Aros blynyddoedd am gartref 'yn cael effaith ar fy iechyd meddwl'
- Cyhoeddwyd
Mae dynes o Sir Gâr yn dweud nad yw hi’n gallu symud ymlaen â'i bywyd wrth iddi aros am gartref parhaol.
Mae Charmaine Denton yn byw mewn llety dros dro ers tair blynedd, ac yn dweud bod yr aros yn cael effaith ar ei iechyd meddwl.
Mae digartrefedd a’r defnydd o lety dros dro yng Nghymru wedi cyrraedd eu lefelau uchaf erioed.
Yn ôl Llywodraeth Cymru, maen nhw wedi buddsoddi £1.4bn hyd yma i geisio taclo digartrefedd a darparu mwy o dai.
'Fi 'di colli blynyddoedd'
Treuliodd Charmaine Denton y rhan fwyaf o'i phlentyndod mewn gofal. Symudodd i’w fflat cyntaf pan yn 16 oed.
“Do’n i ddim wir yn barod i fod yn annibynnol,” meddai.
“Dwi ddim yn meddwl bod llawer o rai 16 oed yn [barod].”
Er ei bod hi’n cymryd cyfrifoldeb am ei phenderfyniadau, mae’n dweud iddi ddechrau cymryd y cocên a heroin yn sgil diffyg cefnogaeth, a bywyd llawn anrhefn.
Collodd ei fflat, treuliodd amser yn y carchar, bu’n cysgu ar y stryd a byw mewn llety dros dro.
"O'n i mewn llety dros dro i unrhyw un, fel y digartre', am oesoedd... mewn a mas o'r carchar... fi 'di colli blynyddoedd," meddai.
- Cyhoeddwyd2 Rhagfyr 2023
- Cyhoeddwyd1 Hydref 2024
- Cyhoeddwyd28 Hydref 2022
Bellach, yn 38 oed, mae Charmaine wedi troi ei chefn ar gyffuriau, ac yn byw mewn tŷ â chefnogaeth i'w helpu gyda'i hadferiad.
Roedd hi'n ddigon da i adael y llety sy’n cael ei redeg gan elusen ddigartrefedd The Wallich ar ôl blwyddyn.
Dwy flynedd yn ddiweddarach mae hi'n dal yno.
“Chi’n methu gwneud eich hunan yn gartrefol yn llwyr - ma’n stwff i gyd mewn bocsys achos fi’n barod i symud.
“Dyw e ddim yn teimlo fel cartre’. Fi’n barod i ddechrau pennod newydd…”
Yn ôl Jamie-Lee Cole o elusen The Wallich, maen nhw'n bryderus am bobl fel Charmaine sy'n aros mewn llety dros dro am gyfnodau hir - gan nad oes unman arall ganddyn nhw i fynd.
"Mae'n gallu effeithio ar eich iechyd meddwl. I rai, mae mwy o berygl iddyn nhw droi nôl at ddefnyddio sylweddau," meddai.
"Os oes profiad o'r system gyfiawnder troseddol, [mae] risg o ail-droseddu..."
Mae digartrefedd wedi codi i’w lefel uchaf ers 2015. Roedd 13,539 aelwydydd yn ddigartref yn 2023/24 - 8% yn uwch na’r flwyddyn gynt.
Mae nifer yr aelwydydd mewn llety dros dro, fel gwestai neu wely a brecwast, wedi codi 18% o gymharu â’r llynedd – i 6,447 eleni.
Yn ôl y Sefydliad Bevan, mae un ym mhob 215 aelwyd bellach yn byw mewn llety dros dro.
Casnewydd, y ddinas sy’n tyfu gyflymaf yng Nghymru, sydd â’r gyfradd ddigartrefedd uchaf yn y wlad.
Mae wedi codi dros 50% dros y flwyddyn ddiwethaf. Mae 1,359 o aelwydydd yn ddigartref yno – y ffigwr uchaf erioed.
Does dim rhyfedd felly bod sesiwn galw draw y gwasanaeth tai yn llyfrgell ganolog Casnewydd yn un prysur.
Yn ôl y swyddog cyngor ac atal, Hannah Berry, mae pobl yn gallu “bod yn grac, ypset, rhwystredig".
“Dim ond cartref ma’ nhw ishe,” meddai.
Rhan anoddaf ei swydd yw methu helpu pobl, ychwanegodd.
“Ry’n ni’n trio’n gorau glas i helpu pawb, ond ry’n ni’n cael ein cyfyngu gan gyllid, prinder tai, diffyg darpariaeth a phrinder gwasanaethau eraill,” meddai.
Ym mis Medi 2024, roedd 594 o aelwydydd y sir yn byw mewn llety dros dro, a’r gost i'r cyngor yn £6.5m - £1.4m yn fwy na’r llynedd.
Yn ôl Kath Howells, rheolwr gwasanaeth yn yr adran dai Cyngor Casnewydd, mae Cymru’n dioddef oherwydd yr argyfwng tai.
Mae’n dweud bod rhentu'n breifat wedi mynd yn rhy ddrud i lawer o bobl, ac nad oes llawer o opsiynau eraill ar gael.
“Mae 'da ni’r nifer ucha' o aelwydydd mewn llety dros dro, ynghyd â throsiant isel i’r stoc tai cymdeithasol, sy’n golygu nad y’n ni’n gallu symud pobl i’r cartrefi maen nhw eu hangen ac yn eu haeddu,” meddai.
Yn ôl y Sefydliad Bevan, mae chwech ym mhob 1,000 o blant Cymru bellach yn byw mewn llety dros dro.
Mae Steffan Evans o’r corff ymchwil yn dweud bod canran y tai cymdeithasol fel cyfran o’r stoc tai wedi bron â haneru mewn 40 mlynedd.
“Ni’n gwybod bod gan Lywodraeth Cymru darged o 20,000 o dai fforddiadwy… ond ellith y targed hwnna ddim bod y diwedd - ni angen mynd ymhellach,” meddai.
Yn ôl Llywodraeth Cymru mae "taclo digartrefedd a darparu mwy o gartrefi yn flaenoriaeth allweddol".
Ychwanegodd llefarydd eu bod wedi buddsoddi £1.4bn yn y maes hyd yma, sy'n fwy o arian nag erioed o'r blaen.
Yn ôl llefarydd, mae "cynnydd yn nifer y bobl sy'n cael eu cefnogi drwy lety dros dro yn adlewyrchu'r pwysau o fewn y system" ac maen nhw'n buddsoddi bron £220m i atal digartrefedd a chefnogi yn y maes.
'Wedi fy ngwneud i’n gryfach'
Parhau i aros mae Charmaine Denton.
Ond mae'n obeithiol, pan y daw o hyd i gartref parhaol, y bydd hi'n gallu gwirfoddoli er mwyn helpu eraill sydd wedi profi sefyllfa debyg.
“Mae fy ngorffennol wedi fy ngwneud i’n gryfach, sai’n gweld e’ fel [rhywbeth] drwg – fi’n gweld e’ fel profiad.
"Fi’n gobeithio alla i droi e’ o gwmpas mewn i [rywbeth] positif,” meddai.
Hwn fydd y pedwerydd Nadolig iddi dreulio mewn llety dros dro.
“Ro’n i’n gobeithio rhoi fy nghoeden Nadolig fy hunan lan 'leni… Dwi isie fy lle fy hunan a gallu addurno fe, fel ma' pawb arall yn 'neud.
“Fi jest isie cael cartref i fi fy hun – dyna beth ma' pawb yn ei haeddu nage fe?”