'Diffyg parch' i ogofâu hanesyddol yn 'druenus'
- Cyhoeddwyd
Mae'n "druenus" gweld sbwriel yn cael ei adael mewn hen chwareli sy'n "bwysig i Gymru" yn ôl gwirfoddolwr sy'n ceisio eu glanhau.
Roedd Gareth Jones yn un o dîm o wirfoddolwyr aeth ati i glirio safleoedd cloddio yn ne Gwynedd dros y Pasg.
Mae'r safleoedd hanesyddol yn denu dylanwadwyr cyfryngau cymdeithasol sy'n gadael sbwriel ar eu holau, meddai Mr Jones.
Ar Dros Frecwast, dywedodd y dylai pobl "barchu hanes y llefydd" a'r bobl fu farw wrth weithio yna.
"Ni'n gwagio'r holl sbwriel syn cael ei adael gan yr influencers 'ma o YouTube ac Instagram," meddai.
"Ma'n broblem yn y llefydd mawr dros y wlad... a 'di pobl ddim yn sylweddoli faint o beryglus 'di'r llefydd 'ma, yn cerdded i fewn gyda bin bags dros eu sgidiau a'n gadael rubbish ar ôl."
Cafodd pentyrrau o sbwriel eu tynnu allan o Chwarel Gaewern yng Nghorris Uchaf, ger Machynlleth, gan y tîm ym mis Mawrth.
Yn ôl Anthony Taylor - a oedd yn gwirfoddoli gyda Mr Jones - mae fideo poblogaidd ar YouTube o hen geir wedi'u gadael ar y safle wedi dod â mewnlifiad o ymwelwyr.
Mae cannoedd o luniau o'r "bedd ceir" wedi ymddangos ar Instagram ers i'r fideo gael ei gyhoeddi.
"Mae rhain yn llefydd prydferth a tydi llawer o bobl ddim eisiau gweld nhw'n cael eu difetha," meddai Mr Taylor, 42, o Aberystwyth.
"Mae'n ymddangos bod Instagram yn lladd llawer o bethau," meddai. "Mae pobl yn troi i fyny, yn tynnu llun ac yna'n gadael [llanast]."
Mae Chwarel Gaewern ar dir preifat. Agorwyd y safle yn 1820, ac fe barhaodd y cloddio ar ôl uno â Chwarel Braichgoch tan y 1970au, gan gyflogi 200 ar un cyfnod.
Ar ôl iddo gau, cafodd hen geir a setiau teledu eu taflu i un o'r prif siambrau.
Ar adegau, mae'r domen o fetel sgrap rhydlyd yn cael ei oleuo gan siafftiau o olau'r haul.
“Mae’n le rhyfedd, tebyg un o’r llefydd rhyfeddaf yn y byd,” cofiodd Mr Taylor o’i ymweliad cyntaf yn 2022.
"Pa mor aml 'da chi'n gweld cannoedd o geir dan ddaear gyda goleuadau'n dod arnyn nhw o'r haul?"
Ond i gyrraedd yna, roedd rhaid iddo fynd heibio'r bagiau bin oedd wedi'u taflu ger y y fynedfa ar ôl cael eu defnyddio gan ymwelwyr i geisio cadw eu traed yn sych.
"O tua 30 troedfedd (9m) i mewn, mae'r graffiti'n dechrau, ac ma'n ofnadwy," meddai.
Mae’r graffiti yn gwaethygu yn y brif siambr tuag at y ceir, meddai, gyda mwy o sbwriel ar y llawr, gan gynnwys ffyn golau wedi’u taflu a gwastraff dynol.
"Pan ti'n cyrraedd y diwedd, dim ond môr o gychod sydd yna, dingis aer ym mhobman," meddai.
“Mae'n ffiaidd, yn drist iawn ac yn ddigalon."
Dywedodd Mr Taylor bod y tîm wedi tynnu gymaint o ddingis allan ag y gallent a'i fod o wedi cynnal sesiwn lanhau arall gyda chwe gwirfoddolwr ar 22 Mawrth.
“Roedd yn rhaid gwneud rhywbeth,” meddai, gan amcangyfrif bod gwirfoddolwyr wedi cael gwared â 30 o ddingis i gyd.
"Y bobl sy'n mynd i'r lleoedd hyn, dylanwadwyr maen nhw'n galw eu hunain... maen nhw'n mynd oherwydd bod gan y llefydd 'ma werth cynhenid iddynt. Pam dinistrio nhw i bawb arall?"
Gobaith Mr Taylor ydy addysgu pobl am werth yr hen fwyngloddiau, ond mae'n ofni y gallai safleoedd fel Gaewern gael eu cau yn barhaol.
"Os ydy hyn yn dal i ddigwydd, bydd yn golled i bawb am byth."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd14 Mawrth
- Cyhoeddwyd13 Chwefror
- Cyhoeddwyd11 Chwefror