Caernarfon yn colli'n drwm yn erbyn Legia Warsaw
- Cyhoeddwyd
Cafwyd perfformiad dewr a llawn cymeriad gan Gaernarfon nos Iau er iddyn nhw golli o 6-0 oddi cartref yn erbyn Legia Warsaw yng nghymal cyntaf ail rownd ragbrofol Cyngres Europa.
Roedd peniad Marc Gual a chynnig Ryoya Morishita – yn dilyn camgymeriad erchyll gan y golwr ifanc Stephen McMullan - wedi rhoi cewri Gwlad Pwyl 2-0 ar y blaen ar yr egwyl.
Cafodd Danny Gosset a Zack Clarke gyfleoedd i’r Caneris, sy'n cystadlu yn Ewrop am y tro cyntaf yn eu hanes.
Sgoriodd Gual ddwywaith yn rhagor i gwblhau ei hat-tric yn yr ail hanner cyn i Blaz Kramer sgorio’r bumed, a hynny wedi iddo fethu cic o’r smotyn.
Daeth gôl olaf y noson trwy ergyd o bellter gan Claude Gonçalves yn yr amser a ychwanegwyd ar ddiwedd y gêm ar gyfer anafiadau.
Fe gafodd y gêm ei chwarae tu ôl i ddrysau caeëdig ar ôl i Legia gael eu sancsiynu gan UEFA am i’w cefnogwr arddangos baner “bryfoclyd” gyda “natur sarhaus” mewn gêm yn erbyn Molde fis Chwefror.
Fe fydd yr ail gymal yn cael ei chwarae nos Iau 1 Awst.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd23 Gorffennaf
- Cyhoeddwyd24 Gorffennaf
- Cyhoeddwyd17 Gorffennaf