Diffyg band eang ers 'bron i fis' yn straen i bobl yng Ngwynedd

Disgrifiad,

Diffyg band eang ers 'bron i fis' yn straen i bobl yng Ngwynedd

  • Cyhoeddwyd

Mae trigolion mewn pentref yng Ngwynedd wedi rhannu eu rhwystredigaeth ynglŷn â diffyg cysylltiad band eang ers "bron i fis" bellach.

Yn ôl rhai sy'n byw yn Llangwnnadl, ym Mhen Llŷn, mae'r sefyllfa yn "sobor", gydag amcangyfrif bod hyd at 40 eiddo heb gysylltiad.

Mae'r sefyllfa, medd perchennog busnes lleol, yn cael effaith ar ei busnes, ac mae derbyn taliadau cerdyn ac archebion ar-lein yn heriol.

Dywed Openreach, sy'n gyfrifol am reoli seilwaith rhwydwaith digidol y DU, eu bod yn deall rhwystredigaeth pawb sydd wedi eu heffeithio yn dilyn gwaith gosod polyn newydd.

Ychwanegodd llefarydd bod peirianwyr yn gweithio i adfer cysylltiadau mor fuan â phosib.

Helen Griffith
Disgrifiad o’r llun,

Mae Helen Griffith yn poeni y gallai'r sefyllfa achosi oedi cyn cael canlyniadau profion meddygol diweddar

Mae Helen Griffith heb gysylltiad ers "bron i fis, tair wythnos beth bynnag i ddydd Gwener yma. Aeth o yn y prynhawn".

"Mae'r gŵr yn mynd i dynnu gwaed bob tair wythnos am bod ganddo ganser y gwaed.

"Mae [Ysbyty Gwynedd] Bangor yn ffonio ni i roi results y gwaed... fedran nhw ddim cysylltu efo ni.

"Fedra' i ddim ffonio allan... be' tasa rwbath yn digwydd i un ohonan ni? Sut ydan ni'n mynd i gael gafael ar rywun?

"'Dan ni'n ddibynnol arno yn hollol mewn ffordd... Mae'n sobor - 'dan ni'n ôl yn yr hen ddyddia, mae gen i ofn."

Mark Williams
Disgrifiad o’r llun,

Mae diffyg gwybodaeth ynghylch y sefyllfa yn rhwystredig, medd Mark Williams

Mae Mark Williams wedi colli cysylltiad â'r rhyngrwyd ers bron i fis bellach.

"Fy siom fwyaf ydi gyda fy narparwr gwasanaeth - eu gwaith nhw ydi cyfathrebu â chwsmeriaid," meddai.

"Dydyn nhw ddim wedi gwneud dim byd... Mae'r darparwyr wedi bod yn llaesu dwylo am bythefnos cyn i unrhyw un wneud unrhyw beth.

"Fe wnaethon ni ffonio'r rhif ffôn gawson ni gan ein darparwr a 'dan ni'n cael drwodd i system ymateb awtomatig.

"Mae gennym ni grwpiau sgwrsio ar-lein yn lleol ac yn siarad â'n gilydd a 'dan ni'n gwybod bod llawer o bobl yn yr ardal heb gysylltiad band eang, ac mae'n ymddangos bod rhai gyda band eang."

Joanna Smith
Disgrifiad o’r llun,

Mae Joanna Smith wedi gorfod gofyn i'w chwsmeriaid dalu ag arian parod gan nad oes modd gwneud taliadau ar-lein ar hyn o bryd

Yn ôl Joanna Smith, perchennog busnes yn yr ardal, mae'r sefyllfa'n cael effaith ar ei bywoliaeth.

"Rydym yn dibynnu ar amynedd cwsmeriaid," dywedodd.

"Mae wedi arafu pethau o ran cwsmeriaid a thaliadau. Rydym yn ceisio cael y mwyafrif i dalu ag arian parod bellach.

"Mae'n straen, mae wirioneddol yn straen."

Dywedodd Ms Smith fod y sefyllfa yn gostus iawn hefyd.

"Dydw i ddim yn cael gwerthu cymaint ag yr hoffwn i... ond wrth lwc, mae fy nghwsmeriaid yn ffyddlon iawn, felly dwi'n lwcus yn hynny o beth.

"Roedd rhaid i mi fynd i'r dref heddiw i gael wi-fi da mewn caffi arall, i wneud fy archebion yno felly mae'n cymryd llawer o amser ychwanegol."

Y Cynghorydd Sian Parri
Disgrifiad o’r llun,

Dywed y Cyngorydd Sian Parri bod rhai wedi penderfynu mynd i ffwrdd tra bod dim cysylltiad â'r we yn eu cartrefi

Dywedodd y cynghorydd cymunedol lleol, Sian Parri ei bod wedi dechrau clywed bod "ambell un" [heb gysylltiad] ers "o gwmpas 4 Gorffennaf".

"Fel dwi'n ddallt, mae'n bosib bod rhwng 30 a 40 o dai sydd wedi bod heb gyswllt o gwbl," meddai.

"'Dan ni'n byw yn Llangwnnadl... lle mae 'na lawer iawn o bobl angen cyswllt, achos mae bod heb wi-fi yn golygu sgynnon nhw ddim teledu, ffôn, dim ffordd o gysylltu efo pobl.

"Dwi'n ymwybodol fod 'na rywun yn un o'r tai sydd wedi penderfynu mynd i ffwrdd am wythnos er mwyn cael y cyswllt, er mwyn cysylltu efo teulu... mae hi'n broblem fawr."

Llangwnnadl
Disgrifiad o’r llun,

Mae cwmni Openreach yn ymddiheuro am y trafferthion

Mewn ymateb, dywedodd llefarydd ar ran Openreach: "Mae'n ddrwg gennym bod trigolion yn ardal Llangwnnadl yn cael trafferthion band eang yn dilyn gosod polyn newydd.

"Rydym yn deall pa mor rhwystredig yw hyn ac yn diolch i bawb sydd wedi eu heffeithio am eu hamynedd.

"Mae ein peirianwyr yn gweithio i ailgysylltu pawb mor gyflym â phosib."

Pynciau cysylltiedig