'Un o'r goreuon' - Ben Davies i gyrraedd 100 cap dros Gymru

Ben DaviesFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae disgwyl y bydd Ben Davies yn ennill ei ganfed cap yn erbyn Gwlad Belg nos Lun

  • Cyhoeddwyd

Mae Ben Davies yn gobeithio y bydd y gêm yn erbyn Gwlad Belg yn Stadiwm Dinas Caerdydd nos Lun yn achlysur arbennig am fwy nag un rheswm.

Byddai buddugoliaeth yn mynd â Chymru gam yn nes at le yng Nghwpan y Byd y flwyddyn nesaf.

Ond hefyd, bydd Davies yn ennill ei ganfed cap dros ei wlad.

Dim ond tri sydd wedi gwneud hynny yn hanes tîm y dynion - Chris Gunter, Wayne Hennessey a Gareth Bale.

Disgrifiad,

"Os mae cap rhif 100 yn dod, allwn ni edrych yn ôl a theimlo'n grêt am hwnna," medd Ben Davies

Gyda thair gêm yn weddill yn y rowndiau rhagbrofol, mae tynged Cymru bellach yn eu dwylo eu hunain.

Maen nhw'n gwybod y bydden nhw'n gorffen ar frig y grŵp a chyrraedd Cwpan y Byd yn awtomatig, os ydyn nhw'n ennill eu tair gêm nesaf.

"I fod yn onest, canlyniad y gêm yw'r peth pwysicaf am nawr," meddai Davies cyn wynebu Gwlad Belg.

"Os mae cap rhif 100 yn dod, allwn ni edrych yn ôl a theimlo'n grêt am hwnna.

"Bydd e'n deimlad sbesial ond bydd e'n teimlo lot yn well os ni'n gallu dod allan gyda triphwynt."

Dewis cyntaf ers y dechrau

Fe gafodd Davies ei alw i garfan Cymru am y tro cyntaf yn 2012 pan oedd yn 19 oed, ag yntau newydd dorri i mewn i dîm Abertawe yn Uwch Gynghrair Lloegr.

Enillodd ei gap cyntaf yn yr un flwyddyn, mewn buddugoliaeth o 2-1 yn erbyn Yr Alban yn Stadiwm Dinas Caerdydd.

Mae wedi bod yn ddewis cyntaf yn yr amddiffyn ers hynny, un ai fel cefnwr chwith neu fel amddiffynnwr canol.

Ben Davies yn clirio'r bêl yn erbyn Slofacia yn ystod gêm gyntaf Euro 2016 yn BordeauxFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Ben Davies yn rhwystro Slofacia rhag sgorio yn Euro 2016

Roedd yn rhan hollbwysig o'r tîm lwyddodd i gyrraedd Euro 2016 - y tro cyntaf i Gymru gyrraedd un o'r prif gystadlaethau rhyngwladol ers 1958.

Yn y gêm gyntaf yn erbyn Slofacia yn Bordeaux - gyda'r sgôr yn 0-0 - fe lwyddodd i glirio'r bêl oddi ar linell y gôl o ergyd Marek Hamsik. Roedd hi'n foment eiconig.

Pwy a ŵyr beth fyddai wedi digwydd petai Slofacia wedi mynd ar y blaen.

"Mae pethau fel 'na yn newid gêm. 'Naeth o newid cyfeiriad y gêm, newid cyfeiriad y twrnament o'n safbwynt ni," meddai is-reolwr Cymru ar y pryd, Osian Roberts.

"'Naeth o newid y stori a hanes y tîm cenedlaethol.

"O hynny ymlaen 'naeth o sefyll allan yn y twrnament. Mi oedd o'n un o'n chwaraewyr pwysicaf ni."

Osian Roberts yn ystod sesiwn hyfforddi CymruFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Osian Roberts yn hyfforddi Ben Davies am saith mlynedd gyda Chymru

Fe lwyddodd Cymru i gyrraedd y rownd gynderfynol, ond colli oedd eu hanes yn erbyn Portiwgal.

Doedd Davies ddim ar gael ar gyfer y gêm honno gan ei fod wedi ei wahardd.

"Gafodd o dwrnament bendigedig, a phwy a ŵyr be' fyse wedi digwydd tasa fo ac Aaron Ramsey wedi bod ar gael i ni ar gyfer y gêm honno," ychwanegodd Osian Roberts.

"Ella y byse pethau wedi bod yn wahanol. Ges i saith mlynedd yn ei hyfforddi ar y lefel ryngwladol, a mi oedd hynny'n fraint.

"Mae o wedi mynd o nerth i nerth yn ystod ei yrfa. Mae o bob tro wedi bod yn rhywun yr oeddet ti'n gallu dibynnu arno.

"Mae o'n hogyn synhwyrol ac aeddfed ofnadwy. Mi oeddet yn gwybod yn union be' oeddet ti'n ei gael ganddo yn ei berfformiadau - doedd o byth yn dy adael i lawr."

Ben Davies yn chwarae'n erbyn Yr Alban yn Stadiwm Dinas Caerdydd yn 2012Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Ben Davies ei gap cyntaf yn erbyn Yr Alban yn 2012

Mae yna werthfawrogiad i Ben Davies hefyd ar y bennod ddiweddaraf o bodlediad Y Coridor Ansicrwydd.

Yn ôl Malcolm Allen ac Owain Tudur Jones mae'n haeddu cael ei gofio fel un o'r amddiffynwyr gorau erioed i chwarae dros Gymru.

"Mae Craig Bellamy wedi gallu dibynnu ar Ben Davies, a phob un rheolwr arall hefyd," yn ôl Malcolm Allen.

"Mae o'n un o'r chwaraewyr gorau 'da ni erioed wedi ei gael. Cwbl haeddiannol ei fod ar fin ennill ei ganfed cap. Da iawn fo."

Mi dreuliodd Owain Tudur Jones gyfnod yng ngharfan Cymru gyda Davies yn ôl yn 2012 a 2013.

"Mi fyse Ben yn fy all time Wales 11.

"Dwi'm yn cofio amddiffynwyr fel Mel Charles yn chwarae'n amlwg, ond yn fy marn i mae Ben yn haeddu ei le yn yr 11 gorau erioed i gynrychioli Cymru," meddai.

Straeon perthnasol