Pryder am ddyfodol cerddoriaeth fel pwnc ysgol

Iwan Llewelyn Jones
Disgrifiad o’r llun,

Mae cerddoriaeth fel pwnc wedi mynd yn "israddol" yng Nghymru, yn ôl Iwan Llywelyn Jones

  • Cyhoeddwyd

Mae angen trin cerddoriaeth fel pwnc yn ein hysgolion yn hytrach nag adloniant yn unig, yn ôl Cyfarwyddwr Perfformio Cerdd Prifysgol Bangor.

Mewn cyfweliad ar raglen Bore Sul BBC Radio Cymru, awgrymodd y pianydd Iwan Llywelyn Jones bod y pwnc wedi mynd yn "israddol yng Nghymru".

Daw ei sylwadau wrth i nifer boeni am ddyfodol y celfyddydau yng Nghymru yn sgil toriadau i gyllideb y sector.

Awgrymodd Mr Jones hefyd y dylid ystyried llacio'r rheol iaith mewn rhai cystadlaethau canu yn yr Eisteddfod gan y byddai hynny'n "creu artistiaid mwy cyflawn".

Dros yr wythnosau diwethaf mae nifer o sefydliadau mawr fel yr Amgueddfa Genedlaethol yng Nghaerdydd a'r Llyfrgell Genedlaethol yn Aberystwyth wedi mynegi pryderon am effaith toriadau ar eu cyllidebau.

Mae Cwmni Opera Cymru hefyd wedi cyhoeddi nad ydyn nhw am fod yn perfformio yn Llandudno nag ym Mryste'r flwyddyn nesaf oherwydd problemau ariannol.

Yn ôl Iwan Llywelyn Jones, mae'r ffordd y mae'r celfyddydau yn cael eu dysgu yn yr ysgol yn ganolog i ddyfodol y sector yng Nghymru.

"Ydyn ni'n dysgu ein plant ni yn yr ysgolion i werthfawrogi cerddoriaeth, ydyn ni'n dysgu'r sgiliau a'r wybodaeth i fod yn gerddorion cyflawn, yn artistiaid cyflawn ac yn ddawnswyr cyflawn ac yn y blaen?"

Dywedodd ei fod yn poeni am ddyfodol cerddoriaeth fel pwnc yn yr ysgol: "O'n safbwynt i fel cerddor, dwi'n edrych ar yr hyn sy'n cael ei gynnig mewn ysgolion ar gyfer cerdd, a dydi o ddim yn bwnc ffenestr siop."

Ffynhonnell y llun, Youtube
Disgrifiad o’r llun,

Mae nifer y myfyrwyr sy'n astudio cerdd drwy gyfrwng y Gymraeg ym Mangor yn gostwng, meddai Mr Jones

"'Da ni (Prifysgol Bangor) wedi gweld gostyngiad yn nifer y myfyrwyr sy'n astudio cerdd drwy gyfrwng y Gymraeg a 'da ni'n crafu pen yn trio gweithio allan pam fod hyn yn digwydd.

"Ni ydi gwlad y gan, mae cerddoriaeth yn gynhenid i ni... ac yn reit ddiweddar dwi wedi penderfynu bo fi'n mynd i ymladd, ac yn mynd i neud beth bynnag fedra i 'neud am y peth.

"Mae bob plentyn yn haeddu'r cyfle i fod mewn sioe gerdd neu weithgaredd fel 'na, ond er mwyn cael sioe gerdd ar y llwyfan mae angen cyfarwyddwr cerdd sy'n deall y pwnc ac yn gwybod beth yw'r brics a'r sment.

"Er mwyn cael y sgiliau hynny, mae angen dysgu cerdd fel pwnc nid jest fel adloniant.

"Dwi'm yn meddwl bod hynny'n digwydd i'r graddau dylai fo fod, achos mae'r nifer sy'n neud TGAU a'r nifer sy'n cael cyfle i neud cerdd yn gostwng. Mae'r pwnc wedi mynd yn israddol yng Nghymru."

Angen llacio rheol iaith yr Eisteddfod?

Yn ogystal, fe awgrymodd Mr Jones nad yw'r celfyddydau yng Nghymru wedi llwyddo i arddangos ei hun i'r byd, ac ein bod "ni'n gallu bod ychydig bach yn gul".

"Yn Eisteddfod yr Urdd er enghraifft, ma' 'na gystadlaethau canu a ma' 'na gystadlaethau offerynnol. Pan 'da chi'n clywed y rhai offerynnol o lwyfan yr Urdd 'da chi'n cal cyfansoddwyr o bedwar ban byd a da chi'n cael cyfansoddwyr o Gymru... Mae'r plant i gyd yn perfformio darnau gwahanol ac mae o fel cyngerdd.

"Y rhai llais wedyn, ma' rhaid canu'n Gymraeg, a dwi'n cytuno gyda'r rheol yna i raddau, ond mae'r caneuon i gyd yn ganeuon newydd gan leisiau fyswch chi ddim yn eu disgrifio fel cyfansoddwyr llawn amser.

"Ma' hi'r un fath yn yr Eisteddfod Genedlaethol, gyda'r rheol iaith sy'n golygu bo' nhw'n gorfod canu opera yn y Gymraeg. Dwi ddim yn deall hynny.

"Os yn canu pethau yn yr iaith wreiddiol, mae hynny'n mynd i greu artistiaid mwy cyflawn."

Ffynhonnell y llun, Helen Prosser
Disgrifiad o’r llun,

Mae Helen Prosser yn poeni y gallai llacio'r rheol iaith "agor y agor y llifddorau"

Wrth ymateb i sylwadau Mr Jones ar y rhaglen, dywedodd Helen Prosser - Cadeirydd Pwyllgor Gwaith yr Eisteddfod Genedlaethol ym Mhontypridd - ei bod hi'n anghytuno.

"Mae'r Eisteddfod yn llwyfan ofnadwy o bwysig i ddatblygu cantorion, ond falle'r unig lwyfan lle 'da ni'n datblygu rhai sy'n canu'n Gymraeg," meddai.

"Ma' 'na lwyfannau eraill ar gyfer yr ieithoedd eraill, yr Eidaleg, y Ffrangeg a'r Saesneg.

"Mae hi'n un wythnos yn ystod y flwyddyn a dwi'n teimlo'n gryf iawn - unwaith ry' ni'n agor y cystadlaethau yna, gallai agor y llifddorau."

Mae Llywodraeth Cymru'n dweud bod "sefydliadau diwylliant, chwaraeon a chelf Cymru yn rhan annatod o’n cymdeithas a’n lles", ond eu bod nhw’n glir bod eu cyllideb hyd at £700m yn llai mewn termau real na phan gafodd ei gosod yn 2021.