Golau gwyrdd i gynllun tai fforddiadwy sy'n hollti barn

Roedd swyddogion Cyngor Gwynedd wedi argymell caniatáu cais i godi'r tai yn Ninas, ger Caernarfon
- Cyhoeddwyd
Mae cais i adeiladu 16 o dai cymdeithasol yng Ngwynedd, sydd wedi hollti barn dros effaith debygol y datblygiad ar y Gymraeg, wedi cael ei gymeradwyo.
Roedd swyddogion Cyngor Gwynedd wedi argymell caniatáu'r cais i godi'r tai yn Ninas, ger Caernarfon, ac fe gafodd sêl bendith y pwyllgor cynllunio o saith pleidlais i bedwar, gydag un aelod yn ymatal.
Wedi'u dynodi ar gyfer safle cyn-fwyty Indiaidd, dros y ffordd i garej adnabyddus, mae wedi bod yn faes parcio anffurfiol ers 2018.
Fe fydd y tai, ar ôl eu hadeiladu, yn dod o dan reolaeth landlord tai cymdeithasol wedi'u cofrestru gyda chwmni Adra.
Ym marn uned iaith Cyngor Gwynedd fe fyddai'r datblygiad yn cael "effaith bositif fechan" ar y Gymraeg.
Ond mae Cyngor Cymuned Llanwnda yn gwrthwynebu'r cynlluniau, gan ddweud byddai'n "symud nifer o bobol nad ydyn nhw'n siarad Cymraeg i fyw yn un o'r cymunedau fwyaf Cymraeg".
Mae aelodau hefyd wedi codi pryderon am bolisi gosod tai Cyngor Gwynedd, ond mae'r awdurdod yn dweud bod y polisi yn "blaenoriaethu teuluoedd ac unigolion lleol".
'Galw sylweddol'
Yn ôl adroddiad gan yr ymgeisydd, Beech Developments, mae 94% o drigolion datblygiad cyfagos sydd hefyd yn cael ei redeg gan Adra, Gwel y Foel, yn siaradwyr Cymraeg.
Mae hyn, meddan nhw, yn uwch na chanran y siaradwyr Cymraeg yn ward Llanwnda (81%) a llawer uwch na'r cyfartaledd yng Ngwynedd (64%).
Maen nhw'n rhagweld "y byddai deiliaid yr unedau fforddiadwy yn bobl leol i ardal Gwynedd", a byddai Adra'n gosod y tai gan defnyddio polisi gosod tai y sir.
"Byddai'r cynnig yn darparu 16 o dai fforddiadwy a fyddai'n helpu i ddiwallu angen tai sydd wedi'i nodi yn yr ardal," medd yr ymgeiswyr.
"Mae safle'r cais yn agos i'r A487 a bydd yn ddeniadol i drigolion Llanwnda a Bontnewydd."
Ychwanegon nhw fod arolwg anghenion tai ym Medi 2020 wedi dod i'r casgliad bod "galw sylweddol" am dai fforddiadwy yn yr ardal, a bod 67 o bobl angen tai rhent cymdeithasol.

Fe gafodd y cais ei drafod gan Bwyllgor Cynllunio Cyngor Gwynedd ddydd Llun
Ond pryderu mae Cyngor Cymuned Llanwnda, sy'n gwrthwynebu'r datblygiad ac wedi codi pryderon am bolisi gosod tai Cyngor Gwynedd.
Mewn ymateb dywedon nhw: "Penderfyniad aelodau Cyngor Cymuned Llanwnda oedd i wrthwynebu'r datblygiad oherwydd y byddai'r tai yn cael eu gosod o dan Bolisi Gosod Tai Cyffredin Gwynedd sydd yn gweithredu'n groes i nod strategol Cyngor Cymuned Llanwnda o 'warchod a chynyddu'r defnydd o'r Gymraeg'.
"Wrth wneud hyn fe wnaeth y cynghorwyr ymrwymo fel unigolion ac fel cyngor i gryfhau'r Gymraeg ac i gefnogi ei gilydd a holl ymdrechion Llywodraeth Cymru at gyrraedd y targed o filiwn o siaradwyr erbyn 2050."
Ychwanegon nhw: "Mae dros 80% o'r boblogaeth leol yn siarad Cymraeg, ac felly mae'r ardal yn un arwyddocaol o ran y defnydd o'r iaith Gymraeg.
"Prinhau mae cymunedau sydd â'r nifer uchel yma o siaradwyr Cymraeg, ac felly mae'n holl bwysig eu gwarchod.
"Gan nad yw Polisi Gosod Tai Cyffredin Gwynedd yn ystyried defnydd ieithyddol o gwbl, mae angen tystiolaeth glir a digamsyniol na fydd y datblygiad yn amharu ar yr iaith Gymraeg.
"Yn absenoldeb hyn, rhaid gwrthwynebu'r cais."
'Cysylltiad lleol'
Mewn ymateb i BBC Cymru cyn cyfarfod dydd Llun, dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Gwynedd: "Mae'r adroddiad yn cynnwys asesiad o'r datblygiad yng nghyd-destun y Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd (Gwynedd ac Ynys Môn) ac unrhyw ystyriaethau cynllunio perthnasol cysylltiedig."
"Mae'r Polisi Gosod Tai Gyffredin yn blaenoriaethu'r rhai sydd â'r angen mwyaf am dai yng Ngwynedd ac mae'r Cyngor wedi mynd hyd eithaf ei allu i sicrhau bod y Polisi yn rhoi blaenoriaeth i deuluoedd ac unigolion lleol.
"Trwy hynny, llwyddir i osod ar gyfartaledd 97% o holl osodiadau tai cymdeithasol i aelwydydd â chysylltiad lleol â Gwynedd."