AS Llafur Cymreig i bleidleisio yn erbyn toriadau i fudd-daliadau

Aelod Seneddol Llafur Maldwyn a Glyndŵr, Steve WitherdenFfynhonnell y llun, Senedd y DU
Disgrifiad o’r llun,

Mae Steve Witherden yn dweud ei fod yn "un o nifer" o ASau sy'n mynegi pryderon am doriadau posib i fudd-daliadau anabledd

  • Cyhoeddwyd

Mae Aelod Seneddol Llafur Cymreig wedi dweud wrth y BBC y bydd yn pleidleisio yn erbyn cynlluniau Llywodraeth y DU i dorri ar fudd-daliadau anabledd.

Yn ôl aelod Maldwyn a Glyndŵr, Steve Witherden mae o wedi gwneud y "penderfyniad anodd iawn", gan ei fod yn credu y gallai yna fod risg i "bobl fregus iawn, iawn" oherwydd y newidiadau.

Mae o ymhlith ASau Llafur drwy'r Deyrnas Unedig sydd â phryderon penodol am gynlluniau i dynhau'r gofynion ar gyfer hawlio Taliadau Annibyniaeth Personol (PIP) - sy'n asesu ceisiadau gan ddefnyddio system sgorio.

Dywedodd Mr Witherden ei fod yn credu nad oes ymgynghoriad ar y system sgorio, er bod cyfeiriad atyn nhw yn yr ymgynghoriad cyhoeddus i'r newidiadau ehangach i'r system les.

Fe ychwanegodd bod y newidiadau posib i'r system sgorio yn cynnwys "y ffordd y byddwch yn cael eich sgorio os ydych chi angen cymorth i fynd i'r toiled, os ydych chi angen cymorth i fwyta, cymorth i wisgo... ac yn mynd i olygu bod llawer o bobl, llawer o fy etholwyr, yn mynd i golli eu PIP os ydy'r newid yn digwydd."

'Teimlo na ddylai'r llywodraeth wneud toriadau'

Dywedodd hefyd ei fod yn credu ei bod hi'n "annerbyniol" bod ASau yn mynd i bleidleisio ar y newidiadau PIP yn y misoedd nesaf, er gwaethaf cael gwybod na fydd yr asesiad effaith llawn yn cael ei gyhoeddi tan yr hydref.

Mae Llywodraeth y DU wedi dweud yn flaenorol y bydd y newidiadau PIP a chredyd cynhwysol yn arbed tua £5bn y flwyddyn erbyn 2030, ac yn cael rhagor o bobl i mewn i waith, ond y gred ydy y bydd Cymru yn cael ei tharo waethaf oherwydd bod ganddi ganran uwch o rai sy'n hawlio'r cymorth mewn perthynas â maint ei phoblogaeth.

Mae Steve Witherden yn mynnu nad ydy o yn gwrthwynebu newid y system les, ond ei "deimlad" ydy na ddylai'r llywodraeth fod yn gwneud toriadau.

Dywedodd i'r Blaid Lafur ennill yr Etholiad Cyffredinol yn 2024 ar sail yr hyn oedd i bob pwrpas yn etholiad ar gostau byw, ac nad oedd yn credu ei bod yn bleidlais dros ragor o doriadau.

Mae BBC Cymru wedi cysylltu gyda phob AS Llafur Cymreig i ofyn a fyddan nhw yn pleidleisio gyda'r llywodraeth i gymeradwyo'r newidiadau i'r system les - dim ond Steve Witherden sydd wedi ymateb hyd yma.

Ond mae AS Llafur Wrecsam, Andrew Ranger wedi rhyddhau datganiad yn y gorffennol yn dweud nad allai gefnogi'r newidiadau i PIP "yn eu ffurf bresennol".

Dywedodd Mr Witherden hefyd y byddai etholiad Senedd Cymru yn 2026 yn "heriol", a'i fod yn bryderus, gyda dim ond blwyddyn i fynd, nad oes digon o amser i'r cyhoedd weld digon o newid cadarnhaol o ganlyniad i agenda Syr Keir Starmer.

Fe ychwanegodd nad ydy hi'n glir eto a fydd yna ddigon o rebeliaid Llafur i drechu Llywodraeth y DU ar y newidiadau i'r system les, ond ei fod yn "un o nifer" o ASau sy'n mynegi pryderon.

"Mae'n mynd i fod yn fater mawr iawn, iawn i lawer o ASau a llawer o bobl drwy'r wlad," meddai.

Mae BBC Cymru wedi cysylltu gyda'r Adran Waith a Phensiynau am ymateb.

Pynciau cysylltiedig