Arweinwyr y sgowtiaid 'ar fai' am farwolaeth bachgen 16 oed

  • Cyhoeddwyd
Ben LeonardFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd mam Ben, Jackie Leonard, bod ei mab yn "fachgen arbennig" oedd yn "caru darllen"

Mae cwest wedi clywed bod arweinwyr Cymdeithas y Sgowtiaid yn derbyn cyfrifoldeb am farwolaeth bachgen a ddisgynnodd i'w farwolaeth yng ngogledd Cymru.

Bu farw Ben Leonard, 16 oed, ar ôl iddo gael anaf difrifol i'w ben pan ddisgynnodd oddi ar glogwyni'r Gogarth yn Llandudno ar 26 Awst, 2018.

Roedd ar daith gyda'r Reddish Explorer Scouts o Stockport ar y pryd

Dywedodd cyfreithwyr ar ran y gymdeithas wrth fam Ben eu bod yn cydnabod mai nhw oedd ar fai, a'u bod yn ymddiheuro.

Roedd Ben Leonard wedi derbyn ei ganlyniadau TGAU ddyddiau cyn iddo fynd ar y daith gyda'r grŵp o ardal Manceinion.

Y bwriad gwreiddiol oedd i gerdded i gopa'r Wyddfa, ond bu'n rhaid newid y cynlluniau oherwydd y rhagolygon tywydd.

O ganlyniad, fe aeth y grŵp ar daith i Landudno yng Nghonwy ac i gerdded ar y Gogarth.

Clywodd y cwest ym Manceinion nad oedd unrhyw asesiadau risg wedi eu gwneud o flaen llaw, nac ar y diwrnod chwaith.

Disgrifiad o’r llun,

Roedd Ben Leonard yn cerdded ar Y Gogarth pan ddisgynnodd i'w farwolaeth fis Awst 2018

Dywedodd y crwner David Pojur fod Ben a dau ffrind wedi mynd ar drywydd gwahanol i weddill y sgowtiaid.

Esboniodd bod dau o'r sgowtiaid yn eistedd gyda'i gilydd wrth i Ben fynd ar ei ben ei hun tuag at y clogwyni.

"Roedden nhw'n poeni am hynny, ac wedi ceisio perswadio Ben i ymuno â nhw," meddai Mr Pojur.

Roedd Ben wedi dweud ei fod yn credu iddo ddod o hyd i lwybr i lawr y mynydd - ond cafodd ei weld yn llithro oddi ar ymyl y clogwyn.

Clywodd y cwest bod cerddwr wedi gweld y bachgen yn disgyn ar lethr serth ac yna ar y ffordd.

Bu farw yn y fan a'r lle ar ôl dioddef anafiadau difrifol i'w ben.

'Bachgen arbennig'

Dywedodd y crwner wrth y rheithgor bod gofyn iddyn nhw ystyried a oedd cynlluniau ac asesiadau risg addas mewn lle wrth iddyn nhw benderfynu sut y bu farw'r bachgen.

Wrth roi tystiolaeth ar ddiwrnod cyntaf y cwest, dywedodd mam Ben, Jackie Leonard, bod ei mab yn "fachgen arbennig".

Fe ddywedodd bod gan ei mab ddawn ysgrifennu a'i fod yn bwriadu mynd ymlaen i astudio cwrs ffilm a theledu yn y coleg.

Clywodd y cwest bod Ms Leonard wedi derbyn galwad ffôn gan un o arweinwyr y grŵp sgowtiaid a eglurodd fod Ben wedi disgyn.

"Dywedodd wrtha i nad oedd o'n cael mynd ato fo - eu bod nhw'n gweithio arno fo... Roeddwn i'n gwybod bryd hynna nad oedd pethau'n dda," meddai.

Mae disgwyl i'r cwest bara pedair wythnos.

Pynciau cysylltiedig