Tafarn eiconig y Vulcan yn ailagor yn Sain Ffagan

VulcanFfynhonnell y llun, Amgueddfa Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Bydd y Vulcan yn agor am y tro cyntaf ers 2012, yn ei gartref newydd, ddydd Sadwrn

  • Cyhoeddwyd

Mae tafarn newydd, hynaf Caerdydd yn barod i groesawu ymwelwyr unwaith eto yn amgueddfa Sain Ffagan.

Mae Gwesty’r Vulcan yn barod i agor ei ddrysau i’r cyhoedd, ond nid yn y man lle safodd am dros 170 o flynyddoedd.

Mae’r adeilad wedi cael ei ail-leoli, a'i ailadeiladu, un fricsen ar y tro, fel arddangosfa ddiweddaraf Amgueddfa Cymru.

Bydd y Vulcan yn agor am y tro cyntaf ers 2012, yn ei gartref newydd, ddydd Sadwrn.

Cafodd y Vulcan ei gofrestru gyntaf fel "tŷ cwrw" yn 1853, yn Waunadda yng nghanol y ddinas.

Roedd hynny o fewn cymuned Wyddelig y brifddinas.

Yn ystod ei hanes, fe welodd yr adeilad nifer o newidiadau arwyddocaol, wrth i Gaerdydd ddod yn ddinas amlwg yn ystod y Chwyldro Diwydiannol.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Peter Finch yn credu fod cael y Vulcan yno yn "ddatblygiad ardderchog ar gyfer yr amgueddfa"

Mae Peter Finch yn awdur a bardd, a oedd yn arfer yfed yn y Vulcan.

“Tafarn ar gyfer pobl dosbarth gweithiol oedd hwn," meddai.

“Roedd arfer bod sawdust ar y llawr yn y degawdau cynt.

"Roedd yn dafarn gyfeillgar, un lle'r oedd pobl yn chwarae darts, lle'r oedd unigolyn yn gallu cael peint a siarad â phobl.

“Roedd yna elfen gyfeillgar i’r Vulcan, yn sicr.”

Ffynhonnell y llun, PA Media
Disgrifiad o’r llun,

Y Vulcan yn 2012, wedi iddi gau ei drysau i'r cyhoedd

Caeodd drysau’r Vulcan am y tro olaf yn 2012.

Ar ôl ymgyrch i'w hachub rhag cael ei dymchwel, cafodd yr adeilad ei chynnig i Amgueddfa Cymru.

Ym mis Mai 2012, dechreuodd aelodau o dîm adeiladau hanesyddol Sain Ffagan gofnodi a datgymalu'r Vulcan, cyn ei drosglwyddo - darn wrth ddarn - draw i'r amgueddfa werin.

Disgrifiad o’r llun,

"Ar ôl wynebu cael ei dymchwel, roedd y cynnig gan Sain Ffagan yn un gwych," medd y Farwnes Jenny Randerson

Mae’r prosiect wedi achosi teimladau cymysg ymhlith y rhai a fu'n ymgyrchu dros achub yr adeilad rhag cau, dros 15 mlynedd yn ôl.

Mae'r Farwnes Jenny Randerson yn gyn-Aelod Seneddol dros etholaeth Canol Caerdydd.

“Dwi’n cofio dweud ar y pryd y bydda i’n fodlon gorwedd o flaen y tapiau!” meddai.

“O’n i’n angerddol dros gadw’r dafarn ar agor, ac o fewn y gymuned yr oedd hi wedi gwasanaethu am gymaint o amser.

“Ond, ar ôl wynebu cael ei dymchwel, roedd y cynnig gan Sain Ffagan yn un gwych."

'Dim syniad am gryfder y teimlad'

Fe wnaeth deiseb gan grŵp ymgyrchu Save the Vulcan ddenu miloedd o lofnodau, gan gynnwys yr actor Rhys Ifans a phrif ganwr y Manic Street Preachers, James Dean Bradfield.

“Pan wnaethon ni ddechrau’r ymgyrch yma, doedd ddim syniad gennym ni ar y pryd o gryfder y teimlad a fyddai'n dod i'r amlwg,” meddai Rachel Cable, oedd yn aelod o’r grŵp ymgyrchu.

“Wnaethon ni archebu ystafell fawr yn y brifysgol, dros y ffordd o’r Vulcan, ar gyfer y cyfarfod cyhoeddus cyntaf, ac ar y pryd, o’n i’n poeni y byddai neb yn troi lan!

“Ond daeth dros 100 o bobl, ac fe wnaeth y grŵp dyfu o fan'na. Roedd yr ymateb yn hollbwysig i’n hymgyrch ni.”

Ffynhonnell y llun, Rachel Cable
Disgrifiad o’r llun,

Rachel Cable (trydydd o'r dde) ac aelodau eraill ymgyrch Save the Vulcan

Pan fydd y drysau'n agor yn Sain Ffagan, bydd y dafarn yn bodoli fel yr oedd yn y flwyddyn 1915 - blwyddyn arwyddocaol i'r Vulcan.

Ar y pryd, roedd y dafarn newydd weld cyfnod o adnewyddu, gan gynnwys ychwanegu teils gwyrdd a brown i du allan yr adeilad, a newid hefyd i'r tu mewn.

Pan fydd yr adeilad yn ailagor, bydd yn cynnig tri math o gwrw, wedi'u bragu gan Gwmni Bragu Sir Forgannwg.

'Profiad gwahanol'

Mae yna obeithion ymhlith cyn-gwsmeriaid y dafarn, a'r rhai a ymgyrchodd dros ei achub, y bydd y Vulcan yn cyfrannu llawer i’w gartref newydd.

“Dwi’n credu ei fod yn ddatblygiad ardderchog ar gyfer yr amgueddfa,” meddai Peter Finch.

“Mae'n arbrawf mawr iddyn nhw, ond dwi’n hapus y bydd yr adeilad nawr yn sefyll yna.

"Mae’n mynd i fod yn brofiad gwahanol ymweld â’r Vulcan mewn amgueddfa, ond mae'n rhaid i ni wneud y gorau o’r sefyllfa.”

Ffynhonnell y llun, Amgueddfa Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r tîm yn Sain Ffagan hyd yn oed wedi llwyddo i achub hen doiledau nodweddiadol y Vulcan

Ychwanegodd y Farwnes Randerson ei bod "wedi bod i Sain Ffagan nifer o weithiau i weld y Vulcan yn cael ei ailadeiladu”.

“Wrth weld hynny, ti’n sylweddoli cymaint y bydd yr adeilad yn cyfrannu at yr amgueddfa," meddai.

“Mae yna nifer o adeiladau diddorol yno ar hyn o bryd, a nawr, mae yna dafarn. Felly, mewn ffordd, mae gennych chi'r gymuned lawn yno."

Dywedodd Rachel Cable ei bod yn "gobeithio y bydd hyn yn ysbrydoli pobl a fydd yn ymweld â’r dafarn i adrodd eu straeon eu hunain am y Vulcan".

“Beth maen nhw'n ei gofio am yr adeilad, a hefyd o’r gymuned, y straeon, yr hanes, ac yn bwysig, treftadaeth pob dydd, sy'n cael ei anghofio weithiau."

Does dim llawer o amgueddfeydd ble mae ymwelwyr yn gallu mynd i dafarn 'go iawn', a chael peint 'go iawn'.

Ond o ddydd Sadwrn, bydd modd gwneud hynny yng Ngwesty'r Vulcan, wrth i'r drysau agor i'r cyhoedd unwaith eto, gan ychwanegu pennod newydd i hanes yr adeilad arbennig.