Adroddiad deifiol o'r sgowtiaid ar ôl cwest y Gogarth
- Cyhoeddwyd
Mae crwner wedi galw Cymdeithas y Sgowtiaid yn "anonest ac amddiffynnol" yn dilyn cwest i farwolaeth bachgen fu farw ar y Gogarth yn Llandudno yn 2018.
Mae David Pojur, crwner cynorthwyol gogledd-ddwyrain Cymru, yn bryderus y bydd mwy o farwolaethau os na fydd Cymdeithas y Sgowtiaid yn delio gyda’u methiannau.
Roedd Mr Pojur yn ymateb yn dilyn y cwest i farwolaeth y sgowt 16 oed, Ben Leonard, fu farw ar ôl cael anaf difrifol i’w ben pan gwympodd 200 troedfedd oddi ar glogwyn ar y Gogarth yn 2018.
Roedd ar daith gyda'r Reddish Explorer Scouts o Stockport ar y pryd, ac yn sgil "methiannau sylweddol" wrth drefnu'r daith honno, fe ddaeth y rheithgor i’r casgliad ei fod wedi cael ei ladd yn anghyfreithlon.
Dywedodd Cymdeithas y Sgowtiaid eu bod eisoes "wedi dechrau gweithio ar ein hymateb i argymhellion y crwner".
Yn ôl David Pojur “does dim diwylliant o onestrwydd a diffuantrwydd” o fewn yr elusen.
Ychwanegodd: “Mae datganiad i'r wasg Cymdeithas y Sgowtiaid o fewn eiliadau i gasgliad y rheithgor yn dangos eu methiant i dderbyn unrhyw atebolrwydd a deall a dysgu un rhywbeth priodol o farwolaeth Ben.
"Mae Cymdeithas y Sgowtiaid yn amddiffynnol yn sefydliadol."
Ail adroddiad beirniadol
Mae’r adroddiad Atal Marwolaethau'r Dyfodol wedi’i anfon at Gymdeithas y Sgowtiaid, eu hyswirwyr, gweinidogion addysg yng Nghymru a Lloegr, Comisiynwyr Plant Cymru a Lloegr, y Comisiwn Elusennau a'r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch.
Dyma’r eildro i'r crwner gyhoeddi adroddiad i farwolaeth Ben Leonard.
Roedd cwest yn Chwefror 2020 wedi dod i ben am resymau cyfreithiol, ac roedd 20 o ofynion wedi’u cyfeirio at Gymdeithas y Sgowtiaid bryd hynny yn ymwneud â diogelwch, gweinyddu ac ymddygiad.
Roedd yn rhybuddio y gellid gweld mwy o farwolaethau oni fyddai’r methiannau hyn yn cael ei datrys.
Mae’r adroddiad hwn, yn dilyn y trydydd cwest, yn feirniadol tu hwnt o Gymdeithas y Sgowtiaid ac yn cynnig cyfarwyddiadau manwl ar hyfforddiant, atebolrwydd a rheoli diogelwch yn y dyfodol.
Mae gan Gymdeithas y Sgowtiaid a’r sefydliadau eraill tan 18 Ebrill i ymateb yn swyddogol i’r adroddiad.
Dywedodd llefarydd ar ran Cymdeithas y Sgowtiaid: "Mae tîm o staff a gwirfoddolwyr wedi dechrau gweithio ar ein hymateb i argymhellion y crwner.
"Bydd monitro gweithredol gan is-bwyllgor o ymddiriedolwyr a goruchwyliaeth gan ein bwrdd llawn.
"Bydd y bwrdd ymddiriedolwyr llawn hefyd yn cyfarfod yn rheolaidd i sicrhau eu bod yn cael eu hysbysu’n llawn am y cynnydd, ac i gymeradwyo fersiwn terfynol o ymateb y gymdeithas."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd22 Chwefror
- Cyhoeddwyd25 Ionawr
- Cyhoeddwyd4 Ionawr