Gemau Olympaidd: Y Gymraes gyntaf i ennill aur

Gemau Olympaidd 1912Ffynhonnell y llun, Wikipedia
Disgrifiad o’r llun,

Merched Prydain cyn y gystadleuaeth nofio yn 1912

  • Cyhoeddwyd

Faint wyddoch chi am y Gymraes gyntaf i ennill medal aur yn y Gemau Olympaidd?

Yma, mae’r hanesydd Elin Tomos yn bwrw golwg ar gamp a bri’r nofwraig o Gaerdydd, Irene Steer.

Ffynhonnell y llun, Wikipedia
Disgrifiad o’r llun,

Daeth Irene Steer i'r brig ac ennill y fedal aur yng Ngemau Olympaidd 1912

Ganwyd Irene Steer ar 10 Awst 1889. Roedd ei mam a’i thad, Annie a George, yn rhedeg siop ddillad.

Profodd y teulu sawl trasiedi bersonol ac erbyn geni Irene roedd ei rhieni eisoes wedi claddu dau o blant: yn 1883 bu farw Mortimer o'r pâs (whooping cough) ac mi dagodd ei chwaer, Gladys, ar fotwm yn ddeunaw mis oed.

Roedd gan Irene berthynas agos gyda’i thad, George. Ar benwythnosau roedd George yn mynd ag Irene i wylio gemau rygbi ym Mharc yr Arfau neu’n ymweld â’r Guildford Crescent Baths – pyllau nofio cyhoeddus a agorwyd yn 1862 yng nghanol Caerdydd.

Mae’n debyg mai yno y dysgodd Irene sut i nofio er bod rhai’n dadlau mai’n Llyn y Rhath y bu Irene yn dysgu!

Disgrifiad o’r llun,

Roedd Irene Steer yn gwneud enw iddi hi ei hun yn ifanc yn y pwll nofio

Erbyn 1907, a hithau’n ddim ond deunaw oed, roedd Irene wedi ennill dros 15 o gystadlaethau nofio amrywiol ac yn prysur ennill ei phlwyf fel nofwraig addawol iawn a’r flwyddyn honno, enillodd Bencampwriaethau Nofio Cymru yn Abertawe.

Yn ôl gohebydd Evening Express ‘Miss Steer… is a most graceful swimmer [and] has made extraordinary progress in the art’. Yn Abertawe, llwyddodd Irene i nofio 100 llath mewn 93 eiliad – wyth eiliad yn gynt na’r record ar y pryd i Gymraes.

Tair blynedd yn ddiweddarach, yn 1910, enillodd Bencampwriaethau Nofio gwledydd Prydain gan gipio’r teitl oddi wrth Jennie Fletcher o Gaerlŷr, Pencampwraig Nofio can llath Prydain ers 1904!

Pan gyhoeddwyd mai Irene oedd yn fuddugol Jennie oedd y cyntaf i’w llongyfarch a dros amser fe ddaeth y ddwy yn wrthwynebwyr – ac yn ffrindiau – mawr i’w gilydd.

Gemau Olympaidd yn Stockholm 1912

Yn 1911, er i Irene fethu cystadlu ym Mhencampwriaethau Prydain oherwydd salwch ei chwaer Linda a oedd yn dioddef o TB, llwyddodd i ennill lle yn nhîm nofio Prydain ar gyfer y Gemau Olympaidd yn Stockholm yn 1912.

Ond ni chafwyd dechrau rhy dda ar ôl i Irene gael ei atal rhag cystadlu yn y 100m dull rhydd ar ôl iddi daro yn ddamweiniol yn erbyn nofwraig o’r Almaen yn ystod y ras ragbrofol.

Llwyddodd i achub ei henw da yn y ras gyfnewid dull rhydd 4 x 100m pan gipiodd y fedal aur ar y cyd ag Annie Speirs, Belle Moore a’i chyfaill Jennie Fletcher.

Yn 1912 roedd y cysyniad o ferched yn cystadlu yn y Gemau Olympaidd yn gymharol newydd. Caniatawyd i ferched gystadlu am y tro cyntaf 12 mlynedd ynghynt yng Ngemau Olympaidd Paris yn 1900.

Y flwyddyn honno, allan o 997 o athletwyr dim ond 22 ohonynt oedd yn fenywod. Dim ond mewn pum camp yn unig, sef tennis, hwylio, croce, marchogaeth a golff yr oedd gan ferched yr hawl i gystadlu.

Ffynhonnell y llun, Wikipedia
Disgrifiad o’r llun,

Ychydig eiliadau cyn i'r nofwyr blymio i'r dŵr

Yn 1912 – y flwyddyn yr enillodd Irene – rhoddwyd yr hawl i ferched gystadlu yn y pwll am y tro cyntaf.

Mae’r frwydr am gydraddoldeb yn y Gemau Olympaidd wedi bod yn un hir, a dweud y lleiaf. Yng Ngemau Olympaidd Llundain yn 2012 gwelwyd merched yn bocsio am y tro cyntaf – y gamp olaf i ganiatáu merched i gystadlu.

Pwy feddyliai pan lwyddodd Irene i fachu medal aur yn 1912 y byddai’n rhaid disgwyl canrif union tan yr oedd merched yn cael cystadlu ym mhob camp ar raglen y gemau?

Yn 1913 fe roddodd Irene y gorau i nofio yn gystadleuol a phriododd William Nicholson, cyfarwyddwr a chadeirydd Clwb Pêl-droed Dinas Caerdydd.

Bu farw ar 18 Ebrill 1977, yn 87 mlwydd oed. Roedd Irene yn nofwraig amryddawn ac arloesol sy’n llawn haeddu ei lle rhwng cloriau ein llyfrau hanes.

Pynciau cysylltiedig