Wrecsam yn arwyddo ymosodwr Cymru, Nathan Broadhead

Nathan BroadheadFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae Broadhead wedi sgorio dwy gôl i Gymru mewn 14 o gemau

  • Cyhoeddwyd

Mae Wrecsam wedi arwyddo ymosodwr Cymru, Nathan Broadhead o Ipswich Town am ffi allai godi i hyd at £10m.

Er bod y taliad cychwynnol yn debygol o fod yn llawer is na'r ffigwr hwnnw, fe fydd dal yn record newydd i'r Dreigiau o ran talu ffi am chwaraewr.

Roedd Broadhead, 27, wedi cyrraedd blwyddyn olaf ei gytundeb gydag Ipswich - clwb a symudodd iddo yn 2023.

Fe ddechreuodd ei yrfa broffesiynol gydag Everton, cyn treulio cyfnodau ar fenthyg gyda Burton Albion, Sunderland a Wigan Athletic.

Treuliodd Broadhead, a gafodd ei eni ym Mangor, gyfnod byr yn academi Wrecsam pan yn ifanc.

Broadhead yw'r nawfed chwaraewr i symud i'r Stok Cae Ras yr haf hwn - gan ymuno â rhestr sy'n cynnwys ei gyd-Gymry, Danny Ward a Kieffer Moore.

Mae Broadhead wedi ennill 14 o gapiau rhyngwladol hyd yma, ac wedi sgorio dwy gôl.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.