Heddlu heb gyfrannu at farwolaeth dynes yn y ddalfa yng Nghaernarfon

Bu farw Helen Williams tra yn y ddalfa yn ardal Maesincla, Caernarfon ym mis Mai 2024
- Cyhoeddwyd
Mae ymchwiliad gan Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu (IOPC) wedi dod i'r casgliad nad oedd swyddogion wedi cyfrannu at farwolaeth dynes tra yn y ddalfa yng Nghaernarfon "mewn unrhyw ffordd".
Cafodd Helen Williams ei harestio am 10:20 ar 23 Mai 2024 (dydd Iau) y tu allan i eiddo ym Mangor, cyn cael ei gyrru i orsaf heddlu Caernarfon.
Roedd Ms Williams yn y ddalfa am tua 33 awr yn aros i ymddangos yn y llys.
Yn ystod yr amser yma roedd hi dan oruchwyliaeth gyson gan staff yn y ddalfa a chafodd ei gweld gan weithwyr iechyd proffesiynol.
Ond cafodd y ddynes, a oedd yn ei 40au, ei tharo'n ddifrifol wael ar ddydd Gwener, 24 Mai ac er gwaethaf ymdrechion parafeddygon a swyddogion heddlu, bu farw ychydig cyn 17:30.
Daeth rheithgor mewn cwest yng Nghaernarfon ddydd Mercher i'r casgliad fod y farwolaeth yn ymwneud a chyffuriau.
Fe ddaeth ymchwiliad yr IOPC i'r casgliad bod swyddogion Heddlu Gogledd Cymru wedi gweithredu yn unol â pholisïau a gweithdrefnau wrth drin y ddynes yn y ddalfa.
Dywed Cyfarwyddwr IPSO Derrick Campbell: "Ar ddiwedd ein hymchwiliad ym Mehefin 2025, ni wnaethon ganfod unrhyw dystiolaeth oedd yn awgrymu fod yr heddlu wedi cyfrannu mewn unrhyw ffordd at farwolaeth Ms Williams.
"Fe wnaethom ganfod fod y swyddogion wedi ymddwyn yn unol â'r gweithdrefnau wrth ei harestio ac wrth ei chadw yn y ddalfa."
Fe gadarnhaodd archwiliad post mortem fod Ms Williams wedi marw yn sgil cymhlethdodau yn ymwneud â defnydd o gyffuriau.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd25 Mai 2024
