Sut wnaeth y Cymry yng Ngemau Olympaidd Paris 1924?

  • Cyhoeddwyd

Mae geirfa ar ddiwedd yr erthygl i bobl sy'n dysgu Cymraeg.

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Mae’r Gemau Olympaidd yn dechrau yn Paris ar 26 Gorffennaf.

Union ganrif yn ôl, roedd y gemau yn yr un ddinas.

Yr hanesydd chwaraeon, Dr Meilyr Emrys oedd yn siarad ar raglen Aled Hughes ar BBC Radio Cymru am hanes y Cymry oedd ar dîm Prydain yng ngemau 1924.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Tîm Prydain yn seremoni agoriadol Gemau Olympaidd Paris yn 1924

Roedd gan Prydain un o’r timau mwyaf yn 1924, gyda 267 o athletwyr. Dim ond naw ohonyn nhw oedd yn Gymry.

Roedd y rhan fwyaf ohonyn nhw yn cystadlu yn y Gemau Olympaidd am y tro cyntaf. Wnaeth nifer ddim mynd i’r Gemau Olympaidd byth eto.

Y naw oedd:

  • Paul Radmilovic (polo dŵr)

  • Horace Debenham (rhwyfo)

  • William Randall (codi pwysau)

  • Stanley Leigh, Ernest Leigh, Thomas Hopkins (gymnasteg)

  • David Lewis, Philip Griffiths, Enoch Jenkins (saethu).

Ffynhonnell y llun, Oriel Anfarwolion Chwaraeon Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Paul Radmilovic yn 1903

Yn anffodus, wnaeth neb ennill medal.

Roedd Paul Radmilovich wedi ennill pedair medal aur mewn Gemau Olympaidd cyn 1924 – yr unig Gymro erioed i ennill pedair medal Olympaidd. Ond collodd tîm polo dŵr Prydain yn y rownd gyntaf yn Paris.

Daeth Horace Debenham a thîm rhwyfo wyth dyn Prydain yn agos, gan ddod yn bedwerydd.

Dyma oedd ail dro Enoch Jenkins yn y Gemau. Roedd rhaid iddo aros 28 o flynyddoedd i gystadlu eto, yn Helsinki yn 1952! Enoch Jenkins oedd hen ewythr y chwaraewyr rygbi, Neil Jenkins.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Horace Debenham (pumed o'r chwith) a thîm rhwyfo wyth dyn Prydain ar afon Seine, Paris, Gorffennaf 1924

Roedd yna hefyd athletwyr gyda chysylltiad Cymreig.

Cafodd y chwaraewr tenis, Maxwell Woosnam, ei eni yn Lerpwl, ond roedd ganddo gysylltiadau agos gyda chanolbarth Cymru - roedd ei deulu yn dod o Ystâd Cenllysgwynne ger Llanfair ym Muallt.

Ond er fod Woosnam wedi ennill medal aur ac arian yng ngemau 1920, wnaeth o ddim ennill yn 1924.

Mae’r ffilm Chariots of Fire yn adrodd stori llwyddiant dau redwr o Brydain yng Ngemau Olympaidd 1924, ac roedd un ohonyn nhw yn hanner Cymro!

Cafodd mam Harold Abraham ei geni ym Merthyr Tudful. Enillodd Abraham y ras 100m – y Prydeiniwr cyntaf i wneud hynny – ac ennill medal arian yn y ras gyfnewid 4x100m.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Harold Abrahams yn ennill y ras 100m

Eleni mae 31 athletwr (a thri eilydd) o Gymru yn rhan o dîm Prydain – gobeithio y bydd mwy o fedalau yn dod yn ôl adref eleni.

Pob lwc!

Geirfa

canrif/century

hanesydd/historian

athletwyr/athletes

cystadlu/to compete

rhwyfo/rowing

codi pwysau/weightlifting

saethu/shooting

ennill/to win

pedwerydd/fourth

hen ewythr/great uncle

cysylltiad/connection

canolbarth Cymru/mid Wales

ystâd/estate

llwyddiant/success

rhedwr/runner

ras gyfnewid/relay race

eilydd/substitute

Pynciau cysylltiedig