Tro pedol budd-daliadau Llywodraeth y DU 'ddim yn ddigon'

Roedd Steve Witherden yn un o'r ASau Llafur cyntaf i feirniadu cynlluniau'r llywodraeth yn gyhoeddus
- Cyhoeddwyd
Mae Aelod Seneddol Llafur o Gymru yn dweud nad yw'r newidiadau i gynlluniau budd-daliadau Llywodraeth y DU "yn ddigon".
Dywedodd Steve Witherden, yr aelod dros Sir Drefaldwyn a Glyndŵr, ei fod yn "anghyfforddus" gyda system dwy haen lle byddai'r toriadau arfaethedig ond yn effeithio ar hawlwyr yn y dyfodol.
Roedd Mr Witherden yn un o'r ASau Llafur cyntaf i feirniadu cynlluniau llywodraeth Syr Keir Starmer yn gyhoeddus.
Yn ôl Stephen Kinnock, gweinidog yn Llywodraeth y DU ac AS Aberafan Maesteg, mae'n hyderus y bydd y newidiadau i'r system budd-daliadau yn cael eu pasio yn Nhŷ'r Cyffredin ddydd Mawrth.
- Cyhoeddwyd17 Mawrth
- Cyhoeddwyd26 Mawrth
Nôl ym mis Mawrth fe wnaeth y Canghellor Rachel Reeves gyhoeddi cynlluniau i arbed £4.8bn o'r gyllideb les fel rhan o Ddatganiad y Gwanwyn.
Roedd y cynlluniau hynny yn cynnwys prawf cymhwysedd llymach ar gyfer taliadau annibyniaeth bersonol - y prif fudd-dal anabledd sy'n cael eu hawlio ar hyn o bryd gan fwy na 250,000 o bobl yng Nghymru - o fis Tachwedd 2026.
Ond roedd gwrthwynebiad eang i'r cynlluniau, ac yr wythnos hon daeth i'r amlwg fod dros 120 o Aelodau Seneddol Llafur - gan gynnwys pump o Gymru - yn barod i bleidleisio yn erbyn y newidiadau yn Nhŷ'r Cyffredin.
O ganlyniad, mae'r llywodraeth wedi gwneud newidiadau sylweddol i'r cynigion, gan ddweud eu bod "wedi gwrando ar aelodau".
Fe fydd pobl sy'n hawlio taliadau anabledd yn barod - taliadau PIP - yn parhau i dderbyn yr hyn maen nhw'n ei dderbyn ar hyn o bryd, ac fe fydd pobl sy'n derbyn yr elfen iechyd o'r budd-dal credyd cynhwysol hefyd yn cadw eu harian nhw.
'Poeni am y bobl sy'n dod ar ôl fi'
Yn ôl Rhys Miles Thomas o bentref Alma ger Caerfyrddin, sy'n derbyn taliadau PIP oherwydd ei gyflwr MS, mae nifer o gwestiynau am y cynlluniau yn parhau.
"Dwi'n croesawu bod 'na dro pedol, ond i fod yn onest wi'n poeni am y bobl sy'n dod ar ôl fi," meddai ar Dros Frecwast.
"Y peth am PIP yw bod angen trial amdano fe bob tair blynedd, felly be' sy'n digwydd i'r bobl sydd ar PIP ac wedyn yn gorfod ail trial amdano fe - ydyn nhw'n cael eu trin fel claimants newydd? Be sy'n digwydd?
"Mae'n un o'r pethau 'na sy'n neud i ti deimlo'n wael, ti ddim eisiau gorfod dibynnu ar bobl eraill... ond y pwynt am y taliadau PIP yw mai taliadau yw rhain i helpu chi fyw yn annibynnol.
"Mae mor anodd i gael yr arian, mae'n arian grêt ond dyw e ddim yn ormodol. Os chi ar standard daily living chi'n cael £3,500 y flwyddyn i helpu."
Ychwanegodd fod y broses o lenwi'r ffurflen yn "ofnadwy" a'i fod yn poeni am y peth am "ryw chwe mis" cyn gwneud hynny,
"Unwaith chi'n gwneud y ffurflen chi'n teimlo'n waeth, achos mae'n rhaid i chi wynebu realedd y cwestiynau - pethau fel 'o mae'n rhaid i chi gael cymorth i dorri lan bwyd chi, neu i 'neud bwyd chi'.
"Ma' fe just yn neud i chi deimlo'n waeth fel person anabl na fydde chi heb wneud e."

Mae Stephen Kinnock yn dweud ei fod yn "hyderus" y bydd digon o gefnogaeth i'r cynlluniau newydd er mwyn eu pasio yn Nhŷ'r Cyffredin
Ond yn ôl Steve Witherden, dyw'r newidiadau ddim yn mynd yn ddigon pell.
"Mae gen i bryderon dal i fod, hynny yw, fe fydd rhywun ar ôl Tachwedd 2026 yn cael ei drin yn wahanol i rywun sy'n rhan o'r system bresennol.
"Rydyn ni'n siarad am bobl sydd methu bwyta ar ben eu hunain, pobl sydd methu mynd i'r toiled ar ben eu hunain.
"Fyddwn ni'n dal i weld toriadau o tua £7bn y flwyddyn o'i gymharu â'r hyn sy'n cael ei wario ar fudd-daliadau anabledd ar hyn o bryd."
Dywedodd yr AS Llafur Stephen Kinnock: "Mae'r newidiadau i fesurau fel arfer yn digwydd yn hwyrach yn y broses, ar ôl yr ail ddarlleniad, ond mae fy nghydweithwyr yn rhoi llais i'w hetholwyr.
"Mae gen i barch mawr i'r angerdd a'r ymroddiad y maen nhw'n ei arddangos.
"Ond mae'n bwysig cydbwyso hynny, wrth gwrs, gyda'r angen am newid."
Mae Dirprwy Brif Weinidog Cymru, Huw Irranca Davies wedi croesawu'r newidiadau gan fod y llywodraeth "wedi bod yn glir eu bod yn anghyfforddus â'r cynigion gan eu bod yn deall yr effaith debygol ar bobl yng Nghymru".
Mae Plaid Cymru wedi beirniadu Llywodraeth Lafur Cymru am "fethu â sefyll dros y rhai mwyaf agored i niwed yn ein cymunedau" drwy fynnu rhagor o newidiadau i'r cynllun.