Dim modd gwrando ar Radio Cymru ar BBC Sounds dramor cyn hir

Radio Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r BBC yn dweud na fydd y penderfyniad "yn effeithio ar y gallu i wrando ar Radio Cymru ar unrhyw lwyfannau amgen"

  • Cyhoeddwyd

Mae Cymry alltud wedi beirniadu penderfyniad y BBC i gyfyngu ap BBC Sounds i'r Deyrnas Unedig, sy'n golygu na fydd modd iddyn nhw ei ddefnyddio i wrando ar Radio Cymru dramor.

Cyhoeddodd adain fasnachol y gorfforaeth, BBC Studios, ei fod yn sefydlu gwasanaeth newydd i wrandawyr dramor gael gafael ar bodlediadau, fydd hefyd yn cynnwys gorsafoedd Radio 4 a'r World Service.

Ar yr un pryd, fe fydd ap BBC Sounds - sy'n cynnwys holl orsafoedd radio a phodlediadau'r BBC - ar gael i wrandawyr yn y Deyrnas Unedig yn unig o ddechrau'r gwanwyn.

Mae'r BBC yn dweud na fydd y penderfyniad "yn effeithio ar y gallu i wrando ar Radio Cymru ar unrhyw lwyfannau amgen".

Mae siaradwyr Cymraeg sy'n defnyddio BBC Sounds i wrando ar Radio Cymru wedi disgrifio'r newyddion yn "siom" ac yn "dipyn go lew o sioc".

Esyllt Nest Roberts a'i theulu.Ffynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Mae Esyllt Nest Roberts a'i theulu yn gwrando ar Radio Cymru drwy BBC Sounds ym Mhatagonia

Mae Esyllt Nest Roberts, sy'n wreiddiol o Gymru, wedi bod yn byw yn y Gaiman, Patagonia ers 20 mlynedd.

Mae'n dweud bod gwrando ar Radio Cymru trwy BBC Sounds wedi bod yn "bwysig iawn ers i mi symud i fyw i dde America".

"Mae wedi bod yn gyfrwng i mhlant i glywed y Gymraeg, a mae wedi bod yn sŵn yn y cefndir yn ein tŷ ni erioed.

"Fel oedden nhw'n mynd yn hŷn ac yn dysgu mwy o Sbaeneg ac yn dod adre o'r ysgol a Sbaeneg yn cael ei siarad weithiau ganddyn nhw, os oedd y radio 'mlaen - Radio Cymru trwy Sounds - oedden nhw wedyn yn troi nôl i'r Gymraeg."

Andy BellFfynhonnell y llun, Alex Burkett
Disgrifiad o’r llun,

"Mae'r newyddion yn un siomedig," medd Andy Bell sy'n byw yn Awstralia

Ers 1988 mae'r newyddiadurwr Andy Bell wedi byw yn Awstralia, ac mae bellach yn cynhyrchu podlediad Cymraeg ar y cyfryngau o'r enw 'Rhaglen Cymru'.

"Mae hwn yn newyddion siomedig," meddai

"Mae cadw cysylltiad mor bwysig i'r diaspora, ac mae'r oes ddigidol wedi newid pethau, bellach mae'n bosib dilyn newyddion yn well o lawer nag yn yr hen ddyddiau, a mi fydde torri y cysylltiad yma yn glec, achos dyw podlediad - er fy mod i yn cynhyrchu podlediad - ddim yr un fath â radio byw."

Dywedodd Comisiynydd y Gymraeg, Efa Gruffudd Jones, ei fod "bob amser yn bryder pan fo gwasanaethau Cymraeg yn cael eu cwtogi - boed hynny yma yng Nghymru neu du hwnt".

Ychwanegodd y bydd yn cysylltu â'r BBC "er mwyn deall yn well y penderfyniad posib hwn a'r oblygiadau i'r gynulleidfa Gymraeg".

'To hŷn sydd wedi arfer efo Sounds'

Er bod y BBC yn pwysleisio bydd modd gwrando trwy lwyfannau ac apiau eraill, mae Esyllt yn dweud bydd hynny'n cymhlethu pethau i bobl sy'n gwrando nawr.

"Do'n i ddim yn ymwybodol bod modd gwrando trwy apiau eraill a deud y gwir.

"Dwi'n ystyried bo fi'n weddol ifanc o ran medru defnyddio technoleg ond mae 'na do hŷn sydd wedi arfer efo Sounds.

"Os fydd hi'n anoddach gwneud hynny, ac os fydd gwasanaeth llawn ddim ar gael i ni, dwi ddim yn meddwl y byddan nhw'n gwrando."

Sounds
Disgrifiad o’r llun,

Bydd defnyddwyr sy'n mynd ar wyliau (y tu allan i'r DU) am gyfnod byr yn parhau i allu defnyddio ap BBC Sounds dramor

Fe fydd y penderfyniad hefyd yn golygu na fydd modd gwrando ar BBC Radio Wales trwy Sounds dramor, na chwaith yr orsaf radio Aeleg, BBC Radio nan Gàidheal.

Yn ôl Andy Bell, mae datblygiadau technolegol fel ap BBC Sounds wedi gweddnewid profiad y Cymry alltud.

"Yn yr hen ddyddiau roedd galwadau ffôn yn rhy gostus, roedd rhyw tap VHS yn cyrraedd ddwywaith y flwyddyn, ac os oeddech chi'n ffodus, amlen enfawr wedi ei stwffio 'da stwff eisteddfodol.

"Dyna oedd y ddolen gyswllt pryd hynny."

Mae'n gobeithio bydd y BBC yn ailystyried y penderfyniad.

"Falle ni wedi cymeryd y busnes BBC Sounds yn rhy hawdd, heb feddwl yn ddwys amdano, wel fydd rhaid i ni feddwl yn ddwys os eiff y cynlluniau ymlaen.

"Dwi yn gobeithio fe fydd rhywrai yn meddwl ... mae'r Gymraeg, mae Gaeleg, yn wahanol i'r gwasanaethau eraill."

'Modd gwrando ar lwyfannau amgen'

Dywedodd llefarydd ar ran y BBC: "Yn dilyn lansiad yr ap newydd a BBC.com bydd BBC Sounds ar gael i gynulleidfaoedd y Deyrnas Unedig yn unig a bydd y gwasanaeth ar gyfer defnyddwyr rhyngwladol yn dod i ben ddechrau'r gwanwyn.

"Bydd defnyddwyr sy'n mynd ar wyliau (y tu allan i'r Deyrnas Unedig) am gyfnod byr yn parhau i allu defnyddio ap BBC Sounds dramor gan gynnwys mynediad i BBC Radio Cymru.

"Ni fydd newidiadau i BBC Sounds y tu hwnt i'r Deyrnas Unedig yn effeithio ar y gallu i wrando ar Radio Cymru ar unrhyw lwyfannau amgen."

Pynciau cysylltiedig