Pawb ond dau o ASau Llafur Cymru wedi cefnogi newidiadau lles

Ty'r CyffredinFfynhonnell y llun, Senedd y DU
Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth mesur lles y llywodraeth basio o 335 pleidlais i 260 nos Fawrth

  • Cyhoeddwyd

Fe wnaeth pob un ond dau Aelod Seneddol Llafur Cymru gefnogi newidiadau lles Llywodraeth y DU nos Fawrth yn dilyn consesiynau sylweddol.

Dywedodd Ruth Jones, AS Gorllewin Casnewydd ac Islwyn, ei bod hi'n "falch iawn" gyda'r consesiynau, ond ymddiheurodd iddi "gymryd mor hir i'r llywodraeth sylweddoli bod angen gwrando arnom ni".

Mae Llywodraeth y DU bellach wedi addo gohirio newidiadau i'r Taliadau Annibyniaeth Personol (PIP) nes y bydd adolygiad llawn o'r system yn cael ei gwblhau.

Roedd Ms Jones yn un o'r pump AS Llafur Cymru wnaeth wrthwynebu'r cynlluniau gwreiddiol gan Lywodraeth y DU.

Ruth Jones
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Ruth Jones yn un o'r pump AS Llafur Cymru wnaeth wrthwynebu'r cynlluniau gwreiddiol gan Lywodraeth y DU

Ond o ASau Llafur Cymru, dim ond Steve Witherden, AS Maldwyn a Glyndŵr, a bleidleisiodd yn erbyn y mesur yn y diwedd.

Ni chafodd pleidlais ei chofnodi i Chris Evans, AS Caerffili.

Fe wnaeth y ddau aelod arall oedd wedi gwrthwynebu'r cynlluniau gwreiddiol - Henry Tufnell ac Andrew Ranger - bleidleisio o blaid y cynigion yn y bleidlais allweddol nos Fawrth.

Fe wnaeth pedwar AS Plaid Cymru wrthwynebu cynlluniau Llywodraeth y DU, fel y gwnaeth AS y Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig, David Chadwick.

Steve Witherden
Disgrifiad o’r llun,

Dim ond Steve Witherden a bleidleisiodd yn erbyn y mesur o ASau Llafur Cymru

Wrth ymateb i'r bleidlais, fe wnaeth David Chadwick feirniadu'r 25 AS Llafur Cymru a gefnogodd y mesur, gan ddweud y bydd angen iddyn nhw "egluro" eu penderfyniadau.

"Tydi PIP ddim yn rhywbeth moethus, mae'n allweddol i helpu pobl anabl i fyw'n annibynnol ac aros mewn gwaith," meddai.

"Trwy bleidleisio dros y newidiadau yma, mae ASau Llafur Cymru wedi dewis tynnu cefnogaeth hanfodol oddi wrth pobl fregus."

'Balch iawn' gyda'r newidiadau

Dywedodd yr AS Ruth Jones ei bod hi'n benodol yn "falch iawn" bod cymal pump wedi cael ei dynnu o'r mesur.

Dyma'r adran yn ymwneud â newidiadau i feini prawf cymhwysedd PIP - rhan fawr o'r cynlluniau cychwynnol i arbed £5abn drwy'r newidiadau.

Ond roedd yr AS Henry Tufnell eisoes wedi dweud wrth BBC Cymru, cyn y newyddion am gonsesiynau pellach gan Lywodraeth y DU ddydd Mawrth, ei fod wedi penderfynu cefnogi'r bil yn dilyn consesiynau Llywodraeth y DU yr wythnos ddiwethaf.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.