld e ymhobman. Mae’n anodd sylwi ar ei waith e weithiau achos fe wnaeth lot o bobl gopïo ei steil e, gan bod e wedi dod yn math o ‘steil Caerdydd’.
“Prif nodweddion adeiladau Seward yw’r elfen eclectig iddyn nhw, a’r ffaith bod ei bensaernïaeth bron fel collage yn y ffordd mae e’n tynnu dylanwadau o bob math o steiliau a chyfnodau, a’u clymu at ei gilydd a chreu rhywbeth sydd efo’i stamp e arno fe, ond yn cael ei ddylanwadu gan ffynonellau eraill.
"Os edrychwch ar yr Hen Lyfrgell ar Yr Ais, mae 'na elfennau clasurol, ond mae ‘na hefyd ffenestri oes Elizabethan a ffigyrau baroque Eidalaidd sydd ar wahanol gorneli o’r adeilad.
"Mae’n cyfuno gwerth canrifoedd o steil a ffasiynau gwahanol, sy’n cael eu cyfuno i greu adeilad sy’n dod at ei gilydd yn hardd iawn. Roedd y creadigrwydd a’r flair yma ond yn cael ei ddefnyddio ar gyfer adeiladau yn Oes Fictoria i ddweud gwir."
![yr hen lyfrgell](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/3840/cpsprodpb/2404/live/7b093090-2e3c-11ef-b0f5-918c06ebf6d2.jpg)
Yr Hen Lyfrgell ar Yr Ais
'Methiant pensaernïaeth Caerdydd'
“Roedd Seward yn sicr yn arddel balchder dinesig ac roedd yn gweld cyfrifoldeb yn yr hyn yr oedd yn ei wneud. Roedd yn credu mewn creu adeiladau i dlysu dinasoedd a chreu adeiladau er budd y bobl. Roedd llawer o’i adeiladau wedi’w comisiynu â’r elfen ddinesig – y Llyfrgell ar Yr Ais a’r Ysbyty Brenhinol.
"Maent yn adeiladau sydd wedi’u dylunio i gael eu defnyddio gan y bobl gyffredin, dydyn nhw ddim yn blasdai crand, swyddfeydd preifat neu westai.
“Dwi’n meddwl mai’r methiant mwyaf ym mhensaernïaeth Caerdydd yw bod ganddo ddim synnwyr o’r ddinas yn ei gyfanrwydd.
"Os edrychwch chi ar y sgwâr canolog newydd – yn unigol dwi ddim yn meddwl bod yr adeiladau'n rhai sâl, er dyw nhw ddim yn wych, ond pan chi’n meddwl am yr uned yna mae’n methu’n llwyr i gysylltu â gweddill y ddinas. Os chi’n dod mas o’r orsaf drên ganolog mae yna dair brif ffordd o’ch blaen, ond does 'run onyn nhw’n mynd i nunlle, dydyn nhw ddim yn eich cymryd chi i ganol Caerdydd."
![ysbyty dewi sant](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/1024/cpsprodpb/054b/live/ad1226c0-2e3f-11ef-bd63-d150a5caeb00.jpg)
Ysbyty Dewi Sant ar y ffordd fewn i ardal Treganna o Gaerdydd
“Roedd gan Seward gynlluniau i ail-wneud canol Caerdydd yn llwyr, a phlethu’r pensaernïaeth a’r ffordd mae pobl yn arwain rownd y ddinas mewn i un llif. Roedd am ddymchwel lot o’r adeiladau rownd y castell ac adrefnu’r ffyrdd i greu mannau cyhoeddus a lonydd mawr llydan.
"Mae’n ymddangos i mi bod pob datblygiad newydd yng Nghaerdydd heddiw’n cael ei wneud yn yr ardal fach yna, ac yn methu'n llwyr i ffeindio ei le o fewn y dinas ehangach. Ry’n ni’n gweld hyn yn yr enwau – Sgwâr Canolog, Cei'r Fôr-forwyn yn y Bae, y Brewery Quarter – maen nhw’n ynysu eu hunain i ffwrdd o weddill Caerdydd."
Mae Morgan yn cydnabod bod cost yn ffactor bwysig, ond bod hefyd posib creu adeiladau hardd heb wario'n ormodol.
“Y ffordd gyfalafol o wneud pethau yw i adeiladu rhywbeth mor rhad â phosib er mwyn sicrhau bo’r elw mor fawr â phosib. Ond dwi yn credu bod posib i greu pensaernïaeth safonol mewn ffordd fforddiadwy – mae rhai o’r adeiladau gorau o’r ugeinfed ganrif wedi’w gwneud gyda dulliau brutalist, efo llinellau clir, ond ddim mewn ffordd drud.
"Maen nhw’n defnyddio’r un dulliau â heddiw – fframiau dur a choncrid, ond maent wedi’w gwneud gyda dyluniad yr adeilad mewn meddwl, a dyna’r agwedd sy’n cael ei golli heddiw."
'Adeiladau generig' heddiw
“Os edrychwn ni ar adeilad newydd Premier Inn ar waelod Heol y Frenhines – doedd 'na ddim ystyriaeth wedi bod ynglŷn a sut bydde hwnna’n ffitio i mewn yn y ddinas, a sut bydde fo’n edrych o bellter. Os edrychwch ar Gaerdydd o'r awyr, mae’n cynnwys nifer o dyrau unigol, heb unrhyw hunaniaeth na chymeriad – mae’n nhw’n adeiladau generig a all fod yn unrhyw ddinas ym Mhrydain.
“Un o’r pethau allwch chi ddweud am Seward ydi bod ei adeiladau o’n edrych ‘fel Caerdydd’ – maen nhw’n unigryw a dydi’r adeiladau yma ddim yn cael ei ffeindio yn unman arall. Gall y tyrau sy’n cael eu hadeiladau yng Nghaerdydd heddiw fod yn Manceinion, Leeds neu Lundain."
![SEWARD](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/800/cpsprodpb/1100/live/30c0b170-2f18-11ef-90be-b75b34b0bbb2.jpg)
Y cynlluniau ar gyfer adeilad ym Mharc Cathays ni chafodd ei hadeiladu
Cynlluniau ar gyfer Caerdydd
Roedd cynlluniau Seward ar gyfer Caerdydd yn hynod uchelgeisiol, fel esboniai Morgan Haigh:
“Mae Parc Cathays a’r ganolfan ddinesig sydd gennym heddiw yn hollol wych, mae’n un o'r set-pieces pensaernïol gorau ym Mhrydain, sydd ddim yn cael y clod mae’n haeddu. Felly mewn ffordd dwi’n falch na gafodd y ganolfan ddinesig oedd gan Seward mewn golwg ddim ei gwireddu.
"Roedd ganddo weledigaeth am ganolfan ddinesig ble mae Parc Yr Arfau heddiw, a hefyd adeiladu sgwariau a lonydd llydan newydd, ac roedd ganddo gynlluniau i wneud neuaddau enfawr i arddangos celf yn ble mae Park Place heddiw. Roedd y cynlluniau i gysylltu rhannau gwahanol o Gaerdydd yn rhan o’i weledigaeth ar gyfer y ddinas a Chymru’n ehangach.
“Yn hwyrach yn ei fywyd roedd syniadau Seward yn mynd yn fwyfwy uchelgeisiol, i drawsnewid Caerdydd. Roedd pobl yn dweud ‘ie’ iddo i ddechrau, ond daeth ffactorau ariannol a blaenoriaethau newydd i’r ddinas, ac maen debyg yr oedd pobl yn meddwl amdano fel rhyw freuddwydiwr utopian. Roedd e’n teimlo’n rhwystredig iawn, ac roedd yn 'sgwennu i’r Western Mail yn aml yn cwyno neu’n ffraeo wedi i brosiect gael ei anwybyddu."
![Seward](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/800/cpsprodpb/1c6b/live/3d84d210-2f18-11ef-bdc5-41d7421c2adf.jpg)
Cynlluniau i llwyr drawsnewid canol Caerdydd
“Roedd wir eisiau dylunio Amgueddfa Genedlaethol i Gymru – roedd wedi 'sgwennu am y peth sawl gwaith dros y blynyddoedd, a gofynnwyd iddo ddylunio adeilad. Ond yna fe gafodd ei gynnig ei wrthod gan y pwyllgor newydd a ffurfiwyd gan yr Amgueddfa, a oedd eisiau rhywun arall.
"Mae’n debyg bod gofyn i Seward ddylunio’r adeilad, ac yna cefnu ar y cynnig yna, wir wedi ypsetio Seward, ac mae’n ymddangos mai hyn oedd y ffactor wnaeth dorri ei ysbryd a phenderfynu gadael Caerdydd. Mae’n edrych fel ei fod wedi pwdu â Chaerdydd ac aeth i Weymouth i fyw am y ddegawd ola’ o’i fywyd.
“Pan symudodd i Weymouth roedd o'n cael ei weld fel colled enfawr i fywyd diwylliannol a chelfyddydol Caerdydd a de Cymru, gyda’r Llanelli Star yn adrodd: “Mr. Seward has removed to Weymouth, and his departure is a serious blow to the cultivated world in South Wales. Our loss is Weymouth’s gain.”
![gyfnewidfa glo](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/951/cpsprodpb/5af9/live/41a7f2f0-2e28-11ef-83a5-63f6b38e31f6.jpg)
Y Gyfnewidfa Lo - adeilad hanesyddol ym Mae Caerdydd
Gwaddol Seward
Felly, sut ddylen ni gofio Seward?
“Y ffordd fyswn i’n hoffi gweld Seward yn cael ei gofio, ac dwi’n amau y ffordd y bydde fe eisiau hefyd, yw ei fod wedi creu adeiladau i gael eu defnyddio a’u gwerthfawrogi. Pan chi’n edrych ar adeilad Yr Hen Lyfrgell - mae Amgueddfa Caerdydd wedi ei leoli yno diolch byth (er gwaethaf bygythiadau i’w gau) – ac mae Coleg Cerdd a Drama hefyd yn defnyddio rhan ohono.
“Mae gan Y Gymdeithas Fictorianaidd y Gyfnewidfa Lo ar y rhestr 10 uchaf o’r adeiladau Oes Fictoria sydd mewn peryg o ddiflannu ym Mhrydain. Mae’n rhan bwysig o hanes Caerdydd, Cymru ac o amgylch y byd. Byswn i’n caru gweld adeiladau Seward yn cael eu hadnewyddu, ac yn cael y gofal a’r parch mae nhw’n eu haeddu.”
Bu farw Seward yn Weymouth, Dorset yn 1924 ac yn 71 mlwydd oed, ond fe dreuliodd y rhan fwyaf o'i fywyd yn y ddinas a adeiladodd - Caerdydd.
![old infirmary](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/3840/cpsprodpb/49dc/live/18777000-2e40-11ef-82a7-932cebefd5de.jpg)
Ysbyty Brenhinol Caerdydd, un arall o adeiladau Seward
Pynciau cysylltiedig
Hefyd o ddi
- Cyhoeddwyd7 Mawrth 2017
- Cyhoeddwyd17 Rhagfyr 2019
- Cyhoeddwyd1 Chwefror 2017