Gostyngiad eto yn y nifer sy'n astudio TGAU Cerddoriaeth

  • Cyhoeddwyd
Gwers gerddFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae llai o ddisgyblion yn dewis astudio TGAU Cerdd yn ysgolion uwchradd Cymru

Mae pryder wedi i ffigyrau ddangos gostyngiad arall yn nifer y disgyblion sy'n astudio pwnc TGAU Cerddoriaeth yn ysgolion uwchradd Cymru.

Mae'r ffigyrau diweddaraf yn cydfynd â thuedd gyffredinol ar draws y DU, gyda'r niferoedd sy'n astudio'r pwnc wedi gostwng o draean dros y degawd diwethaf.

Un ffactor sy'n cyfrannu at y gostyngiad yw'r "anghysondeb" o ran ariannu gwersi offerynnol i ddisgyblion, yn ôl cyn-bennaeth Cerdd.

Yn ôl y gantores Mared Williams, fe wnaeth astudio TGAU Cerddoriaeth roi "sylfaen gref" iddi, gan ddweud: "'Dw i'm yn gwybod lle 'swn i rŵan 'swn i heb astudio cerdd."

Bron i 400 yn llai yn astudio'r pwnc

Yn ôl ffigyrau'r Joint Council for Qualifications - sefydliad sy'n cynnwys cyrff cymwysterau mwyaf y DU - roedd bron i 400 yn llai o ddisgyblion yn astudio'r cwrs TGAU yng Nghymru eleni o'i gymharu â'r flwyddyn academaidd flaenorol.

Yr un yw'r darlun ar draws y Deyrnas Unedig, gyda 4,725 yn llai o ddisgyblion yn astudio'r pwnc y llynedd.

Wrth ystyried y data dros y degawd diwethaf, bu 35% o gwymp yn y nifer sy'n astudio TGAU Cerdd ar draws Cymru, Lloegr, Yr Alban a Gogledd Iwerddon.

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Meinir Richards fod rhai disgyblion yn "colli mas ar gyfleoedd" oherwydd rhesymau ariannol

Mae Meinir Richards - sydd newydd ymddeol ar ôl cyfnod llwyddiannus fel pennaeth adran gerddoriaeth Ysgol Gyfun Gymraeg Bro Myrddin - yn dweud mai un ffactor sy'n cyfrannu at y gostyngiad yw'r "anghysondeb" o ran ariannu gwersi cerdd.

"Un elfen bwysig - traean o'r cwrs bron - yw'r uned berfformio, ac wrth gwrs mae ysgolion yn darparu gwasanaeth offerynnol a gwersi offerynnol," meddai.

"Ni gyd yn derbyn mai'r disgyblion sydd yn derbyn gwersi offerynnol preifat yw'r rheiny sydd gyda rhieni yn gallu fforddio cynnig y ddarpariaeth 'na.

"'Dw i'n siŵr bod amryw ddisgybl wedi colli mas ar gyfleoedd sydd â thalent a gallu, ond dyw'r sefyllfa ddim yn caniatáu."

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Mared Williams fod astudio'r pwnc at safon TGAU wedi bod yn "sylfaen gref er mwyn mynd i astudio cerdd ymhellach"

Bydd y sioe gerdd Gymraeg newydd, Branwen, yn cychwyn ei thaith yng Nghanolfan y Mileniwm ar 8 Tachwedd, gyda Mared Williams yn chwarae'r brif ran.

Dywedodd y gantores o Lannefydd: "'Dw i'm yn gwybod lle 'swn i rŵan 'swn i heb astudio cerdd."

Ychwanegodd bod astudio'r pwnc at safon TGAU wedi bod yn "sylfaen gref er mwyn mynd i astudio cerdd ymhellach yn y brifysgol a chael cyfleodd fyddwn i ddim wedi eu cael fel arall."

Gyda hithau wedi hen ennill ei phlwyf yn y byd cerddorol, dywedodd fod astudio'r cymhwyster "wedi rhoi hyder o ran y perfformio, achos yr oedran yna do'n i ddim wedi 'neud lot o berfformio o flaen pobl."

Disgrifiad o’r llun,

Mae disgyblion TGAU Cerddoriaeth Ysgol Garth Olwg yn mwynhau astudio'r pwnc

Mae criw o ddisgyblion Ysgol Garth Olwg sy'n astudio cerdd yn dweud bod angen i ysgolion "gofio fod pobl eisiau bod yn greadigol" yn yr ysgol.

"Mae llawer o ysgolion yn pwysleisio'r pynciau academaidd fel Saesneg neu Gymraeg, ond hefyd maen nhw angen cofio fod pobl eisiau bod yn greadigol ar yr un pryd," oedd neges un disgybl.

"Dydw i ddim yn berson academaidd iawn - 'dw i'n casáu hanes a pethau fel 'na. Mae cerddoriaeth wedi bod yn amser i fi fod yn rhydd ac mae wedi helpu fi i fod yn greadigol iawn," medd disgybl arall.

Tra bod pobl yn parhau i dyrru i weld sioeau cerdd poblogaidd a mwy nag erioed yn gwrando ar gerddoriaeth ddigidol, does dim ateb pendant i annog mwy o ddisgyblion i fynd ati i astudio'r pwnc yn yr ysgol.

Pynciau cysylltiedig